Pwy yw llywyddion y dydd Gŵyl AmGen?

  • Cyhoeddwyd

Mae tri Llywydd y Dydd yn cyflwyno anerchiad dyddiol yn ystod penwythnos Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru a Cymru Fyw; Toda Ogunbanwo, Seren Jones a Josh Nadimi.

Pwy ydyn nhw a beth yw eu hanes?

Toda Ogunbanwo

Toda Ogunbanwo yw llywydd dydd Gwener. Mae'n 20 oed ac yn dod o Benygroes yng Ngwynedd. Symudodd ei deulu yno i fyw o Harlow yn Essex pan oedd Toda yn saith mlwydd oed.

Mae bellach yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Brunel yn Llundain ac yn gobeithio bod yn hyfforddwr chwaraeon. Yn ddiweddar, daeth cymuned Penygroes at ei gilydd i gefnogi teulu Toda wedi i graffiti hiliol gael ei ysgrifennu ar ddrws garej eu tŷ yn y pentref.

Mae ei fam, Maggie, yn gogyddes sy'n adnabyddus yn yr ardal am ei sawsiau a'i bwydydd egsotig mae'n eu gwerthu yn y busnes mae'n ei redeg o Eryri.

Seren Jones

Un o Gaerdydd ydy Seren Jones, gohebydd, cyflwynydd a chynhyrchydd sy'n gweithio yn Uned Podlediadau Newyddion y BBC yn Llundain.

Hi yw llywydd dydd Sadwrn.

Mae Seren hefyd yn un o gyd-sylfaenwyr The BSA (The Black Swimmers Association) - elusen a sefydlwyd i dynnu sylw at bwysigrwydd nofio fel sgil achub bywyd hanfodol, ac annog mwy o bobl mewn cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig i ddysgu sut i nofio.

Joshua Nadimi

Llawfeddyg yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd yw Josh - llywydd dydd Sul - sy'n 28 mlwydd oed. Daw yn wreiddiol o Lantrisant lle'r aeth i'r ysgol gynradd Gymraeg ac yna Ysgol Gyfun Llanhari.

Ar ôl graddio mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl bu'n ymarfer meddygaeth yng ngogledd orllewin Lloegr am dair blynedd cyn dod nôl i Gymru i ddechrau hyfforddiant fel llawfeddyg, gan abenigo mewn trawma ac orthopedeg. Mae wedi ei benodi yn Trauma Fellow yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd.

Peiriannydd electroneg sy'n wreiddiol o Iran yw ei dad a'i fam yn athrawes o Aberporth yng Ngheredigion.

Mae'r tri llywydd wedi eu dewis "fel rhan o'r ymrwymiad i ehangu'r cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig," meddai Rhuanedd Richards, golygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw.

Dywedodd y bydd eu hanerchiadau yn "gyfraniadau pwysig i'r drafodaeth gyhoeddus am hunaniaeth, hil, Cymreictod a chymdeithas."

Ychwanegodd: "Mi fydd yr ŵyl hon yn ddathliad o gyfoeth ac amrywiaeth ein cymunedau yng Nghymru heddiw.

"Ydi, mae hynny'n ddatganiad bwriadol ar ein rhan ni, a'n hawydd i roi llwyfan mwy blaenllaw i siaradwyr Cymraeg o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. "