Oriel: arwyddion cynta'r gwanwyn
- Cyhoeddwyd

Enfys wedi'r stormydd... enfys ddwbl dros draeth Crigyll, Rhosneigr
Wedi gaeaf hir a'r cyfnod stormus diweddar, mae arwyddion o'r gwanwyn i'w gweld o'n cwmpas fel mae lluniau'r ffotograffydd Clare Harding-Lyle yn dangos.


Mae'r coed a'r perthi newydd ddechrau blodeuo

Un genhinen Pedr unig yn disgwyl i'r lleill flodeuo'n llawn

Wedi tywydd tymhestlog y gaeaf, mae cyfnod mwy sefydlog wedi cyrraedd yn ddiweddar

Castell Caernarfon yn yr haul o dan awyr las

Cwningen yn mwynhau haul y gwanwyn

Ji-binc yn nôl bwyd wrth i'r cyfnod nythu a pharu ddechrau. Dim ond y gwryw sy'n rhannu'r un lliw a'i enw.

Blagur ar goeden derw

Traeth Llydan, Rhosneigr ar derfyn dydd

Machlud yr haul dros gaeau niwlog Sir Fôn

Yr haul yn gwawrio dros fynyddoedd Eryri
Hefyd o ddiddordeb: