Cofio hyn? Oriel i ddathlu 100 mlynedd o'r Urdd
- Cyhoeddwyd
![Glanllyn yn yr 1980au](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D0F0/production/_122888435_1980sspringtimeglan-llyn.jpg)
Mwynhau Glan-llyn yn yr 1980au
Glan-llyn, Llangrannog, Eisteddfodau... mae cenedlaethau o blant wedi cael mwynhad ers sefydlu'r Urdd gan mlynedd yn ôl.
Pan wnaeth Syr Ifan ab Owen Edwards roi apêl i ddechrau mudiad Cymraeg yn ei gylchgrawn Cymru'r Plant fis Ionawr 1922, prin fyddai wedi gallu dychmygu y byddai'n parhau ganrif yn ddiweddarach - ond gyda 55,000 aelod, 170 o staff, 10,000 gwirfoddolwr, 900 o adrannau a llond trol o atgofion.
![Linebreak](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/CD77/production/_115799525_mediaitem77300236.jpg)
![Yr aelodau cyntaf yn Yr Adran Gyntaf yn Nhreuddyn y tu allan i Gapel Jerusalem (Capel y Rhos)](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/384/cpsprodpb/11B5/production/_122933540_treuddyn.jpg)
Aelodau cyntaf yr Urdd yn yr adran gyntaf i gael ei sefydlu - a hynny yn Nhreuddyn, yn 1922. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd gan yr Urdd 720 aelod - erbyn heddiw mae 55,000
![Gwersyllwyr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14A35/production/_122933548_zgwersyllllangollen1931-copy.jpg)
Pebyll wedi eu codi am gyfnodau byr oedd gwersylloedd cynharaf yr Urdd. Roedd y gyntaf un yn Llanuwchllyn, ger Y Bala, yn 1928 - i fechgyn yn unig ac am gost o 10 swllt yr un - gyda'r gwersyllwyr yn golchi yn yr afon. Trefnwyd gwersyll i ferched yn unig yn Llangollen, fel yr un yn y llun yn 1931
![Gwersyllwyr cynnar Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/62CA/production/_122909252_zgwersyllwyrcynnarllangrannogcampers.jpg)
Ymwelwyr cyntaf safle parhaol cynta'r Urdd yn Llangrannog, yn haf 1932. Codwyd gwersyll am bedair wythnos yno ar dir oedd wedi ei roi yn rhodd i'r mudiad ieuenctid gan JM Howell
![Cabannau pren Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16D30/production/_122888439_cabanauprenllangrannogcabins.jpg)
Datblygwyd safle Llangrannog dros y degawdau, gyda chabanau pren yn cael eu codi
![Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15BB/production/_122936550_zzgwersyllyrurddllangrannog1.jpg)
Mae dipyn o newid wedi bod dros y degawdau - gwersyll Llangrannog heddiw
![Eisteddfod 1970 Llanidloes](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/206A/production/_122889280_urddeisteddfod1970.jpg)
Eisteddfod yr Urdd ydy digwyddiad blynyddol mwya'r mudiad. Cafodd y gyntaf ei chynnal yng Nghorwen yn 1929 ac erbyn yr un yma yn Llanidloes yn 1970, roedd yr ŵyl yn cael ei darlledu
![Caergybi1966](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15502/production/_122889278_caergybi1966.jpg)
Mae'r Maes wedi newid dros y degwadau hefyd - dyma faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caergybi 1966
![Dawnswyr o'r Drenewydd yn Eisteddfod yr Urdd Caergybi 1966](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/477A/production/_122889281_newtownatthe1968urddeisteddfodinholyhead.jpg)
Mae wynebau bechgyn Y Drenewydd yma yn Eisteddfod Caergybi yn awgrymu nad oedd dawnsio gwerin at ddant pawb...
![Cwch y Brenin Arthur 1950au](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11F10/production/_122888437_breninarthurboat1950s.jpg)
Pan ddaeth Plas Glan-llyn, ger Y Bala, ar gael i'w rentu ar ddiwedd yr 1940au, sefydlwyd gwersyll yno - gyda'r ymwelwyr yn cael eu cludo yno o'r orsaf drên ar draws Llyn Tegid ar gwch y Brenin Arthur. Prynwyd y safle gan yr Urdd yn 1964. Daw'r llun yma o 1950
![Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/177BE/production/_122909169_llangrannog1.jpg)
Mae gweithgareddau awyr agored - a gweithgareddau dŵr yn enwedig - wedi bod yn rhan o wersylloedd yr Urdd ers y cychwyn. Ond weithiau roedd yn waith caled i gael y cychod i'r dŵr, fel mae'r tîm yma yn Llangrannog yn dangos
![Glan Llyn 2000au](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A274/production/_122888514_glan-llyn2000's.jpg)
Glan Llyn yn y 2000au, a chyfarpar dipyn gwell
![Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17F2A/production/_122909089_dwr-copy.jpg)
Ond rhan fawr o'r hwyl, fel yma yn Llangrannog, oedd mynd i mewn i'r dŵr
![gig grwp pop](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1108D/production/_122937796_zailsymudiad-copy.jpg)
Mae cerddoriaeth bop Cymraeg wedi bod yn rhan o brofiad aelodau'r Urdd ers degawdau, gan gynnyws perfformiadau byw...
![Disgo yn Llangrannog yn yr 1990au](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5FA8/production/_122888442_disgo1990sllangrannogdisco.jpg)
... a'r disgo, fel yr un yma yn Llangrannog yn yr 1990au
![Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E6D2/production/_122909095_swogs2.jpg)
Y Swogs - y bobl ifanc oedd yn trefnu gweithgareddau a chadw golwg ar aelodau iau - yn cael hwyl yn Llangrannog
![staff yr urdd yn cael saib](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D523/production/_122936545_zzclirioathaclusollwybrgul001098.jpg)
Rhai o staff yr Urdd - yn cynnwys yr actor Mici Plwm (ar y dde) a'r darlledwr Dei Tomos (canol) - yn cael saib wrth greu llwybr newydd
![Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B856/production/_122909174_traeth-copy.jpg)
Un ffordd o osgoi llosgi yn yr haul
![Glan Llyn yn yr 1970au](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13EB4/production/_122888518_hwylyrhafglan-llyn1970ssummerfunglan-llyn.jpg)
Lle maen nhw nawr? Mwynhau yng Nglan-llyn yn yr 1970au
Hefyd o ddiddordeb: