Y Steddfod orau... a'r Steddfod 'waetha'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol eleni, yr Eisteddfod AmGen, yn wahanol iawn i'r arfer yn amlwg. Ar-lein mae'r cyffro, gan fod pandemig COVID-19 wedi ein hatal rhag cymysgu ar y Maes yn Tregaron.
Ond mae hefyd yn gyfle i ni feddwl am ein hoff Eisteddfodau dros y blynyddoedd... ac efallai'r rhai sydd ddim yn dod ag atgofion mor felys.
Gofynnodd Cymru Fyw i ambell wyneb cyfarwydd sy'n gysylltiedig â'r Steddfod i rannu eu profiadau.
Hywel Gwynfryn
Yr Eisteddfod orau erioed i mi yn bersonol fel cystadleuydd oedd fy eisteddfod gyntaf, yn Llannerchymedd yn 1954. Roeddwn i'n ddeuddeg oed ac yn cystadlu ar y llefaru, a thrwy gydol fy mherfformiad gorchestol gellid clywed ci yn cyfarth yn ddi-stop. Ar ôl gorffen llefaru a mynd yn ôl i fy sêt, gofynnais i fy ffrind a oedd gen i obaith o ennill yr hanner coron o wobr. 'Wel,' meddai, 'mi faswn i'n rhoi'r ail wobr i chdi, a'r wobr gynta' i'r ci."
Yr eisteddfod orau erioed i mi yn broffesiynol oedd Eisteddfod y Barri 1968 - fy Eisteddfod gyntaf fel darlledwr. Fe ges i'r anrhydedd o drafod yr awdl gyda mwnci o'r sŵ gyfagos. (Mae'r ffilm ar y we yn rhywle o hyd!)
A 'dw i hefyd yn cofio holi Caradog Pritchard a'i wraig Matti, y ddau yn eisteddfodwyr brwd. A thra roeddwn i'n holi'r ddau, roedd pwdl Matti wedi codi ei goes a glychu fy nhrowsus. Dyna oedd bedydd go iawn.
Y Steddfod waethaf heb os oedd Eisteddfod Abergwaun 1986, oherwydd y tywydd ofnadwy. Y gwynt a'r glaw, ac yn bennaf y mwd. Mi fasa hipopotamws wedi teimlo'n gartrefol iawn yn nofio drwy'r swamp frown mwdlyd o gae.
Ac fe anfarwolwyd y mwd gan feirdd y Babell Lên, a chân un o'r beirdd yn arbennig sef Machraeth o Fôn. Gosodwyd llinell i feirdd y Babell Lên ar y testun 'Y Maes'. Dyma englyn buddugol Machraeth:
O dan draed mae'r mwd yn drwch - yn sicli
Fel siocled neu bibwch
I hwn ni throedia'r un hwch
Ella, ond yn yn y t'wyllwch.
Rhiannon Lewis
Roedd Eisteddfod Caerfyrddin 1974 yn bwysig gan mai hon oedd yr un cyntaf i mi ymweld â hi am yr wythnos gyfan bron. Teithio'n ddyddiol ar fws service Blossom Pencader ond colli dydd Gwener a dydd Sadwrn gan fod criw ohonom yn mynd i Wersyll Glanllyn.
Mae Eisteddfod Aberteifi 1976 yn nodedig hefyd - y tro cyntaf i mi garafanio gyda chriw o ffrindiau. Roedd hi'n arferiad yn y cyfnod hynny i gynnal Cymanfa'r Plant ar y Sul olaf ac fel un o blant y sir roeddwn i'n canu yn y côr sirol ac yn aelod o'r gerddorfa oedd yn cyfeilio i'r emynau. Mae'r rhaglen gen i o hyd ac rwy'n dal i gofio canu Cydganed Pawb a Disgwyliais Wrth yr Iôr dan arweiniad Allan Wynne Jones, er mae'n siŵr nad oedd fawr o lais gen i ar ôl holl hwyl yr wythnos.
Mynd i'r gogledd ddwyrain y flwyddyn ganlynol, i Wrecsam (1977) yn griw o ffrindiau unwaith eto. Doedd yr un ohonom yn berchen car felly rhaid oedd gofyn i'm mrawd a'm mrawd yng nghyfraith i'n cludo ni i fyny ac i dynnu'r carafán i ni.
Yn y cyfnod hynny yr unig gylchdro yng Ngheredigion oedd yr un fach yn Llangeitho ac fe aethon ni o amgylch y gylchdro ger Wrecsam dair neu bedair gwaith cyn dod o hyd i'r allanfa gywir ar gyfer y maes carafanau.
Roedd hi'n Steddfod nodedig gan i Donald Evans ennill y Gadair a'r Goron. Ro'n i'n stiwardio yn y pafiliwn ar gyfer y ddau seremoni ac wrth fy modd o glywed ac adnabod enwau traethau Ceredigion (Cei Bach a Thraeth Gwyn) fel ffugenwau i'r Prifardd newydd. Rwy'n dal i gofio hefyd noson y Trwynau Coch ar y Cae Ras a chyffro noson Adfer mewn clwb yn y Rhos.
Daeth yr Eisteddfod i Lanbed yn 1984 a dyna beth oedd wythnos brysur rhwng cystadlu gyda'r ysgol, a finne'n athrawes erbyn hyn, cystadlu gyda adran Llanbed a pharti gwerin lleol, gweithgareddau'r babell ieuenctid Bedlam, cyfeilio i ambell seremoni a chyngerdd, canu yng nghôr yr Eisteddfod a mil o weithgareddau eraill! Roedd hi'n hyfryd clywed Cymanfa Ganu 1984 ar Caniadaeth y Cysegr Sul diwethaf a chlywed R. Alun Evans yn ein atgoffa bod tua 5000 o bobl yn medru eistedd yn y pafiliwn bryd hynny.
Yn Eisteddfod Llanbed hefyd y ces i fy nghyfweliad cyntaf gyda Hywel Gwynfryn a hynny ar fore Llun yr ŵyl - cyfle i sgwrsio am Bedlam a beth fyddai'n digwydd yn y babell yn ystod yr wythnos. Ar yr adeg hynny roedd Hywel yn darlledu o stiwdio fyny fry ar ochr flaen y pafiliwn ac wrth aros amdano y bore hynny y clywais i ar y newyddion bod Richard Burton wedi marw.
Mae eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfuniad o weithio i BBC Radio Cymru, ychydig o gystadlu gyda pharti llefaru Sarn Helen, cefnogi a chyfeilio i ambell gystadleuydd a mwynhau wrth gwrs.
O'r Steddfodau mwyaf diweddar rwy'n credu mai'r un wnaeth fy synnu oedd eisteddfod Y Fenni. Roedd rhyw deimlad arbennig a chartrefol ar y maes, y dref yn agos a'r ddau leoliad yn dod at ei gilydd. Dyna oedd ein dymuniad hefyd ar gyfer Eisteddfod Ceredigion yn Nhregaron eleni a dyna fel fydd hi gobeithio flwyddyn nesa'.
Tudur Owen
Mae'n anodd dewis y Steddfod orau achos mae bob un efo'u rhinweddau - rheiny dwi 'di bod iddyn nhw beth bynnag. Mae'n rhaid mi gyfadda oedd Steddfod Bala yn 2009 yn arbennig o'n i'n meddwl. Nes i deimlo rhywbeth yn newid yn Steddfod Bala - falla mai fi oedd yn mynd yn hŷn - ond teimlo bod 'na switsh 'di newid yn y Steddfod a bod hi di newid gêr a di dechrau ar y daith o fynd yn Steddfod i fod yn fwy o ŵyl.
Dwi'n cofio am y tro cynta' meddwl 'dwi'n wirioneddol mwynhau hyn', dim jest mynd yna i gefnogi neu feddwi. O'n i'n mwynhau pob agwedd ohono, ac odd hi'n Y Bala ac odd hi'n teimlo fod y Steddfod fod yno rhywsut, bod hi yn ei chynefin. Bron oedd hi fel dechrau cyfnod newydd i'r Steddfod.
Mae'r ddegawd dwetha' 'ma wedi bod yn gyfnod gwych i'r Steddfod, er bo' na broblemau 'di bod efo'r tywydd ac ati, ac mae bob Steddfod ers Bala wedi bod yn gam ymlaen, gyda'r ŵyl yn gwella a gwella.
Y Steddfod cynta' imi fynd iddi erioed a chael mynd allan yn iawn oedd Llangefni yn 1983, o'n i'n 16. Hon oedd y Steddfod gynta' i mi fod yno heb afal llaw Mam, math o beth, ac mi ges i agoriad llygad o fynd i Twrw Tanllyd yn Llangefni - odd hi'n boncyrs yno ac yn flêr - bedydd tân go iawn.
O'n i'n priodi ar 1 Awst 1992, ac felly roedd ein mis mêl ni mewn gwirionedd yn Steddfod Aberystwyth yn y flwyddyn honno. Mae'r wraig yn Eisteddfodwraig mawr, ac wedi i ni briodi fe agorwyd rhyw ddrws imi i Steddfod o'n i heb weld o'r blaen, a dwi 'di bod i'r rhan fwya' ohonyn nhw ers hynny.
Oedd Steddfod llynadd yn Llanrwst yn arbennig fyd achos ges i'n Urddo i'r Orsedd. Mi roedd hwnnw'n anhygoel ac mi fydd o'n aros yn y cof am byth.
O'n i'n siomedig efo'r Steddfod yn Ynys Môn tro dwetha', a 'di hwnna ddim yn feirniadaeth ar bobl Môn o gwbl! 'Nes i 'neud smonach efo'n nyddiadur, felly yn Steddfod Bodedern ches i 'mond mynd yna am y penwythnos cyntaf, achos o'n i'n gorfod gadael i fynd i Gaeredin ar y dydd Mawrth.
O'n i wedi edrych 'mlaen gymaint at Steddfod Môn, yn fy nghynefin i, a drwy fy nghamgymeriadau i a'r ffaith bod hi wedi bod yn bwrw'n wirion, 'nath o ddim cweit gweithio allan fel o'n i wedi gobeithio. Felly dwi'n edrych 'mlaen at y tro nesa' mae o'n dod i Sir Fôn i ni gael neud fyny am hynny - ond dim bai bobl Sir Fôn na'r trefnwyr oedd o - fy mai i!
Ond mae'n rhaid i mi ddweud 'nes i fwynhau'r cyngerdd yn Steddfod Môn, ac felly ma'n anodd ffeindio rhywbeth negyddol i ddweud am Steddfod!
Branwen Gwyn
Pan ofynnwyd i mi feddwl pa un yw fy hoff Eisteddfod Genedlaethol erioed, doedd dim amheuaeth am fy ateb. Eisteddfod Caerdydd 2018. Na, doedd hi ddim yn 'Steddfod draddodiadol, ond roedd hi'n hollol wych... ac roedd hi'n braf (wel, heblaw am y dydd Sadwrn olaf, pan ddaeth y dilyw - ond anghofiwn ni am hynny!)
Dwi'n byw lai na milltir o Fae Caerdydd, felly taflais fy hun gydag arddeliad i mewn i bob mathau o weithgareddau codi arian ac ymwybyddiaeth yn Grangetown, fy ardal leol, cyn yr wythnos fawr.
Felly beth oedd yr uchafbwynt? Wel, mae'n anodd dewis un! Cael bod yn rhan o gorws y sioe emosiynol Hwn yw Fy Mrawd (yr agosaf y dof i fyth i fod mewn sioe gerdd - ro'n i wrth fy modd!)? Cael fy urddo i'r Orsedd gydag Elis, fy ngŵr? Gweld Esyllt fy merch a'i ffrindiau'n cael cyfle i ganu a llefaru gyda'i hysgol (Ysgol Hamadryad - ysgol Gymraeg fwyaf newydd Caerdydd, a'r agosaf at y safle) ar hyd a lled y Maes? Canu gyda Chôr yr Eisteddfod? Cystadlu (ac ennill!) gyda Chôr Canna a Merched y Ddinas, ac ennill Côr yr Ŵyl eto gyda Côrdydd? Ie, rheina i gyd!
Ond yn fwy na hynny - gweld pobl o bob oed, cefndir a iaith yn dod i'r Eisteddfod - rhai am y tro cyntaf ac efallai'r tro olaf, a phawb yn mwynhau ac yn rhyfeddu at y cyfan oedd ar gael... a hynny am ddim. Oedd, roedd hi'n wythnos a hanner! Brysiwch acw eto!
Does gen i ddim byd yn erbyn pobl Maldwyn a'u mwynder enwog, ond roedd 'Steddfod Meifod 2003 yn sicr yn un i'w hanghofio! Dydw i ddim yn gollwr gwael, ond... ocê, dwi'n gollwr gwael! Roedd Côrdydd wedi sefydlu yn 2000, ac wedi llwyddo (drwy ryw ryfedd wyrth!) i ddod yn 2il yn Eisteddfodau 2001 a 2002. Roedden ni wrth ein boddau gyda'r llwyddiant, ac yn gobeithio ein bod yn adeiladu digon o fomentwm i gyrraedd y brig yn 2003! Ond, nid felly y bu... nid o bell ffordd!
Rywsut, roedden ni wedi anghofio amseru ein rhaglen, ac ar ôl inni gystadlu, mi gwynodd rhywun (ti'n gwybod pwy wyt ti!) ein bod ni wedi mynd ymhell dros amser (dwi ddim yn meddwl bod y beirniaid wedi sylwi, nac yn poeni rhyw lawer!). Ond rheol yw rheol - felly, er mai ni oedd â'r mwyaf o farciau cyn hynny, roedd y nifer o farciau oedd wedi eu tynnu o'n sgôr yn golygu ein bod ni'n syrthio reit i lawr i'r safle olaf! Wel! Sôn am siom! Doedd dim amdani ond boddi ein gofidiau am weddill y noson, a chwyno wrth bawb oedd yn fodlon gwrando am ein 'cam'!
Ond do, y flwyddyn ganlynol, yng Nghasnewydd, mi lwyddon ni godi'r cwpan am y tro cyntaf. Ond wyddoch chi beth? Dydyn ni dal ddim wedi dysgu ein gwers! Dim ond yn ystod yr ymarfer olaf rydyn ni'n dal i amseru, ac mae wedi bod yn agos ar adegau, credwch chi fi - yn agos iawn! Ond dwi'n siŵr y gnawn ni ein gorau glas i gadw i fewn yr amser yn Nhregaron 2021!