Oriel: Golwg agos o flodau gwyllt
- Cyhoeddwyd

Y pabi coch
Mai - mis y blodau, ac mae hynny yn sicr yn wir eleni.
Oherwydd y cyfyngiadau teithio mae natur wedi cael heddwch i ffynnu yn ôl yr arbenigwyr - a phobl yn sylwi mwy o'r hyn sy'n eu cynefin ar ôl cerdded eu milltir sgwâr mor aml.
Un o'r rhain ydi'r ffotograffydd Clare Harding-Lyle, sy'n byw yn ardal y Bontfaen, ac yn arbenigo mewn tynnu lluniau babis newydd-anedig gyda lens macro i ddangos manylion fel bysedd, amrannau ac ati.
"Dwi wedi gorfod gohirio fy holl shoots dros y gwanwyn, sy'n amlwg yn hunllef i'r busnes, ond sydd wedi ngalluogi i arafu rywfaint a sylwi ar bethau byswn i ddim fel arfer yn gweld," meddai.
"Gan fy mod i methu cynnig shoots babis ar hyn o bryd, dwi wedi bod yn mynd a'r camera efo'r lens macro allan am dro yn lle, ar ôl i fi sylwi pa mor lliwgar oedd y perthi a'r llwyni."


Llygad llo mawr

Blodyn neidr

Sioni rhew

Dant y llew

Blodyn menyn

Gorthyfail

Meillionen goch

Llygad doli

Rhedyn

Clychau'r gog

Draenen wen
Hefyd o ddiddordeb: