Fy Stafell i: Amy Wadge

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cerddor Amy Wadge wedi gwneud ei chartref ychydig filltiroedd tu allan i Gaerdydd gyda'i gŵr, yr actor, Alun ap Brinley. Ers dwy flynedd a hanner maent yn byw ger Pontypridd gyda'u dwy ferch lle maen nhw wedi bod yn gweithio ar drawsnewid bwthyn yn gartref oes.

Un o'r ystafelloedd cyntaf i gael ei chwblhau oedd yr ystafell hon, sef stiwdio Amy.

Croesawodd Amy Cymru Fyw i'r ystafell sydd yn ofod creadigol iddi ac yn llawn arwyddion o'i llwyddiannau cerddorol.

line
Amy Wadge yn ei stiwdio

Yma dwi'n sgwennu a recordio popeth pan dwi ddim yn America. Dwi'n treulio tua saith diwrnod y mis yn America, naill ai yn Nashville neu LA. Dwi wrthi'n gorffen y gerddoriaeth ar gyfer trydedd gyfres Un Bore Mercher ar hyn o bryd, dyna sydd ar y sgrin nawr!

Chwech o 20 gitâr Amy

Mae'n siŵr fod gen i tua 20 gitâr i gyd.

Yr un ddu yma (trydydd o'r dde), fe gefais hi'n anrheg gan Alun pan oedden ni'n canlyn. Ac mae hon fan hyn (ail o'r chwith) yn fodel 'Sheryl Crow', ond dwi'n cofio baglu dros fy ngeiriau pan es i i'r siop i'w phrynu a dweud 'mod i'n chwilio am gitâr model Cheryl Cole!

Gitârau a fiola Amy
Disgrifiad o’r llun,

Ei gitâr gyntaf, y model Atkin WOJ a fiola Amy

Am flynyddoedd ro'n i'n chwarae gitârs ail-law o siopau elusen gan fod fy rhieni i wedi dweud y cawn i un newydd unwaith ro'n i o ddifri am chwarae - ro'n i wedi rhoi'r gorau i gymaint o offerynnau drwy fy mhlentyndod. Felly, ro'n i'n 17 oed pan ges i fy gitâr 'go iawn' gyntaf sef y Fender ddu yma.

Dwi'n lwcus iawn hefyd o fod wedi cael gitâr wedi'i henwi ar fy ôl gan gwmni Atkin, sef y WOJ. Mae geiriau o un o fy nhatŵs i ar ben y gitâr, "No risk, no reward."

Ond ar y fiola nes i ddysgu popeth, go iawn. Hwn oedd fy fiola i'n tyfu fyny.

Wal y stiwdio

Dywedodd rhywun wrtha' i unwaith y gall un gân newid dy fywyd, ac yn sicr fe wnaeth Thinking Out Loud hynny i mi.

Nes i gwrdd ag Ed [Sheeran] pan oedd e'n 17 mlwydd oed. Fe ddaeth e draw am sesiwn sgwennu gyda fi ac ro'n i'n poeni am be' fydden ni'n siarad. Ond fe ysgrifenon ni naw o ganeuon y tro cyntaf hwnnw, rhywbeth doedd erioed wedi digwydd o'r blaen a sy' heb ddigwydd ers hynny!

Rydyn ni'n ffrindiau da a dwi'n dal i ysgrifennu gyda fe.

Mae brawd Ed, Matt, yn gerddor clasurol a fe ges i hwn ganddo fe sef sgôr o Thinking Out Loud wnaeth e gyda llaw. Rhaid cyfaddef mae'n cŵl!

Sgor y gân 'Thinking Out Loud'

Alla' i ddim egluro cymaint o ddrysau mae'r gân wedi'u hagor i mi. Rwy'n cael gweithio gyda cynifer o bobl anhygoel a chwrdd ag arwyr i mi. Mae fel breuddwyd.

Amy gyda Stevie Wonder ac Ed Sheeran yn y Grammys
Disgrifiad o’r llun,

Amy gyda Stevie Wonder ac Ed Sheeran yn y Grammys

Roedd cwrdd ag Elton John yn anhygoel. Fe oedd y dechrau i mi. Mae e'n ysbrydoliaeth i gyfansoddwyr ym mhobman.

Amy yn cwrdd ag unn o'i harwyr, Elton John.

Gyda'r pethau hyn mae'n rhaid cario 'mlaen i fynd tra mae'n digwydd. Dw i ddim am stopio!

Tystysgrif statws 'Diamond'

Roedd hwn yn fraint i'w gael ac yn hynod cŵl sef tystysgrif sy'n nodi fod cân wedi cael statws diamond gan yr RIAA [Recording Industry Association of America].

Mae statws diamwnt yn golygu fod sengl wedi gwerthu dros 10 miliwn o gopïau yn yr Unol Daleithiau. Dim ond rhyw 25 o ganeuon sydd wedi derbyn y statws yma, dwi'n meddwl, ac mae Thinking Out Loud yn un ohonyn nhw - hollol anhygoel!

Amy wrth y piano

Dwi wedi cyfansoddi gyda phobl na fuaswn i 'rioed wedi dychmygu gweithio efo nhw: John Legend, Kylie Minogue, Kacey Musgraves, Camila Cabello, Alicia Keys; bob math o bobl ym myd pop a chanu gwlad.

Disgiau aur y recordiau mae Amy wedi cyfrannu atyn nhw
Disgrifiad o’r llun,

Disgiau aur recordiau gan Camila Cabello, Kacey Musgraves a Kylie Minogue y mae Amy wedi cyfrannu atynt

Dwi ar hyn o bryd yn gweithio gydag artistiaid newydd, ifanc ac mae'n bleser gweld pa mor dalentog ydyn nhw. Maen nhw'n rhyfeddol.

Gen i sesiwn prynhawn 'ma, fel mae'n digwydd. Mae Megan McKenna a ddaeth i amlygrwydd ar The X Factor a chyfansoddwr arbennig a ffrind i mi, Dave Hodges, yn dod draw am gwpl o dyddiau i gyfansoddi.

Gwobr Grammy
Disgrifiad o’r llun,

Gwobr Grammy Amy am y gân Thinking Out Loud a enillodd wobr Cân y Flwyddyn yng ngwobrau 2015

Un tro pan ddaeth 'na artist yma i gyfansoddi, y bore hwnnw ro'n i wedi gwneud cyfweliad yn y stiwdio a roedden nhw wedi gofyn i mi ddod â'r wobr Grammy i mewn yma ar gyfer tynnu llun ohono. Fel arfer mae'n cael ei gadw mewn cabinet yn yr ystafell fyw gyda gwobrau eraill. Ar ôl i'r cyfwelydd adael, nes i anghofio popeth am y Grammy a oedd yn eistedd ar ben y piano yn y stiwdio.

Roedd e'n dal yna pan ddaeth yr artist i mewn yma y prynhawn hwnnw. Wir, ro'n i'n teimlo'n wirion fel pe bawn i'n ceisio dweud "Www, edrycha ar fy ngwobr i." Cywilydd!

Nid fel hyn mae'n edrych yma fel arfer. Mae'r allweddellau wedi'u gosod fel 'mod i'n gallu ymarfer cyn y daith dwi'n mynd arni cyn bo hir.

Stiwdio Amy Wadge

Rwy'n caru'r 'stafell 'ma. Dwi wedi sicrhau ei bod hi'n ambient felly mi allaf ei newid i deimlo fel dydd neu nos dim ots pa adeg o'r dydd yw hi i siwtio pwy bynnag sydd yma yn gweithio gyda fi.

Mae'n well gen i gael yr ymdeimlad o nos i weithio yma. Ond, ie, mae'n braf cael gofod fel hwn adref.

line

Hefyd o ddiddordeb: