Lluniau: Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru
- Cyhoeddwyd
Detholiad o luniau o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru a gynhaliwyd yn Neuadd William Aston, Wrecsam ar ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd, gan y ffotograffydd Iolo Penri.

Criw Clwb Llanwenog, Ceredigion oedd yn cystadlu yn y gystadleuaeth Meimio i Gerddoriaeth

Clwb Bodedern, Ynys Môn yn ymarfer cyn mynd ar y llwyfan

Cadi Glwys Davies o Glwb Tanant Maldwyn yn cystadlu yn y gystadleuaeth 'Sgen ti Dalent?

Y beirniaid yn trafod

Clwb Lledrod, Ceredigion yn ennill yng nghystadleuaeth y Pari Llefaru

Sgets Clwb Maesywaen, Meirionnydd ar y llwyfan

Cafodd Clwb Llidiartywaen, Maldwyn ail yn y gystadleuaeth Meimio i Gerddoriaeth

Cip ar y cystadlu trwy dwll bach y clo

Elenid Alun o Glwb Ysbyty Ifan, Eryri yn paratoi i ganu emyn

Roedd Lisa Angharad ac Ifan Jones Evans yn cyflwyno rhaglen uchafbwyntiau o'r Eisteddfod ar S4C

Sara, aelod ifanca' o glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn ei heisteddfod cyntaf! Dyma hi gyda Luned Bowen o Glwb Capel Iwan

Parti Deulais, Meirionnydd

Tomos Davies o Glwb Nantglyn, Clwyd yn arwain am y tro cyntaf, i neuadd lawn

Sion Jenkins o Glwb Clunderwen, Sir Benfro oedd enillydd y Goron yn yr Eisteddfod

Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog, Ceredigion, enillydd y Gadair, yn cael ei dywys i'r llwyfan ar gyfer y seremoni
Hefyd o ddiddordeb: