Cyfansoddwraig o Gymru yn ennill Grammy

  • Cyhoeddwyd
Amy WadgeFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymraes o Bontypridd wedi cael cryn lwyddiant yng ngwobrau'r Grammys yn Los Angeles nos Lun.

Fe gafodd cân y gwnaeth Amy Wadge ei chyd-gyfansoddi gydag Ed Sheeran, 'Thinking out Loud' - ennill gwobr Cân y Flwyddyn.

Roedd y gân wedi cael ei henwebu ar gyfer gwobrau - Record y Flwyddyn, Cân y Flwyddyn a'r Perfformiad Pop Unigol gorau yn yr 58fed Noson Wobrwyo Grammy.

Fe gyfarfu Sheeran â Wadge pan oedd yn 17 mlwydd oed, ac ers hynny maent wedi ysgrifennu nifer o ganeuon gyda'i gilydd.

Roedd y gân wedi aros am 19 wythnos ar siart y 40 uchaf ym Mhrydain, cyn cyrraedd rhif un ar ddechrau mis Tachwedd 2014 - dyma ail sengl gan Sheeran i gyrraedd rhif un.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddiant rhyngwladol

Mae'r sengl hefyd wedi cyrraedd y brig yn Awstralia, Iwerddon, Seland Newydd, Denmarc, Yr Iseldiroedd, Slofacia a De Affrica.

Diolchodd Sheeran i Wadge ar y llwyfan "am ysgrifennu'r gân gyda mi".

Fe ychwanegodd: "Fe wnaethom ni ei hysgrifennu ar soffa yn fy nhŷ ar ​​ôl cael cinio - roedd yn brofiad eithaf od."

Fe gafodd Cymru Fyw air gyda Wadge wedi i'r gân gael ei henwebu ar gyfer gwobr BRIT y llynedd.

Mae Wadge yn briod â'r actor Alun ap Brinley. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglenni yn achlysurol ar BBC Radio Wales.