Cyfarfod un o'r artistiaid tu ôl i furluniau Pen Llŷn

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfnod pandemig COVID-19 wedi bod yn hynod heriol, gyda llawer yn poeni pryd fydd rhywfaint o normalrwydd yn dychwelyd i'n bywydau.

Ym Mhen-Llŷn mae nifer o artistiaid wedi ymateb drwy arddangos gwaith lliwgar ar draws yr ardal. Un ohonynt yw'r athro Dafydd Trefor.

Ffynhonnell y llun, dafydd trefor

Esboniodd Dafydd pam y dewisodd droi at baentio ac arddangos ei waith yn ddiweddar.

Yn dilyn clirio, sortio, sgrwbio a dystio pob twll a chornel o'r tŷ, gorffen jobsus oedd ar ei hanner, be' arall oedd i'w wneud ond mynd ati i baentio gyda'r amser ychwanegol oedd gennyf ar fy nwylo?!

Cafodd y gwaith celf yma ei ysbrydoli yn uniongyrchol gan sefyllfa pandemig COVID-19.

Y darnau cyntaf gafodd eu creu oedd yr arwyddion 'GO HOME' a'i debyg yn sgil y ffaith bod ymwelwyr yn teithio i Ben Llŷn i'w hail gartrefi, yn gwbl groes i ganllawiau'r Llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Trefor

Er fod sawl arwydd a plac home-made wedi codi fyny gan artistiaid nofis, teimlwn bod lle i allu trosglwyddo'r neges mewn ffordd lliwgar a chreadigol.

Gosodwyd yr arwyddion mewn llefydd amrywiol - faint o wahaniaeth y gwnaethpwyd, pwy a ŵyr, ond mi gafodd trigolion Pen Llŷn dipyn o hwyl yn eu gweld!

Ffynhonnell y llun, Dafydd Trefor

Cais gan riant o'r pentref oedd 'Daw eto haul ar fryn'. Gofyn wnaeth hi yn wreiddiol am daflen liwio i'w phlant, gyda'r idiom perthnasol i'r cyfnod gyda darlun a fuasai'n cyfleu Trefor, er mwyn ei roi wedyn i nain yn anrheg.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Trefor
Ffynhonnell y llun, dafydd trefor

Cefais yr awch wedyn i fynd ati i baentio yr amlinelliad fy hun er mwyn ei roi fyny yn sgwâr y pentref er mwyn codi calonnau'r Treforians.

Mae'r darlun yn parhau i ymgartrefu ar y sgwâr, a caiff fod yno tan i'r elfennau tywydd gael y gorau ohono.

Comisiwn gan y cynghorydd Gareth Williams, Botwnnog, oedd yr arwydd 'Diolch Gweithwyr Allweddol'. Teimlai yr hoffai arwydd gyda neges glir o Fotwnnog yn diolch i'r holl weithwyr - boed yn bostman, yn athro, yn gweithio i'r GIG neu mewn archfarchnad - yn ystod y cyfnod cythryblus.

Aethpwyd i baentio darn o bren wyth troedfedd er mwyn sicrhau fod y neges yn amlwg i'w weld ym Motwnnog. Gellir ei weld reit yng nghanol y pentref.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Trefor

Gan mai athro yw fy swydd, roeddwn yn gwbl ymwybodol o'r her oedd yn wynebu rhai rhieni tra'n trio i addysgu eu plant o adref. Dyma fynd ati i osod 'Helfa Ieir' i blant Trefor er mwyn manteisio ar y tywydd braf i gael y plant i fynd allan i wneud eu ymarfer corff dyddiol a dod â ychydig o hwyl i fewn i'r peth.

Mi osodais Wini, Elsi, Bobi ac Owi ar lwybrau mynd am dro poblogaidd y pentref - rownd lan môr, rownd Cwm, rownd lôn a Choed Elernion.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Trefor
Ffynhonnell y llun, Dafydd Trefor

Roedd yr ymateb yn hynod wych. Bu niferoedd helaeth yn chwilio amdanynt, llawer o Drefor wrth gwrs, yn ogystal â rhai o Lanaelhaearn, Llithfaen, Clynnog Fawr a Phwllheli; a nid dim ond plant ychwaith - bu ambell oedolyn yn chwilota yn ogystal!

Daeth ceisiadau wedyn o Fôn a Gaer am ieir er mwyn yr un pwrpas. Mae'r ieir dal yn cuddio rhag Sion Blewyn Coch hyd heddiw yn Nhrefor!

Ffynhonnell y llun, Dafydd Trefor

Cefais amser yn ystod y cyfnod clo i droi at y piano sydd yma yn hel llwch i fod gwbl onast. Tra'n chwarae a mwmian canu, roedd geiriau ambell i gân yn ymddangos yn berthnasol iawn yn ystod y cyfnod. Un o'r rhain oedd Yn y Bore gan Ryan Davies - 'Codwch a gwenwch pan welwch yr haul yn y bore'.

Buodd sôn am iselder a iechyd meddwl fel effiath y cyfnod clo ar y teledu yn aml dros y misoedd diwethaf, yn enwedig i bobl bregus.

Cyffyrddodd geiriau Yn y Bore arnaf yn fwy na'r lleill a dyma fynd ati i'w drosglwyddo drwy gelf. Y brif neges am wn i yw ymfalchïwch am allu codi unwaith yn rhagor i brofi diwrnod newydd er mor anodd yr ymddangosai hynny ar brydiau.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Trefor

Ar ôl yr holl baentio, daw amser unwaith eto i roi sgrwbiad a thacluso'r tŷ!

Hefyd o ddiddordeb: