Neges Merched Beca am hawliau yn ysbrydoli’r artist Meinir Mathias
- Cyhoeddwyd
Mae Meinir Mathias o Dalgarreg wedi ennill Gwobr y Bobl Academi Frenhinol y Cambrian eleni am ei phaentiad olew Tân ar y Mynydd.
Dyma bortread trawiadol o un o gymeriadau gwrthryfel Beca, sy'n thema sydd wedi dylanwadu'n fawr ar waith Meinir.
Meddai Meinir mewn sgwrs ar Dros Frecwast ar Radio Cymru: "Mae'r llun yn un o gyfres - dwi wedi bod yn edrych lot ar hanes a diwylliant Cymru a Merched Beca yn benodol yn ddiweddar - mae wedi dod yn rhyw fath o symbol o brotest Cymreig yn hanes Cymru.
"Roedd Merched Beca yn sefyll lan am hawliau ac mae'n eitha' addas i heddi.
"Mae'r darn Tân ar y Mynydd yn dangos ffigwr un o Merched Beca yn sefyll yn y tirlun Cymreig ac yn y cefndir chi'n gweld tân ar y mynydd a hen fwthyn bach.
"Mae'r ffigwr yn sefyll ac yn edrych yn syth ato ti. Er bod e'n bortread hanesyddol mae elfen cyfoes iddo hefyd.
"Dwi wedi bod yn chwarae o gwmpas 'da hi dipyn - pan dwi'n darlunio dwi'n edrych ar ffrindiau, teulu, bobl leol a'r ffordd maen nhw'n sefyll - mae hynny'n dod â iaith corff cyfoes mewn iddo."
Y cyfnod clo
Roedd y cyfnod clo yn gyfnod cynhyrchiol iawn i Meinir: "I ddechrau roedd yn amser le 'oedd pob un ddim yn siŵr beth i 'neud - lot mwy o amser ar ein dwylo.
"Roedd yn amser i adlewyrchu a hala lot mwy o amser yn y stiwdio."
Gwrandewch ar Meinir Mathias yn siarad am ei gwaith ar Dros Frecwast bore Mawrth 15 Mehefin ar BBC Radio Cymru
Hefyd o ddiddordeb: