Gwyliwch gân o gyngerdd arbennig Bryn Bach
- Cyhoeddwyd
Ar nos Wener 31 Gorffennaf fe fydd Bryn Fôn yn perfformio mewn cyngerdd arbennig ar Radio Cymru, gyda'i fand Bryn Bach.
Dyma ragflas o'r cyngerdd wrth i'r band berfformio Strydoedd Aberstalwm, un o glasuron y cyfansoddwr Alun 'Sbardun' Huws.
Aelodau eraill y band yw John Williams, Rhys Parry a Manon Llwyd gyda Ffion Emyr. Cafodd y caneuon eu recordio yn stiwdio Sain yn gynharach ym mis Gorffennaf, a hynny dan amodau pellhau cymdeithasol.
Bydd sawl uchafbwynt cerddorol yn ystod yr ŵyl gan gynnwys:
Cyngerdd 'Gwerin o Gartref' ar nos Iau 30 Gorffennaf gyda Lleuwen, Gwilym Bowen Rhys a mwy.
Cyngerdd o ganeuon o Sioeau Cerdd, gyda Rhys Taylor a'i fand ar nos Sadwrn 1 Awst.
Yna yn hwyrach yn ystod wythnos yr Eisteddfod AmGen fe fydd modd gwylio cyngherddau yr Eisteddfod, gan gynnwys Maes B ar Cymru Fyw.
Bydd Cyngerdd Bryn Fôn yng nghwmni Bryn Bach ymlaen ar BBC Radio Cymru am 20:00 dydd Gwener, 31 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2024