Oriel: Cefnogwyr nôl i gêm ddarbi Penrhyncoch v Bow Street
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf ers misoedd roedd cefnogwyr ardal Aberystwyth yn gallu dod i wylio eu timau'n chwarae mewn gêm gyfeillgar rhwng Penrhyncoch a Bow Street ar Gae Baker nos Iau, 1 Gorffennaf.
Roedd y niferoedd wedi eu cyfyngu i 100 ac roedd rhaid iddyn nhw gadw at reolau diogelwch Covid ond mae'n amlwg o luniau Colin Ewart bod pawb wedi mwynhau bod nôl.
Y canlyniad oedd Penrhyncoch 3 - Bow Street 0, ond roedd yn fuddugoliaeth i drefnwyr a chefnogwyr y ddau dîm wedi misoedd o aros.

Y cae, y ffurflenni meddygol a'r diheintydd yn barod

Y Cadeirydd, Kevin Jenkins, yn dangos i'r cefnogwyr sydd wedi dod i wylio pa ffurflenni i'w harwyddo

Mesur tymheredd Mr Richie Jenkins cyn iddo ddod i mewn

Rhoi manylion meddygol cyn cael eu gadael drwy'r giât

Daeth Charlie i weld ei ŵyr Harri Horwood yn chwarae i Benrhyncoch

Tom Evans o Benrhyncoch a Sion Ewart o Bow Street yn brwydro am y bêl

Taylor Watts yn herio am y bêl gyda Steffan Richards a Gwion ap Dafydd

Allan! Adrian Evans y llumanwr yn codi'r faner.

Mae'r criw yma wedi dod â bwyd efo nhw i'w cadw'n hapus!

Hyd yn oed mewn mwgwd mae modd gweld fod Rhys Evans yn gwenu - rhaid ei fod wedi pasio'r prawf tymheredd

Owen Roberts-Young yn trin y bêl

Aneurin 'Freddie' Thomas, rheolwr Penrhyncoch, yn gweiddi ar ei dîm

Tony Holmes yn rhoi cyfarwyddiadau

Mae'r coffi a'r achlysur yn amlwg yn gwneud Jamie Walker yn hapus

Mathew Jones ac Alex Pennock yn mwynhau cerdded o amgylch y cae unwaith eto
Hefyd o ddiddordeb: