Pen-blwydd yn 70: Oriel atgofion Aloma Jones

  • Cyhoeddwyd
Aloma JonesFfynhonnell y llun, Aloma Jones

Ddiwedd Tachwedd, mae Aloma Jones, un hanner y ddeuawd boblogaidd o Fôn, Tony ac Aloma, yn dathlu ei phen-blwydd yn 70.

Mae hi wedi rhannu rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw sydd yn adrodd hanes ei bywyd llawn cerddoriaeth ac antur.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Fi a Mam, Rowenna

Ganwyd fi yn Sir Fôn yn Ysbyty'r Gors yng Nghaergybi. Ddaru nhad a'n mam wahanu pan o'n i'n dair oed. O'dd Mam a fi'n agos iawn. Er pan fuodd hi ail-briodi, mi nes i aros efo'n nhaid a'n nain yn Llannerch-y-medd, ond mi oedd Mam dal yn rhan fawr o mywyd i.

Dewis Nain oedd mod i'n aros lle o'n i - doedd gan Mam ddim llawer o ddeud ar y mater yr adeg hynny. Yn ôl Nain, o'n i'n mynd i'r capel a chael gwersi piano a gwersi telyn, felly doedd 'na ddim posib i mi symud i Langefni, oedd ond chwe milltir i ffwrdd!

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Y delyn fenthyg

Dwi yng ngardd y cartref yn Llannerch-y-medd yma, a'r delyn oedd un o'n i wedi cael ei benthyg gan Gymdeithas Cerdd Dant Cymru am flwyddyn am ddim. A'r athrawes oedd yn dod efo'r delyn bryd hynny oedd Haf Morris, a'r flwyddyn wedyn symudais i i Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones, a hi oedd yr athrawes gerdd yn fanno. Efo hi fues i am flynyddoedd yn cystadlu mewn eisteddfodau, a diolch iddi hi o'n i'n curo yn y Genedlaethol a'r Urdd yn aml.

Ges i gynnig lle yng Ngholeg Cerdd Manceinion yn astudio'r delyn, a gwahoddiad i fod yn ddirprwy delynor efo'r Hallé Orchestra. Ond erbyn hynny, o'dd Tony ac Aloma wedi dechra' ac mi oedd crwydro Cymru a gweithio ar y teledu yn fwy diddorol na mynd i goleg. Roes i'r coleg i un ochr, yn fy meddwl jyst am y tro, rhyw flwyddyn neu ddwy. Ond es i byth yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Tony ac Aloma

Dyma un o'r lluniau cynta' o Tony ac Aloma. Dod draw ddaru Tony at Nain i chwilio am fy ewythr oedd yn ganwr, a doedd o ddim yn digwydd bod yn y tŷ, a dyma Nain yn rhoi gwadd iddo fo mewn, a ga'th Tony ddim dewis ond cael ei blannu yn y rŵm ffrynt i wrando arna fi yn perfformio.

Dechreuais i ganu efo fo a dyna oedd dechrau ar Tony ac Aloma. O'n i tua 16. Mi ddaru ni gystadlu mewn cystadleuaeth unawd pop yn eisteddfod Llangoed, ac yna cael gwahoddiad i fynd ar raglen deledu Y Dydd yng Nghaerdydd - oedd mynd o Sir Fôn i Gaerdydd fel mynd i bendraw'r byd i mi...

Yr adeg honno y dechreuodd pethau i Tony ac Aloma go iawn - o'dd y galwadau yn dod i mewn, ac odda ni'n canu mewn cyngherddau dros y lle, ac ar raglenni teledu fel Disc a Dawn a Sgubor Lawen.

O'ddan ni'n brysur ofnadwy - ella carnifal ar b'nawn Sul yng Nghonwy, dreifio lawr i Gaerfyrddin i wneud cyngerdd ar y nos Sul, lawr i Gaerdydd ar y bore dydd Llun i ffilmio rhywbeth ar gyfer y teledu, nôl i fyny i rywle wedyn. O'ddan ni weithiau'n gweithio felly am dair wythnos, bob nos. Cawson ni amser bendigedig, dweud y gwir.

O'ddan ni'n gwneud taith o gwmpas Cymru efo Ryan a Ronnie a'r Hennessys, ac o'dd Tony 'di dechrau mynd ddim yn rhyw dda iawn. O'dd hi'n daith galed, ac o'ddan ni dal yn gyrru i lawr i Gaerdydd yn y p'nawn i ffilmio rhywbeth teledu, a gyrru i Gaerfyrddin ar gyfer y nos a phethau felly.

Ar ôl y daith dyma Tony yn dweud fod o methu cario mlaen am dipyn, a fel mae'n digwydd mi o'dd ganddo fo TB. Fuodd o'n yr ysbyty am rhyw dri mis a hanner.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Canu gwerin

Bryd hynny oeddwn i wedi dyweddïo efo Dave o'r Hennessys ac oedden nhw aelod yn brin, felly ddes i'n aelod o'r Hennessys am 'chydig. O'dd hwnna'n hollol wahanol am ei fod o'n gerddoriaeth werin, ac o'ddan ni'n mynd tu allan i Gymru - o'ddan ni'n mynd i wyliau gwerin yn Llydaw a llefydd felly.

Ond mi aeth Nain yn sâl a fu'n rhaid i mi fynd nôl adra i ofalu amdani. Doedd Tony dal ddim yn teimlo ei fod o am fynd yn ôl i ganu, felly benderfynon ni dyna ddiwedd ar Tony ac Aloma.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Rownd y clybiau gyda Roy

Do'n i ddim yn gwybod be' i 'neud efo fi fy hun, achos o'n i ddim wedi arfer bod ar ben fy hun ar lwyfan. O'dd hyn tua 1974, ac un diwrnod, ffoniodd Roy y tŷ.

O'n i wedi cyfarfod Roy yn 16 oed ar wyliau efo ffrindiau ar Ynys Manaw, mewn cystadleuaeth dalent. O'ddan ni wedi cadw mewn cysylltiad tra oedden ni yn yr ysgol, a wedyn mynd ein ffordd ein hun. O'dd Roy yn digwydd bod yn Sir Fôn yn ymweld â ffrind, a ffoniodd i weld sut oedd pawb a holi lle o'n i, yn meddwl 'swn i'n briod efo llond tŷ o blant. Aethon ni allan am ddrinc, a dechrau mynd allan efo'n gilydd.

O'dd o'n gweithio yn Blackpool, felly o'n i'n mynd i fyny i'w weld o ac yn y diwedd mi nes i symud i Blackpool. Mi ffeindis i hynny yn job ofnadwy; es i dros Bont Borth efo'n nhelyn yn y car a chês efo 'chydig o ddillad ynddo fo yn torri nghalon - o'n i erioed wedi bod oddi wrth Nain a'r teulu.

Ar ôl chydig o fisoedd, ddechreuon ni weithio efo'n gilydd. O'dd y gwaith yn hollol wahanol i weithio adra; yng Nghymru, pan o'dd Tony ac Aloma yn mynd ar lwyfan, o'dd pawb yn gweiddi a chlapio, ond yn Lloegr o'n i'n gorfod gweithio am fy mhres.

O'ddan ni'n gweithio yn y Night Out yn Birmingham efo Bob Monkhouse. O'dd Nain yn ffan mawr o Bob Monkhouse. Gofynnais i iddo fo am lun ohono fo wedi ei lofnodi i Nain, a ddywedodd o 'awn ni un yn well', a dyma fo'n cael y ffotograffydd i ddod i gefn y llwyfan i gael llun ohonon ni efo fo i Nain. O'dd o'n ffantastig i weithio efo fo.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Crwydro'r byd

Ar ôl gneud y clybiau, naethon ni ddechrau gweithio dramor. O'ddan ni'n gwneud chwe mis ar y tro mewn gwesty - Dubai Abu Dhabi, yr Aifft, Israel, Hong Kong, Miami. O'ddan ni hefyd yn gweithio ar y llongau, a 'nathon ni weithio ar y QE2 am dri mis rownd y Caribî. O'n i'n lwcus ofnadwy o'r crwydro, ac o'n i'n ei fwynhau o.

Dechrau 1979, ddaru Nain farw, felly ddaethon ni adra. O'dd o wedi effeithio arna i'n ddrwg. O'dd Roy a fi wedi arwyddo contract i wneud summer season yn Eastbourne yn 1979, ac yn ystod y tri mis o'n i'n mynd i lawr ac i lawr, ac o'n i wedi colli pwysau yn ofnadwy.

Un noson, o'ddan ni'n gwneud deuawd efo dwy grand piano ar y llwyfan, ac o'n i'n gweld dagrau yn disgyn ar y keys. Nes i basio allan. Ddywedodd y doctoriaid fod gen i Bereavement Syndrome - os faswn i wedi bod yn gweithio mewn swydd arferol, 'swn i 'di cymryd tri mis i ffwrdd i gael nervous breakdown, ond yn y swydd o'n i, the show must go on ac o'n i 'di gweithio drwyddo fo.

Ar ddiwedd y tymor, o'ddan ni fod i fynd ar cruise ar QE2, a fu rhaid i ni dynnu allan - o'n i ddim digon da.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Dim wedi newid dim

Aethon ni nôl i Blackpool, a dyma Tony yn cysylltu a dweud fod S4C yn gofyn os bydden ni'n cysidro dod nôl at ein gilydd i wneud un rhaglen. Dyma ddeud ocê.

Dyma ni'n 'neud un rhaglen, a dyma pethau'n mynd yn beserk wedyn efo cynigion yn dod ar gyfer cyngherddau, teithiau, cyfres, mynd allan i Hong Kong, rhaglen 'Dolig...

Dyma glawr ein record gynta' ni'n ôl efo'n gilydd, tua 1984.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Gwesty'r Gresham, Blackpool

Tua 1987 o'dd hi, ac o'n ni wedi cael plant, a phenderfynu setlo lawr. O'n i 'di gweld pan o'n i'n Blackpool gynta', yn canu yn y clybiau efo Roy, bod 'na lot o Gymry yn dod i Blackpool ar eu gwyliau. Felly ges i'r syniad o brynu gwesty, ac o'dd gan Tony awydd dod i mewn arno fo hefyd. Felly dyma ni'n tri yn mynd am y gwesty - a fuon ni yna am 30 mlynedd.

Weithiodd o allan yn grêt. O'ddan ni'n medru trefnu'r tripiau Cymraeg 'ma efo cantorion fel Dafydd Iwan, Hogia'r Wyddfa a John ac Alun - o'ddan nhw i gyd wedi bod yn y Gresham efo ni yn gwneud penwythnos.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Fi a Jac

O'dd o'n un o'n mêts gorau i. O'n i'n medru deud be' liciwn i wrtho fo a do'dd o ddim yn fy ateb i'n ôl. O'dd o'n brilliant. O'dd o'n boblogaidd iawn yn y gwesty - o'n i'n mynd â fo i lawr efo fi, a fydda fo'n mynd rownd pawb ac o'dd o'n cael llond ei fol o crisps! O'dd o wrth ei fodd!

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Dathlu gyda'r teulu

Yn 2015, ar ôl 40 mlynedd efo'n gilydd, ddaru Roy a fi benderfynu priodi, achos o'dd y genod yn deud y dyliwn i neud yn siŵr mod i'n cael pensiwn gwraig weddw 'tasa 'na rywbeth yn digwydd iddo fo! 'Dan ni tu allan i'r Gresham fa'ma efo'r merched Emma, Dawna a Lia.

O'dd Roy yn cael ei ben-blwydd yn 65 y diwrnod wedyn felly gafon ni hwyl. O'dd pawb yn gallu aros yn y gwesty - o'dd llond bws wedi dod draw o Sir Fôn - ac o'dd hi'n celebrations dros rhyw 36 awr!

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

2020

Ddaru nhw roi gwadd i mi neud y rhaglen Gwely a Brecwast Maggi Noggi ddechrau'r flwyddyn. O'dd hi'n grêt i wneud rhywbeth, do'n i ddim wedi gwneud llawer o ddim ers sbel. A dyna'r ffisig gora' ges i - nes i ddim ond chwerthin drwy'r amser. Mae Maggi Noggi yn ffan mawr o Tony ac Aloma, mae'n debyg. Dwi'n edrych mor fychan yn y llun wrth ei hymyl!

Yn ystod y lockdown, ges i wahoddiad gan Elin Fflur i wneud Sgwrs dan y Lloer, ac o'dd hwnna'n ffantastig hefyd. O'dd hi'n fraint bod pobl dal yn gofyn ar ôl gymaint o flynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Aloma Jones

Mae gen i un ŵyr a chwech wyres. Dyma Eila Grug, fy ngor-wyres, ac mae fy ŵyr a'i bartner yn disgwyl ym mis Mai, felly fydda i'n hen nain eto. Dwi ddim yn eu gweld mor aml â 'swn i'n licio, yn enwedig y flwyddyn ddwytha' 'ma.

O'n i digwydd bod wedi mynd i fyny i Sir Fôn dechrau mis Mawrth, am 'chydig ddiwrnodau, a daeth y lockdown, ac o'n i'n styc yna am dri mis a hanner - o'dd hi'n fendigedig. O'n i'n siarad efo'r adar yn y diwadd - ond fel ddudodd ffrind, 'paid â phoeni 'rhen hogan, ti'n iawn nes mae'r adar yn siarad yn ôl efo chdi a bo' chdi'n dallt be' ma'n nhw'n ei ddeud!'

Dwi'n meddwl fod gen i waed sipsi yndda fi, dwi'n meddwl bo' ni 'di symud tŷ 10 o weithiau. 'Dan ni 'di trefnu rhyw dair gwaith yn y misoedd diwetha' i fynd i Sbaen i chwilio am ryw dŷ gwyliau ond wrth gwrs mae o 'di cael ei ganslo bob tro. Dyna fydd y prosiect nesa'.

'Dan ni'n byw yn Blackpool, ond adra ydi lle fydda i'n cael fy nghladdu a dwi'n meddwl mai Sir Fôn fydd hwnnw.

Hefyd o ddiddordeb: