'Y Ddau Benfelyn o Fôn'
- Cyhoeddwyd
Gyda bron i hanner canrif wedi mynd heibio ers i Tony ac Aloma - "y sêr pop mwyaf a welodd Cymru erioed" - ddechrau diddanu cynulleidfaoedd dros Gymru mae'r diddordeb ynddyn nhw'n dal yn fyw iawn a gobaith y bydd eu stori i'w gweld ar y sgrîn fawr cyn hir.
Roedd darlleniad o sgript ffilm newydd gan Meic Povey sy'n seiliedig ar eu bywydau ar faes y Steddfod Genedlaethol yn y Fenni ar 6 Awst ac mae'r cynhyrchwyr yn gobeithio denu arian i'w chreu'n ffilm sinema.
•Mwy o'r Eisteddfod Genedlaethol ar BBC Cymru Fyw , dolen allanol
Mae'r ffilm yn cael ei disgrifio fel "stori garu dyner" am gariad "sydd â'i ben ucha'n isa ... nad yw'n plygu i'r drefn".
Yn ogystal â'u talent gerddorol a'u dawn i gyfansoddi caneuon bachog, rhan o apêl Tony ac Aloma, a werthodd 76,000 copi o'u record gyntaf, Mae Gen i Gariad, oedd fod pobl yn meddwl bod y ddau yn gariadon go iawn.
"Roedd eu delwedd nhw'n bwysig iawn - y ddau benfelyn o Fôn," meddai Meic Povey.
"Ac wrth gwrs roedd y cwestiwn oesol yma, ydyn nhw, ta ydyn nhw ddim, yn gariadon?
"Dwi'n meddwl ar y pryd, a hyd heddiw, bod y cwestiwn o be' oedd y berthynas yna? A hwnna fydd, gobeithio, rhan o hud a swyn y ffilm," meddai.
'Ffraeo'
Mae Aloma a'i gŵr Roy belllach yn rhedeg gwesty yn Blackpool gyda Tony a gofynnodd Cymru Fyw iddyn nhw sut maen nhw'n teimlo am y ffilm?
"Allan ni ddim ond meddwl ei bod hi'n fraint," meddai Aloma.
"'Dan ni dipyn yn chuffed eu bod nhw wedi gofyn."
Ond dydi hi ddim yn "hollol gywir" i ddweud bod eu stori go iawn nhw'n stori garu meddai Aloma: "Mae pawb yn gofyn be oedd y berthynas? Sut berthynas oedd hi?
"Wrth gwrs ein bod ni'n agos, elli di ddim gweithio efo rhywun am yr holl amser yna ... ond tasa ni 'di byw efo'n gilydd ryw dro fysan ni 'di lladd ein gilydd. Does neb yn gallu ffraeo fel Tony ac Aloma!
"'Dan ni 'di ffraeo cyn heddiw tu ôl i lwyfan a finna efo dagra mawr a masgara 'di rhedag i bob man. Wedyn o fewn eiliada', 'dan ni ar y llwyfan a phawb yn meddwl 'O, tydyn nhw'n ddel!'
"Dyna di'n perthynas ni 'di bod.
"'Dan ni efo'r gwesty yma ers 28 mlynedd a mae o 'di gweithio inni. Be bynnag ydio, mae o'n gweithio inni.
"Ydan 'dan ni'n fêts - tasa fo isio mraich dde i mi fasa fo'n ei chael hi de. Dyna sut ma'r peth 'di bod. Ond i ddeud ei bod hi'n stori garu, dydi hynna ddim yn hollol gywir."
'Chwalu'r ddelwedd'
Dywed Tony bod 'na lawer o Gymry sy'n dod i aros i'r gwesty yn dal i ofyn iddo "Sut mae'r wraig?" gan gyfeirio at Aloma.
"Wedyn dwi'n goro deud 'Hen lanc ydw i 'sti' ac mi rwyt ti'n gweld bod rhywbeth wedi cael eu chwalu. Maen nhw wedi coelio hynny am flynyddoedd a wedyn mae o 'di cael ei chwalu," meddai.
"Maen nhw fel tasa nhw'n siomedig. Ysgariad mewn eiliad!"
Ond er hynny, ar wahân i fwlch o wyth mlynedd yn niwedd y 70au a dechrau'r 80au pan roedd Aloma'n canu gyda'i gŵr Roy yn Lloegr ac ar longau a Tony yn perfformio ar ei liwt ei hun mae eu partneriaeth weithio wedi para, mwy neu lai yn ddi-dor.
"Ma'n rhyfedd fel mae o wedi para - alli di ddim trefnu'r dyfodol yn nalli? Ond y ffordd mae o wedi gweithio ac wedi digwydd, mae o'n ffantastig," meddai Tony.
Mae Tony hefyd yn dweud ei bod hi'n "fraint" fod ffilm wedi ei sgrifennu amdanyn nhw ond yn cyfaddef nad ydio o'n hoffi ffilmiau sydd wedi eu seilio ar stori wir am fod 'na lawer o ffuglen ynddyn nhw. Mae'n well ganddo'r "stori wir" sydd i'w chael mewn ffilmiau dogfen .
"'Dan ni mewn perthynas ers 50 mlynedd a 'dan ni wrth gwrs wedi syrthio allan, mae pawb yn ffraeo yn tydi," meddai.
"Dwi ac Aloma wedi ffraeo lot a fi oedd yn ennill pob ffrae. Be dwi'n ofni efo'r ffilm yma ydi'n bod ni'n ffraeo ynddi a bod Aloma yn ennill! Rhaid imi gael sgwrs efo Meic Povey! 'Fiction fasa hynny!"
Mae hi'n berthynas gymhleth meddai Meic Povey ac elfen o "fethu byw efo'i gilydd a methu byw heb ei gilydd" ynddi meddai.
"Mae Aloma wrth gwrs yn wraig briod barchus efo tri o blant ers blynyddoedd, ond eto mae'r cwestiwn yma yn dal i ryw fath y hongian, oeddan nhw, neu oeddan nhw ddim:- 'Mae gen i gariad, a fi di honno' [meddai'r gân]. Wel be di'r gwirionedd yn y deud yna?"
Dyna fydd calon y ffilm meddai Meic Povey a bydd yn adlewyrchu y "tyndra a'r tensiwn" yn eu perthynas dros y blynyddoedd.
'Cyfnod gwahanol'
"Stori reit syml ar un ystyr, stori werinol iawn am bobl gyffredin iawn yn gneud rhywbeth eitha' anghyffredin" ydi hi meddai Meic Povey.
"Roedd y sefyllfa'n wahanol iawn bryd hynny, doedd 'na ddim gymaint o deledu, roedd gynnoch chi'r Pinaclau Pop, y chwyldro ieithyddol, gymaint o betha'n digwydd ac roeddan nhw'n rhan o hynny,
"Roeddan nhw'n sêr yn ngwir ystyr y peth, roedd gan weddill y byd Richard Burton ac Elizabeth Taylor ac mi roedd gynnon ni Tony ac Aloma."
Dyma'r eildro i Meic roi cynnig ar sgrifennu am Tony ac Aloma. Roedd ffilm a sgrifennodd yn y 90au, Yma i Aros, yn dilyn perthynas deuawd canu gwlad o'r enw Gary a Susan wedi ei seilio'n wreiddiol ar eu stori nhw ond aeth hi ar drywydd gwahanol yn y pen-draw.
Wedi cael arian i ddatblygu'r sgript gan Ffilm Cymru mae Meic, ynghyd â'r cynhyrchydd Angharad Elen a'r cyfarwyddwr Sara Sugarman, yn gobeithio y cawn nhw arian i fynd ati i'w gwneud yn ffilm sinema ac maen nhw yn y broses o gastio'r prif rannau.
Ond pwy fyddai Aloma am ei dewis i chwarae ei rhan? "Fy hoff ffilm ydy Pretty Woman a dyna fy hoff gân hefyd, gan Roy Orbison, felly Julia Roberts ella, neu Goldie Hawn, mae hi'n dipyn o gês ac yn gymeriad sy'n debyg iawn imi o ran natur.
"A biti fod gan Tony wallt melyn neu fasa Richard Gere 'di medru chwarae ei ran o yn basa!"
Dim ots gan Tony pwy sy'n chwarae ei ran, cyn belled â'i fod yn "dipyn o hync sy'n cael y merched i gyd!"