Oriel fy milltir sgwâr: Llangynog, Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Yn y cyfnod hwn o ynysu rhag y coronafeirws, mae ein milltir sgwâr ni'n dipyn agosach at adre'.
Cyn i ni gael ein gorchymyn i aros adref, bu'r ffotograffydd Aled Llywelyn yn gweld prydferthwch yn y pethau bach sy'n agos at ei gartref, ac yn rhoi darlun o'r tawelwch ym mhentre Llangynog yn Sir Gaerfyrddin.

Tamaid o awyr iach ar y beic.

Mae wedi bod yn dywydd da i sychu dillad.

Dim ysgol ond yn hapus i ddysgu gan Mam yn y gegin.

Sbecian. Amser mynd am dro?

Mae'r arwydd yma ym mhentre Llangynog, ond mae rhai tebyg i'w gweld ar hyd a lled y wlad ar hyn o bryd wrth i bobl ynysu rhag y feirws.

Haul y bore yn goleuo ffenest Eglwys Llangynog.

Haul y prynhawn dros y caeau yn Llangynog.

Haul yn machlud dros y pentref.

Golygfa odidog wrth i'r haul fachlud.

Arwydd yn y pentref.

Mae lluniau o'r enfys ar ffenestri yn arwydd o ddiolch i'r gweithwyr allweddol sy'n gorfod gadael eu tai i weithio yng nghanol y pandemig.

Mynd am dro tawel.

Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd.

Merlota.

Aros yn y tŷ.

Llonyddwch y nos.
Hefyd o ddiddordeb: