Lluniau: Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2021
- Cyhoeddwyd

Rhwng 19-22 Awst fe gafodd yr ŵyl gerddorol Green Man ei chynnal - yr ŵyl gyntaf o'i faint yng Nghymru ers dechrau pandemig Covid-19.
Daeth miloedd ynghyd i'r safle ar gyrion Crughywel i weld perfformiadau gan Mogwai, Jose Gonzalez, Caribou, Django Django, Fontaines DC a Gruff Rhys ac eraill.
Y ffotograffydd Jon Pountney aeth yno ar ran Cymru Fyw i ddal rhywfaint o'r cyffro o'r penwythnos.

Cafodd Gŵyl y Dyn Gwyrdd ei chynnal am y tro cyntaf yn 2003

Mae tua 25,000 o bobl yn mynd i Ŵyl y Dyn Gwyrdd bob blwyddyn

Y Dyn Gwyrdd ei hun, sy'n cael ei losgi ar noson olaf yr ŵyl bob blwyddyn

Colur, glitter a dillad llachar - mae'r ŵyl yn un hynod liwgar

Rhai o'r actorion a oedd yn perfformio ar y llwyfannau ac o gwmpas y maes

Mae'r ŵyl yn llwyfannu sawl math gwahanol o gerddoriaeth, gyda sylw arbennig i indie, roc, gwerin, cerddoriaeth dawns ac Americana

Yn ogystal â cherddoriaeth mae llawer o sioeau eraill ar gael, yn arddangos llenyddiaeth, ffilm, comedi, theatr a barddoniaeth

Roedd ysbeidiau heulog yn ystod y penwythnos, ond roedd yna law trwm nos Wener a bore Sadwrn

Roedd hi'n eitha' mwdlyd mewn rhai mannau o'r maes, felly roedd wellingtons yn ddefnyddiol iawn

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn falch o gael ei gydnabod fel gŵyl deuluol

Roedd rhywbeth i ddiddanu pobl o bob oed dros y penwythnos

Mae ardaloedd tawelach o'r maes hefyd, ble gellir cael seibiant a sgwrs

Mwynhau peint a jôc yng nghwmni ffrindiau

Mae'r ŵyl yng nghanol mynyddoedd godidog sy'n cynnig golygfeydd gwych

A phan ddaw'r nos, mae angen cynhesu drwy ddechrau coelcerth
Hefgyd o ddiddordeb: