Rhaid i ysgolion newydd fod yn garbon sero net o 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae Jeremy Miles yn cydnabod bod heriau wrth wella adeiladau hŷn ysgolion a cholegau Cymru

Rhaid i bob ysgol neu goleg newydd yng Nghymru fod yn garbon sero net o Ionawr 2022, yn ôl y Gweinidog Addysg.

Fe fydd yn rhaid i waith adnewyddu mawr ac estyniadau, yn ogystal ag adeiladau newydd sbon, gyrraedd y safonau sy'n gofyn am lefel uchel o effeithlonrwydd ynni.

Dywedodd Jeremy Miles y byddai'n helpu i daclo newid hinsawdd.

Daeth y cyhoeddiad wrth i'r gweinidog ymweld â safle ysgol sero net gyntaf Cymru ym Mro Morgannwg.

Fe fydd gan yr ysgol yn Y Rhws, sydd i fod i agor yn gynnar yn 2022, gyfleusterau cynhyrchu pŵer ei hun a safleoedd gwefru ceir trydan.

Yn ogystal â gweithredu mewn ffordd sy'n defnyddio ynni'n effeithlon pan mae'r ysgol wedi agor, mae lleihau allyriadau carbon wrth adeiladu'r ysgol wedi bod yn flaenoriaeth.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gan Ysgol Gynradd Llancarfan gyfleusterau cynhyrchu pŵer ei hun a safleoedd gwefru ceir trydan

Dywedodd Dafydd Williams o gwmni contractwyr ISG fod sicrhau fod popeth yn cael ei fesur yn ofalus - er mwyn peidio defnyddio gormod o ddeunyddiau adeiladu - yn un ffordd o leihau allyriadau.

"Mae'r holl broses adeiladu yn defnyddio pobl leol, defnyddio pethau fel fork lift electric - treialu pethau fel 'na er mwyn creu proses sy'n creu'r lleiaf posib o CO2," meddai.

Fe fydd rheolau newydd Llywodraeth Cymru hefyd yn golygu bod yn rhaid i'r broses adeiladu ar gyfer ysgolion a cholegau newydd arwain at o leiaf 20% yn llai o allyriadau carbon, gyda gostyngiadau pellach yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Williams fod yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn y modd "sy'n creu'r lleiaf posib o CO2"

Dywedodd Mr Miles bod y polisi newydd yn gyfraniad pwysig at dargedau "uchelgeisiol" Llywodraeth Cymru.

Ond roedd yn cydnabod bod heriau wrth wella gweddill adeiladau ysgolion a cholegau Cymru.

"Ry'n ni wedi bod yn buddsoddi mewn adeiladau newydd i'n system addysg ers blynyddoedd lawer ac mae hynny wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgeisiau amgylcheddol ni hefyd," meddai.

"Ond mae rhai ysgolion hŷn gyda ni.

"Mae sialensiau yn sgil hynny, ond rydyn ni wrthi gyda'n partneriaid llywodraeth leol yn edrych ar y stad ac yn gweithio allan beth sydd angen gwneud er mwyn sicrhau eu bod nhw hefyd yn gallu cyfrannu tuag at y siwrne."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Gynradd Llancarfan yn agor yn Y Rhws, Bro Morgannwg yn 2022

Pan ofynnwyd i Mr Miles ar Dros Frecwast fore Mawrth ynglŷn â ffyrdd mwy gwyrdd o fynd a phlant i'r ysgol, dywedodd ei fod yn rhan o'r cynlluniau i "sicrhau bod 'na gynllun teithiol llesol yn rhan o'r briff, fel beicio, cerdded neu sgwter i gyrraedd".

Fe wnaeth gydnabod bod angen gwneud mwy fel rhan o'r cynllun hefyd i sicrhau bod llwybrau penodol diogel ar gael ar gyfer cerdded neu seiclo i'r ysgol.

Dywedodd Rob Thomas, rheolwr gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg, bod yr ysgol garbon sero net, sy'n safle newydd i Ysgol Gynradd Llancarfan, yn costio tua £5m - rhyw 10% yn fwy nag ysgol heb y dechnoleg.

Dywedodd bod hynny'n fuddsoddiad da a bod yna werth addysgiadol i'r plant ac i gymdeithas.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rob Thomas mae'r ysgol garbon sero net yn costio tua 10% yn fwy nag ysgol heb y dechnoleg

"Dim jest yr adeilad yw e", meddai.

"Gyda'r cwricwlwm newydd bydd 'na bethe fel QR codes o gwmpas yr adeilad - bydd y plant yn gallu dysgu pam fod y dechnoleg yma mor bwysig, sut mae'r dechnoleg yn gweithio.

"Byddan nhw'n gallu ailadrodd hanes sut gafodd yr adeilad yma ei adeiladu a mynd 'nôl â'r wybodaeth yna i rieni, siarad gyda'u ffrindiau, fel bod pawb yn dysgu sut i allu delio gyda'r argyfwng hinsawdd."