Oriel luniau: Eisteddfod Ryng-golegol 2020
- Cyhoeddwyd
Cafodd Eisteddfod Ryng-golegol 2020 ei chynnal yn Aberystwyth dros y penwythnos, gyda chystadlu brwd a digon o hwyl rhwng Prifysgolion Cymru.
Dyma flas o'r digwyddiad, gan y ffotograffydd Iolo Penri.

Croeso i Aber! Myfyrwyr Aberystwyth oedd yn croesawu Prifysgolion Cymru i'r Eisteddfod dros y penwythnos

Côr Sioe Gerdd Prifysgol Aberystwyth ar y llwyfan

Criw Prifysgol Bangor yn cystadlu yn y gystadleuaeth Sioe Gerdd

Myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn hoffi'r gerdd ar grys t Aberystwyth

Criw Caerdydd yn dathlu

Siapiau diddorol gan griw dawnsio disgo Aberystwyth

Digon o hiwmor yn y gerdd yma ar grysau t myfyrwyr Caerdydd

Deuawd ddoniol bois Caerdydd

Steffan Prys a Tudur Phillips oedd beirniaid y dydd

Merched Aberystwyth yn joio

Criw Bangor yn dawnsio gwerin

Bois Caerdydd yn dawnsio gwerin...

Heledd Owen o Brifysgol Aberystwyth enillodd y Gadair

Llongyfarchiadau i Twm Ebbsworth o Brifysgol Aberystwyth a gipiodd y Goron
Hefyd o ddiddordeb: