Y Parlwr 'lle cychwynnodd pop Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
Erbyn hyn, mae Maes B yn llawn i'r ymylon bob blwyddyn, mae 'na gigs a gwyliau cerddorol Cymraeg yn un lle neu'r llall o hyd, a'r band Alffa yn cael miliwn o hits ar Spotify.
Gwahanol iawn oedd hi ddegawdau yn ôl cyn i ganu poblogaidd Cymraeg gyrraedd clustiau'r genedl. Ond tybed pryd a lle cychwynnodd y cyfan? Oes un lle penodol?
Mae Huw Antur Edwards, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, yn honni mai yno y daeth y cyfan yn fyw.
"Er fod criwiau'r Urdd wedi bod yn canu ers y dyddie cynnar yn y 1920au, mae'n debyg mai yn Y Parlwr yng Nglan-llyn y ganed y byd pop go iawn ddechrau'r 1960au," meddai Huw.
Un o'r bobl ifanc oedd yn rhan o'r bwrlwm ar gychwyn y 60au oedd bachgen lleol o'r enw Dafydd Iwan. Mae'r canwr poblogaidd erbyn hyn yn 75 mlwydd oed, ac mae'n cofio'r newid yn iawn.
"Rhaid cofio fod yna draddodiad o ganu ysgafn Cymraeg cyn y 60au, yn bennaf yn troi o gwmpas 'Noson Lawen' y BBC, yn enwedig Triawd y Coleg. Yna daeth cyfnod y sgiffl, a phartion fel Hogia Bryngwran a Llandegai, a chantorion fel Aled a Reg a Tammy Jones. At ei gilydd, canu fersiynau Cymraeg o ganeuon America oedd y rhain, a chreu fersiynau newydd o hen ffefrynnau Cymraeg,"meddai.
Natur y caneuon yn newid
Eglura Huw Antur: "Roedd hyn yn y cyfnod pan oedd y Noson Lawen draddodiadol yn raddol newid, a natur y caneuon yn newid hefo'r amser."
Ategu'r newid hwnnw mae Dafydd Iwan, sydd wedi bod ynghlwm â chanu pop Cymraeg ers ei arddegau.
"Beth newidiodd yn y 60au oedd creu caneuon newydd, a llawer o'r rhain yn wleidyddol-genedlaethol eu naws," meddai.
"Roedd hyn yn ddatblygiad pwysig, ac yn cydoesi gyda ffurfio ac ymgyrchoedd cynnar Cymdeithas yr Iaith. Gan fod cynifer o Gymry ifanc brwd yn cyfarfod yng ngwersylloedd yr Urdd, roedd hi'n anochel bron mai yno y gosodwyd sylfeini y canu newydd hwn."
Ai felly yng ngwersyll yr Urdd y taniwyd y Dafydd Iwan ifanc i ddweud ei ddweud ar gân?
"Yn sicr ddigon yno y cefais i'r profiad cyntaf o griw o bobol ifanc yn gwirioni ar ganeuon Cymraeg i gyfeiliant gitâr. Roeddwn i'n byw yn Llanuwchllyn ar y pryd, ac yn gweithio yn y gegin yng Nglan-llyn, a hynny roddodd y cyfle imi gydio yn y gitâr a dechrau canu.
"I ddechrau, roeddwn yn dilyn arfer y dydd trwy roi geiriau Cymraeg ar ganeuon Americanaidd. Mae'n Wlad i Mi yw'r enghraifft amlwg, ac i'm cyfaill Edward - yntau o Lanuwchllyn - y mae llawer o'r diolch am honno, a bu'r ddau ohonom yn trwbadwrio dros Gymru gyfan o hynny ymlaen. Roedd y canu pop Cymraeg newydd wedi cychwyn!"
"Rwy'n cofio nifer o wersyllwyr a swogs o Lan-llyn yn arwyddo deiseb i bobol y teledu yn gofyn iddyn nhw roi lle i'r canu newydd hwn ar eu rhaglenni, ac mae'n bosib mai hynny arweiniodd at fy eitem bob nos Fercher ar Y Dydd [rhaglen nosweithiol TWW].
"Cam pwysig arall oedd troi o ganu'r alawon Americanaidd i greu caneuon gwreiddiol fel Wrth Feddwl am Fy Nghymru."
Cyfnod newydd yn hanes adloniant Cymraeg
Ond nid Dafydd Iwan yn unig oedd ynghlwm â'r symudiad newydd hwn ym myd pop Cymraeg. Roedd sawl enw adnabyddus arall yn cyfrannu tuag at yr hwyl.
"Rhai eraill oedd yn dod i Lan-llyn yn y cyfnod hwnnw (naill ai fel gwersyllwyr neu fel swogs) oedd Dewi Pws, Huw Jones, Heather Jones, Dafydd Idris a Delwyn Siôn," meddai Dafydd Iwan.
Ac roedd criw mor dalentog yn siwr o fod yn denu cynulleidfa o lefydd cyfagos?
"Rhaid cofio mai peth mewnol i'r gwersyll oedd hyn yn y dechrau, nid nosweithiau cyhoeddus, a phan ddechreuodd y canu gydio o ddifri, roedd y gwersyllwyr ifanc yn gwrthod mynd i'r gwely heb imi ganu rhagor!"
"Ond fel y cydiodd y gitâr fel offeryn ar draws Cymru, ac i nifer o gyfansoddwyr-gantorion talentog ymddangos, datblygodd y byd canu pop Cymraeg yn rhyfeddol yn ystod y 70au. Ac yng Nglan-llyn y cychwynnodd y cyfnod newydd hwn yn hanes adloniant Cymraeg."
Ychwanegodd Huw Antur, "Yn brawf efallai o'r bwrlwm a'r brwdfrydedd ar y pryd, cyhoeddwyd record feinyl yn 1969, a gafodd ei recordio yn y Parlwr yn 1967. Oes yna ganolfan neu neuadd arall yng Nghymru all ddweud stori debyg?"