Cyfnod cyffrous i ddilynwyr stormydd
- Cyhoeddwyd
Dros yr wythnos diwethaf mae stormydd mellt a tharanau wedi taro Gymru gyfan.
Er fod bod yng nghanol storm yn gallu bod yn brofiad dychrynllyd, mae criw o ffotograffwyr yng ngogledd Cymru wrth eu boddau yn eu dilyn.
Yn ddiweddar mae Derren Jones o Landdulas, Conwy wedi sefydlu grŵp ar Facebook o'r enw North Wales Storm Followers.
Ymysg yr aelodau mae criw o ffotograffwyr sy'n mentro allan yn y storm er mwyn ceisio tynnu lluniau o fellt a thywydd eithafol.
Sefydlodd y grŵp, meddai, ar ôl derbyn sawl neges gan ffrindiau yn ei holi am y rhagolygon tywydd:
"Roeddwn yn teimlo dyletswydd i gadw fy ffrindiau yn ddiogel os oedd tywydd eithafol ar y ffordd, felly es ati i sefydlu'r grŵp.
"Mae'r grŵp yn rhoi sylw i stormydd hafaidd, gwyntoedd uchel, eira ac wrth gwrs stormydd mellt a tharanau."
Mae'r grŵp hefyd yn annog aelodau i rannu lluniau gwahanol o dywydd eithafol mae nhw wedi ei cymryd wrth fentro allan.
"Mae'r wythnos hon wedi bod yn anhygoel ac mae'r grŵp wedi bod yn brysur iawn yn mentro allan fin nos ar ôl astudio'r mapiau a'r radar."
Un aelod o'r grŵp sy'n ddiolchgar o'r wybodaeth yw'r ffotograffydd o Langefni Gareth Môn Jones:
"Mae'n handi iawn cael gwybod pryd a lle ar hyd arfordir gogledd Cymru fydd y stormydd yn taro. Mae'n bwysig paratoi a chynllunio'n iawn cyn mynd allan," meddai. "Mae rhaid bod yn y lle iawn ar yr amser iawn ac wrth gwrs cadw'n saff."
Ychwanegodd mai ei hoff lun storm mae erioed wedi llwyddo ei ddal oedd pan darodd fellten oleudy Trwyn Du ym Mhenmon.
"Dwi wedi bod yn gwneud hyn rŵan ers ryw bum mlynedd a dwi wrth fy modd.
"Mi faswn yn annog rhywun sy'n meddwl gwneud yr un peth i edrych ar y wybodaeth yn ofalus, pheidio â chymryd risgiau a wastad cadw'n ddiogel."
Wrth i'r Swyddfa Dywydd rybuddio am ragor o dywydd stormus yr wythnos hon, mae Derren Jones yn rhagweld bydd tudalen y grŵp yn brysur.
"Mi fydda i yn sicr yn cadw llygaid barcud ar y wybodaeth ac yn barod i fynd i ble bynnag gyda fy nghamera," meddai.
Hefyd o ddiddordeb: