Bangor yn y 1970au: Lluniau o hen gymuned Gymreig Hirael
- Cyhoeddwyd
"Gobeithio bod fy ffotograffau o'r bobl ar eu strydoedd ac yn eu cartrefi yn 1976 yn dal cymeriad ac einioes y gymuned cyn iddyn nhw gael eu golchi i ffwrdd gan lanw amser."
Myfyriwr un-ar-hugain mlwydd oed oedd Garry Stuart pan dynnodd luniau du a gwyn o ardal Hirael, Bangor yn y saithdegau.
Mae ei luniau o gymuned sydd wedi diflannu bellach wedi eu cyhoeddi mewn llyfryn, dolen allanol a detholiad wedi eu gosod ar y wal yng nghaffi Bwyd Da ym Mangor fis Tachwedd 2021.
Yn wreiddiol o Gaergybi roedd Garry eisoes yn ffotograffydd profiadol pan ddaeth i astudio Bioleg Planhigion yn y brifysgol ym Mangor a dod i adnabod ardal Hirael, o gwmpas Ffordd y Traeth ar gyrion y ddinas, a gweld pwysigrwydd cofnodi'r hen gymuned.
"Tyfodd yr ardal o amgylch Bae Hirael a Phorth Penrhyn i ddechrau fel cymuned bysgota ac yna fel porthladd i'r diwydiant llechi oedd yn ei anterth. Roedd yr ardal a'i chymuned ar wahân i weddill Bangor a'i cholegau academaidd," meddai Garry.
"Roedd pobl Hirael (a gâi eu galw'n 'Sibols' gan weddill drigolion Bangor) yn bobl falch a stöig oedd yn hapus i gael eu hystyried yn bobl ar wahân.
"Roedd y genhedlaeth hŷn wedi bod drwy ddau Ryfel Byd gyda dirwasgiad mawr rhyngddyn nhw ac roedden nhw'n hen gyfarwydd gyda chaledi a llymder.
"Ac eto, nid rhyw ardal ddifreintiedig lawr-ar-ei-lwc oedd hi. Mewn cymuned capel Gymreig, glos, roedd balchder yn eu hymddangosiad ac enw da y teulu yn hollbwysig.
"Byddai pobl Hirael yn edrych i fyw eich llygaid gyda gonestrwydd, eu profiadau bywyd wedi eu marcio ar eu hwynebau a gwên fach 'smala byth yn bell o'u gwefusau.
"Ond roedd eu cymuned o fythynnod bach teras carreg yn cael ei herydu o bob ochr gan 'gynnydd' ac roedd hi'n amlwg na fyddai'r is-gymdeithas Gymreig unigryw yma'n goroesi'r newidiadau.
"Gobeithio bod fy ffotograffau o'r bobl ar eu strydoedd ac yn eu cartrefi yn 1976 yn dal cymeriad ac einioes y gymuned cyn iddyn nhw gael ei golchi i ffwrdd gan lanw amser."
Cymdeithas weithiol oedd un Hirael, meddai Garry, ac un oedd yn dangos llawer o nodweddion cymuned oedd wedi tyfu ar lan y môr.
Mae'n ei disgrifio fel "ynys" o'r hen gymdeithas ynghanol môr o ddatblygiad modern gyda'r newid i'w weld o fewn ychydig strydoedd.
Ychydig o'r hen strydoedd oedd ar ôl yn 1976 a hanner y rheiny yn wag ond "mae'r ardal wedi glynu wrth ei gorffennol ac unigoliaeth gyda'r gwydnwch sy'n nodweddiadol o'r bobl," meddai yn ei gyflwyniad i'r lluniau yn y saithdegau.
Cafodd ei luniau o Hirael eu harddangos ar y pryd yn yr hen Theatr Gwynedd; 40 mlynedd yn ddiweddarach fe gawson nhw eu harddangos yn Storiel, Bangor, ac Oriel Bae Colwyn.
Aeth diddordeb Garry mewn ffotograffiaeth o nerth i nerth ac mae wedi gweithio fel ffotograffydd llawrydd ers 1984 yn gweithio i gylchgronau ceir a beiciau modur.
Mae mwy o'i luniau o Hirael i'w gweld ar ei gyfrif Instagram., dolen allanol