Lluniau: Gŵyl Rhuthun 2022
- Cyhoeddwyd

Dafydd Iwan a'r Band oedd yn cloi Gŵyl Rhuthun yn y digwyddiad Top Dre nos Sadwrn, 2 Gorffennaf
Wedi tair blynedd o seibiant oherwydd Covid roedd digwyddiad Top Dre yng Ngŵyl Rhuthun, dolen allanol yn fwy poblogaidd nag erioed yn 2022 meddai'r trefnwyr.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ers 1994, wedi ei hysbrydoli gan ddigwyddiad tebyg yn nhref Briec yn Llydaw, sydd wedi gefeillio gyda Rhuthun. Mae wedi tyfu o un diwrnod i wythnos o ddigwyddiadau.
Ymysg y perfformwyr ar 2 Gorffennaf roedd Dafydd Iwan, sy'n ymddangos mor brysur ag erioed yn sgil ei berfformiadau yng ngemau pêl-droed rhyngwladol Cymru.

Roedd sgwâr Rhuthun yn orlawn i benllanw'r ŵyl yn Top Dre nos Sadwrn

Fe ganodd Dafydd Iwan Yma o Hyd i gyfeiliant lleisiau llond sgwâr o bobl

Morgan Elwy a'r band yn rhoi dipyn bach o... hwyl i'r dorf

Roedd y trefnwyr wedi gobeithio am dywydd braf i'r digwyddiad Top Dre, ac fe ddaeth eu breuddwydion yn wir!

Offerynwyr pres yn codi hwyliau

Y gantores Alys Williams - nod yr ŵyl meddai'r trefnwyr yw rhoi cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd a mwynhau cerddoriaeth Gymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar a hwyliog

Wedi tair blynedd, mae cael cyfle i fwynhau cerddoriaeth mewn awyrgylch gŵyl yn braf i lawer

Mwy o hwyl yn yr haul yn cloi wythnos lwyddiannus o ddigwyddiadau rhwng 25 Mehefin a 3 Gorffennaf

Y sgwâr dan ei sang a drymwyr dur ar y llwyfan fach

Mae Elfin Bow yn gerddor ac artist o'r gogledd ddwyrain

Roedd cyfle i grwpiau ac ysgolion lleol berfformio hefyd
Hefyd o ddiddordeb: