Oriel luniau: Tafwyl 2021
- Cyhoeddwyd

Roedd 500 o bobl lwcus o fewn muriau Castell Caerdydd ar Ddydd Sadwrn, 15 Mai, i fwynhau Tafwyl, yr ŵyl gelfyddydol Gymraeg boblogaidd yn y brifddinas.
Y llynedd, yn sgil pandemig Covid-19 cafodd Tafwyl ei gynnal ar-lein, ond eleni dewiswyd Tafwyl i fod yn un o ddigwyddiadau prawf Covid Llywodraeth Cymru o dan amodau penodol.
Dyma rywfaint o'r golygfeydd oedd i'w gweld yng Nghastell Caerdydd:

Roedd 17 o artistiaid yn perfformio ar ddau lwyfan, wedi eu curadu gan Clwb Ifor Bach

Thallo; y cyntaf i berfformio ar y prif lwyfan

Y bytholwyrdd Geraint Jarman, prif act y noson

Roedd croeso i bartïon o 4-6 person fwynhau'r cerddoriaeth fyw a phrofi'r bwyd stryd

Ifan Pritchard, prif leisydd Gwilym

Papur Wal, a oedd yn perfformio am 13:30

Y cyflwynwyr; Huw Stephens, Seren Jones a Tara Bethan

Mared yn diddanu'r gynulleidfa

Dawnswyr Kitsch n Sync yn dod â 'chydig o liw i faes y Castell

Hwn oedd y 15fed tro i Tafwyl gael ei chynnal

Elidyr Glyn a Robin Llwyd o'r band Bwncath

Yn ogystal â chynulleidfa fyw, roedd cynulleidfa yn gwylio ar blatfform digidol AM - o'r Ariannin, Yr Eidal, Ffrainc, Yr Almaen a Chanada i enwi ond rhai gwledydd - gyda niferoedd y gwylwyr ar-lein eleni'n uwch na llynedd

Y gantores Ani Glass yn perfformio gyda gitâr fas

Band sy'n lleol i Gaerdydd; Breichiau Hir

Y gynulleidfa yn gwerthfawrogi yr adloniant oedd yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim

Digon i'w drafod ar y ffordd adref wedi gwledd o gerddoriaeth a diwylliant yn y Castell

Hefyd o ddiddordeb: