Cymru dan ddŵr: Yr ardaloedd sy' mewn perygl o ddiflannu
- Cyhoeddwyd

Ardaloedd ar Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy sydd mewn perygl o fod dan ddŵr yn ôl Climate Central os fydd lefel y môr yn codi 5m
Mae delweddau yn gallu dweud mwy na geiriau, fel y mapiau yma sy'n dangos rhannau cyfarwydd o Gymru all fod o dan ddŵr yn y dyfodol oherwydd newid hinsawdd.
Ers blynyddoedd mae rhybuddion bod lefel y môr am godi yn sgil cynhesu byd eang oherwydd toddi mynyddodd iâ a chynhesu rhew parhaol, a bod yn rhaid lleihau allyriadau carbon i achub rhai ardaloedd arfordirol.
Mae tywydd eithafol a gorboethi yn mynd i effeithio ardaloedd mewn ffyrdd eraill hefyd - er enghraifft tirlithriadau a lleithder.
Wrth i arweinwyr y byd ac amgylcheddwyr drafod sut i fynd i'r afael â'r broblem yng nghynhadledd COP26 yn Glasgow, dyma enghreifftiau o rai o'r lleoliadau yng Nghymru all gael eu heffeithio.

Daw'r mapiau cyntaf gan Climate Central, dolen allanol, grŵp annibynnol o wyddonwyr a newyddiadurwyr yn yr Unol Daleithiau, sydd wedi creu gwefan rhyngweithol i ddangos y risg i ardaloedd yn y dyfodol.
Yn ôl adroddiad pwyllgor newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yr IPCC, os fydd gwledydd yn llwyddo i gadw cynhesu byd eang o dan 2 gradd celsiws gallai'r môr dal godi o gwmpas hanner medr erbyn 2100 - fyddai'n golygu risg i ardaloedd arfordirol fel Pwllheli yn y map yma:

Yn ôl Climate Central mae'n bosib byddai'r dŵr yn cyrraedd yr ardaloedd wedi eu lliwio mewn coch, sef 0.5m uwchben llinell llanw uchel, drwy gyfuniad o godiad yn lefel y môr, ac effaith llanw a stormydd

Mae gwefan Climate Central yn dangos bod risg i ardaloedd ger Ynys Las, Tywyn a Friog petai'r môr yn codi 0.5m. Mae'r wefan yn amlygu ardaloedd o risg ac yn annog ymchwil pellach i gael gwybod mwy am y sefyllfa leol
Yn ôl yr IPCC, os fydd allyriadau gwledydd yn uchel iawn yn y dyfodol gall lefelau'r môr godi o hyd at 2.5m erbyn diwedd y ganrif a 5m erbyn 2150 - fyddai'n cael effaith amlwg ar Ynys Môn, Llandudno, Llanelli a Chaerdydd yn ôl mapiau Climate Central.

Dyma'r ardaloedd yng nghanol Caerdydd allai gael eu heffeithio petai lefel y môr yn codi 2.5m

Ardaloedd mewn perygl yn ardal Cydweli a Llanelli petai lefel y môr yn codi o 5m
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd fapiau, dolen allanol sy'n dangos ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.
Mae'n dangos lefelau risg presennol, yn ogystal â'r risg a achosir gan newid hinsawdd yn y dyfodol, sydd angen ei ystyried wrth asesu cynlluniau gan ddatblygwyr yn y dyfodol.
Bydd y mapiau, sydd ar y we ac yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, adrannau cynllunio awdurdodau lleol a datblygwyr, yn cael eu diweddaru ddwywaith y flwyddyn.

Mae'r gwahanol liwiau ar fapiau Cyfoeth Naturiol Cymru, fel yn y map yma o ardal Llandudno, yn dangos gwahanol lefelau o risg a'r ystyriaethau cynllunio ddaw yn sgil hynny

Y risg gyda Afon Dyfrdwy yn ardal Llangollen

Ardal Llanelli, Porth Tywyn a'r A484

Mae angen ystyried y risg wrth ddatblygu mewn nifer o ardaloedd arfordirol, fel Porthmadog
Nid ardaloedd arfordirol ydi'r unig lefydd sy'n creu pryder. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi creu mapiau rhyngweithiol, dolen allanol sy'n dangos beth fydd y sefyllfa waethaf posib ar lefel leol ymhen 40 mlynedd o ran stormydd, tirlithriadau ac ansefydlogrwydd pridd os yw'r byd yn dal i ryddhau carbon fel mae ar hyn o bryd.

Mae'r mapiau yn dangos Cymru wedi ei rannu fesul hecsagon. Meddai Keith Jones, o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, am y map uchod: "Pan mae'r hecsagon yn goch be' mae'n feddwl ydy bod 'na dros 15 diwrnod dros 30C yn yr hecsagon yna: dyna pa mor boeth mae'n mynd i fynd os ydi bob dim arall yn aros 'run peth, yn enwedig allyriadau carbon"

Mae'r map yma yn dangos effaith tirlithiadau ymhen 40 mlynedd, yn cynnwys safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen, gogledd Pen Llŷn. Meddai Keith Jones, arbenigwr newid hinsawdd yr Ymddiriedolaeth: "Os ydi bob dim arall yn chwarae 'run peth fydd y pentref ddim yna mewn 50 mlynedd."

