'Braf cael cefnogwyr yn ôl i gemau pêl-droed'

  • Cyhoeddwyd
Parc JennerFfynhonnell y llun, Paul Greenwood
Disgrifiad o’r llun,

Parc Jenner yw cartref CPD Y Barri

Bydd hawl gan bob clwb pêl-droed yng Nghymru groesawu 100 o gefnogwyr yn ôl i'w stadiwm.

Fe ddaw penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi i ddigwyddiadau prawf ar draws Cymru yn ystod y pythefnos diwethaf fod yn llwyddiannus.

Yn y digwyddiadau hynny roedd rhai clybiau wedi cael croesawu cefnogwyr mewn gemau cyfeillgar - yn eu plith Clwb Bangor 1876.

Wrth siarad â Cymru Fyw fore Iau dywedodd Mel Jones, rheolwr y clwb, bod hi wedi bod yn braf croesawu cefnogwyr ddydd Sadwrn diwethaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Bae Colwyn.

Disgrifiad o’r llun,

'Fe fydd yn braf cael y cefnogwyr yn ôl,' medd Mel Jones rheolwr Clwb Pêl-droed Bangor 1876

"Mae mwy o gefnogwyr fel arfer yn dod i'n gweld ni - mi all fod yn bedwar cant ond mae hyn yn fan cychwyn wedi'r pandemig.

"Fe weithiodd pethau'n iawn ddydd Sadwrn - rhoi ticedi i'r cyntaf i'r felin.

"Mae hi mor bwysig cael cefnogwyr yn ôl i gael pres i mewn - mae angen talu am y cae, hyfforddi a phob dim sy'n mynd efo hynny ond rhaid deud 'dan ni wedi bod yn ffodus iawn o arian sponsorship gan gwmnïau lleol.

"Ie gobeithio am ddyfodol gwell rŵan. Mae wedi bod yn gyfnod anodd - mae cael dod yn ôl i weld gemau yn helpu pawb yn tydi - cefnogwyr a'r clwb."

Gall clybiau sy'n disgwyl dros 100 o gefnogwyr wneud cais i'r Gymdeithas am ymweliad safle er mwyn canfod a oes modd rheoli'r cefnogwyr yn unol â rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

"Mae'n bwysig nodi bod iechyd a diogelwch pawb sy'n mynychu gêm yn flaenllaw wrth gynllunio a threfnu," medd llefarydd ac mae'r Gymdeithas wedi cynhyrchu fideo, dolen allanol i glybiau a chefnogwyr.

Beth fydd angen ei wneud?

  • Os ydych wedi derbyn amser cyrraedd penodol, cyfarwyddiadau mynediad a pharcio - yna rhaid eu dilyn;

  • Mae'n bwysig cyrraedd ar eich pen eich hun neu yn eich swigen gartref;

  • Cofiwch ddod â gorchudd wyneb a chadw at bellter cymdeithasol. Bydd stiwardiaid yn helpu gyda chyngor ar seddi a llefydd sefyll;

  • Cyn mynediad bydd gwiriad tymheredd. Yna bydd angen i chi gwblhau 'Cod Ymddygiad Gwylwyr' a 'Holiadur Meddygol' (sydd hefyd yn gweithredu fel y ffurf cofnodi ac olrhain). Efallai y bydd rhai clybiau yn gofyn i'r rhain gael eu cwblhau'n ddigidol ar-lein;

  • Bydd pwyntiau saniteiddio wedi'u lleoli o amgylch y stadiwm a bydd gofyn i gefnogwyr eu defnyddio;

  • Rhaid gwisgo masgiau bob amser a rhaid cadw pellter cymdeithasol trwy gydol y gêm;

  • Angen gwrando ar gyhoeddiadau yn ystod y gêm oherwydd gallent gynnwys gwybodaeth bwysig;

  • Os oes lluniaeth ar gael, y cyngor yw defnyddio taliad digyswllt lle bo hynny'n bosib.