Ailddychmygu Gwlad y Rwla
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Gwlad y Rwla, cymeriadau hoffus Angharad Tomos, yn gyfarwydd i nifer o ddarllenwyr, a Rala Rwdins, y wrach glên, wedi bod yn boblogaidd ymysg plant Cymru ers ei hymddangosiad cyntaf ddechrau'r 1980au.
Ond mae'r arlunydd o Aberystwyth, Efa Lois, wedi penderfynu rhoi tro modern i'r ffrindiau hudol, ac ailddychmygu sut y bydden nhw'n edrych yn yr 21ain ganrif. Yma mae hi'n egluro pam:

Y Dewin Dwl
"Fy mwriad oedd i greu rhywbeth fydde'n portreadu'r cymeriadau mewn ffordd cyfoes, yn fy arddull i, fel sialens i fy hunan yn fwy nag unrhyw beth."

Ceridwen
"Roedd cymeriadau Gwlad y Rwla yn rhan o dirlun fy mhlentyndod, ac roedd creu y darnau hyn yn ffordd o ddod â nhw i fy mhresennol i, fel petai."

Rwdlan
"Mae'r cymeriadau arluniais i yn edrych yn wahanol i'r rhai gwreiddiol - mae un yn darllen dail te, mae gan un datŵs ac mae un arall yn darllen pêl grisial."

Rala Rwdins
"Mi osodais i'r cymeriadau ble dwi'n eu dychymygu nhw'n bod - y Dewin Dwl yn myfyrio mewn cae o fadarch, a Rala Rwdins yn eistedd mewn dŵr, wedi ei hamgylchynu â blodau."

Y Dewin Doeth
"Dwi'n cael fy ysbrydoli gan hen chwedlau a thraddodiadau sy'n dod fel ail-natur i ni yng Nghymru, a sut fydde cyflwyno'r pethau hynny ar ffurf gyfoes i'r byd tu hwnt."

Strempan
"Dwi'n arlunio menywod anghofiedig hanes Cymru ar gyfer Prosiect Drudwen a darluniau o leoliadau Cymru ar gyfer Rhithganfyddiad. Dwi hefyd yn arlunio seintiau anghyffredin Cymru ar fy nghyfrifon Twitter ac Instagram."

Efa Lois
"Dwi'n credu bod cyflwyno Cymru a'r hyn sy'n ein gwneud ni'n unigryw i weddill y byd yn hynod bwysig."
Hefyd o ddiddordeb: