Effaith canslo gwyliau Cymru - y da a'r drwg

  • Cyhoeddwyd
Sesiwn Fawr eleni a llyneddFfynhonnell y llun, Ywain Myfyr/Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Sgwâr Dogellau ar ddydd Sadwrn Y Sesiwn Fawr eleni... a llynedd

Gwyliau cerddorol, celfyddydol, bwyd, yr Eisteddfod - maen nhw i gyd wedi cael clec gan Covid-19. Ond yn lle derbyn canslo popeth am flwyddyn gron mae nifer wedi addasu a cheisio cynnal rhywbeth ar-lein - all arwain at newidiadau er gwell yn y pendraw.

"Tawel fel y bedd."

Pedwar gair fyddai byth yn cael eu defnyddio fel arfer i ddisgrifio Dolgellau ar ddydd Sadwrn Y Sesiwn Fawr. Ond wrth gwrs tydi eleni ddim yn flwyddyn arferol.

Ywain Myfyr, un o'r trefnwyr, sy'n siarad ar ôl bod lawr yn y dref i gymharu'r awyrgylch eleni efo'r un mae o'n gyfarwydd iawn ag o ers i'r ŵyl gael ei sefydlu yn 1992.

"Roedd ambell un yn y tafarndai, tu allan, ond roedd llefydd fel y sgwâr, fyddai fel arfer yn llawn o bobl, yn wag," meddai.

Fel cymaint o wyliau'r haf eleni roedd yn amlwg fisoedd yn ôl bod rhaid gohirio, rhywbeth fyddai'n effeithio'r dref gyfan.

"Mae'n benwythnos da iawn i'r tafarndai a'r caffis, does 'na'm gwely gwag yn y dref," meddai.

"Mae'r incwm maen nhw'n wneud o'r penwythnos yn cadw nhw i fynd drwy fisoedd llwm y gaeaf. Mae'r sesiwn wedi newid dros y blynyddoedd, ond dwi'n cofio rhywun yn dweud ar un adeg bod o werth hanner miliwn i'r dref, a bod un bar ar nos Wener yn cael £12,000."

Ffynhonnell y llun, ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Criw yn mwynhau - ac yn gwario - yng Nglwb Rygbi Dolgellau yn 2019

Mae'r Sesiwn Fawr wedi hen ennill ei phlwyf fel un o brif wyliau cerddorol Cymru ac roedd y trefnwyr yn awyddus i gynnal rhyw fath o ddigwyddiad eleni er mwyn cefnogi'r artistiaid mewn cyfnod anodd. Fel nifer o wyliau eraill, o'r rhai lleiaf i'r Eisteddfod AmGen sy'n dechrau ddiwedd yr wythnos, yr ateb oedd sesiwn fach ar y we.

Gofynnwyd i artistiaid recordio perfformiad, ac fe gafodd y cyfan ei roi at ei gilydd a'i roi ar y we ar nos Sadwrn y Sesiwn.

Un oedd yn gwylio'n fyw oedd Ywain Myfyr ei hun, fyddai fel arfer wedi bod yn edrych i fyny at y cymylau duon tra'n gobeithio am y gorau.

"Roedd o reit neis i beidio cael y stress yna!" meddai. "Dwi wedi gallu ymlacio mwy na'r penwythnos Sesiwn Fawr arferol ac roedda ni i gyd fel trefnwyr yn edrych ymlaen yn ystod y dydd i weld y sesiwn ddigidol ac mae'r ymateb wedi bod yn bositif iawn."

Ffynhonnell y llun, Sesiwn Fawr Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 10,000 o bobl wedi gwylio'r Sesiwn Fawr ddigidol ar y we

Hyder i arbrofi

Profiad tebyg gafodd trefnwyr Gŵyl Arall, sydd fel arfer yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon ganol Gorffennaf.

Eleni roedd y digwyddiadau diwylliannol, fel taith hanes rhithiol, darlithoedd a sesiynau celf, hefyd wedi eu recordio a'u cyhoeddi ar y we fel Gŵyl Ffor Arall.

Yn ôl un o'r trefnwyr maen nhw mewn sefyllfa ffodus - dim llawer o gostau sefydlog ac amser i ddysgu gan ddigwyddiadau rhithiol eraill gafodd eu trefnu yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae hynny wedi arwain at yr hyder i arbrofi, yn cynnwys cynnal y gig gomedi Cymraeg ddigidol gyntaf i'w darlledu yn fyw, a hynny ar nos Iau 30 Gorffennaf, pan fydd rhai o'r gwylwyr gartef yn gallu bod yn rhan o'r gynulleidfa ar y sgrin.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri/Gŵyl Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae manteision amlwg i gynnal digwyddiad byw... Ifor ap Glyn mewn pyb crôl llenyddol yn 2018... ac yn cyflwyno 'sesiwn' ar y we yn 2020

"Os ti efo Zoom a Facebook mae pethau mor hawdd dyddiau yma," meddai Chris Roberts, un o'r trefnwyr. "Mae unrhyw un sydd eisiau creu digwyddiad dros y we yn gallu gwneud, a faswn i'n annog unrhywun i wneud hynny os maen nhw eisiau.

"Dwi'n meddwl bydd mwy a mwy o bobl yn creu cynnwys ar y we, mae'n ffordd fwy democratig o fedru gwneud wrth i gostau fynd lawr.

"Ond mae yna wefr o fod mewn digwyddiad byw, o fod yno efo pobl eraill - pobl ti'n nabod a phobl ti ddim yn nabod, dwi'm yn meddwl all y we gystadlu efo hwnna."

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddiad byw ar un o strydoedd Caernarfon yng Ngŵyl Arall 2018

"Dwi hefyd yn meddwl bod Gŵyl Arall wedi bod yn eitha' da yn denu pobl at random," meddai Chris. "Pobl sy'n cerdded heibio a meddwl 'o mae hwn yn digwydd yn fama' ac yn mwynhau ac yn dod 'nôl ella ar ddiwrnod arall. Tydi hynny ddim yn bosib dros y we - ffyddloniaid Gŵyl Arall dwi'n meddwl sydd wedi bod yn edrych ar y cynnwys digidol.

"Ac eto 'da ni wedi bod yn rhoi lot o stwff ar wefan AM (llwyfan i gynnyrch digidol Cymraeg) a gobeithio bod pobl wedi dod ar draws y cynnwys fyddai heb ddarganfod ni fel arall."

Blas dros y we

Tra bod gŵyl rithiol yn colli allan ar gael torf byw, mae gwyliau bwyd ar y we yn colli elfen arall go bwysig - y blasu. Yr ateb i Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ydi newid pwyslais yr holl ddigwyddiad.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar y blasu, bydd yr ŵyl yn cynnal sesiynau i ddysgu am fwyd a chreu marchnad rithiol ar Facebook lle fydd posib holi'r stondinwyr a phrynu eu cynnyrch.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl o bob oed yn mynd i Ŵyl Fwyd Sain Ffagan, a bydd digwyddiadau teuluol ar gael ar y we eleni hefyd

Er gwaetha'r siom o fethu cael digwyddiad byw, mae'r sialens o addasu wedi arwain at newidiadau positif all gael eu mabwysiadu i'r dyfodol.

Fel arfer, mae Sain Ffagan yn ganolog i'r ŵyl ac yn denu 25,000 o ymwelwyr i'r amgueddfa.

Gan fod lleoliad yn llai pwysig i'r byd rhithiol mae'r trefnwyr wedi gallu defnyddio rhai o'u hamgueddfeydd eraill Cymru, fel Amguedddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Lleng Rhufeinig.

"Allwn ni gydlynu holl elfennau bwyd pob safle," meddai Mared Maggs, Pennaeth Digwyddiadau Amgueddfa Cymru. "Allwn ni gael ryseitiau o ardal y chwareli yn y gogledd, neu sesiwn am gynhyrchu mêl yn Amgueddfa'r Glannau, Abertawe. Fydda ni methu gwneud hynny o'r blaen oherwydd doedd o ddim yn gwneud synnwyr.

Agor drws?

"Mae'n fwy o ddigwyddiad Cymru gyfan yn hytrach na dim ond Sain Ffagan. Os mae hyn yn gweithio eleni, efallai mai'r gwaddol fydd ein bod ni yn dod â'r digwyddiad byw yn ôl flwyddyn nesa' ond bod y cynnwys digidol yn cyd-redeg gyda chynnwys ar draws safleoedd a chasgliadau Amgueddfa Cymru."

Ac mae trefnwyr gwyliau eraill hefyd yn gweld pethau positif i'r dyfodol.

Meddai Chris Roberts: "Mae'n bechod pan mae 'na ddigwyddiad difyr yn Gŵyl Arall, mae'n rili da a ti eisiau dweud wrth bobl amdano - ond does unlle lle maen nhw'n gallu ei weld o achos mae o wedi bod.

"Ella yn y dyfodol fydd posib i ni recordio un neu ddau o'r digwyddiadau a'u rhoi ar y we, wedyn all pobl ddal fyny a'i wylio, cael blas ar be' 'da ni'n ei wneud ac ella denu nhw i'r ŵyl."

Yn Nolgellau hefyd, lle mae trefniadau 2021 eisoes ar droed, mae'n bosib fydd y cyfnod clo yn arwain at agor allan i gynulleidfa newydd yn y pen draw yn ôl Ywain Myfyr:

"Mae'n dibynnu be' fydd yn digwydd efo sefyllfa'r coronafeirws ond ella fyddwn ni'n gallu defnyddio'r we ar gyfer cyhoeddi'r ŵyl flwyddyn nesa'.

"Mae 'na rywbeth reit neis am gael pethau ar y we. Ella fydda ni'n gallu gwneud promo o'r bandiau sy'n chwarae. Mae'n rhywbeth sy'n gweithio, ac mae'n rhywbeth mae pawb wedi arfer ag o erbyn rŵan."

Hefyd o ddidordeb: