Storm Ciara: Lluniau dramatig Cymru
- Cyhoeddwyd
Daeth Storm Ciara i Gymru gyda gwyntoedd yn hyrddio hyd at 93mya a glaw trwm yn dod â llifogydd i rannau o'r wlad.
Roedd rhybudd oren gan y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion a rhybuddion melyn am law trwm.
Roedd nifer o rybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal.

Goleudy Porthcawl yng nghanol y tonnau

Tonnau mor uchel ag adeiladau ym Mhorthcawl

Y storm yn taro ger Fairbourne yng Ngwynedd

Llifogydd yng nghanol tref Llanrwst

Yr A470 wedi cau yn Llanrwst ddydd Sul

Llifogydd ym Meddgelert, Gwynedd

Gwyntoedd mor gryf nes codi trampolîn i'r awyr

Man sydd yn aml yn dioddef yn ystod stormydd, prom Aberystwyth

Mae effaith y storm yn dal i'w weld ddydd Llun

Difrod ar y prom yn Aberystwyth

Cerbydau'n sownd yn y dŵr ar y ffordd ger Bangor Is-coed

Coeden yn disgyn ar ben car yn ardal Pen-y-Lan o Gaerdydd

Coeden wedi dymchwel rhwng Llan a Bont Dolgadfan ym Mhowys

Coeden arall i lawr ar Ffordd Pentraeth, Porthaethwy ar Ynys Môn

Y gwaith clirio'n dechrau yn Llanrwst

Gwesty George III, Penmaenpŵl, Dolgellau, fore Sul

Nerth y tonnau wedi difrodi'r wal ar draeth Cricieth
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2020