Lluniau: Gŵyl y Felinheli nôl wedi'r pandemig
- Cyhoeddwyd
Wedi seibiant oherwydd y pandemig mae gŵyl gymunedol pentref Y Felinheli ar lannau'r Fenai wedi dychwelyd o'r diwedd ar gyfer wythnos o ddigwyddiadau a dathliadau.
"Mi fuodd na gynnwrf mawr ar lannau'r Fenai wrth i'r pentref ddod at ei gilydd yn iawn am y tro cyntaf ers blynyddoedd," meddai Osian Owen o bwyllgor Gŵyl Y Felinheli, dolen allanol.
"Mi rydan ni'n teimlo'n falch ohoni. Dyma lle mae'r pentref cyfan yn dod ynghyd, o bob cenhedlaeth, i ddathlu'r gymuned unigryw ydan ni'n cael y fraint o fod yn rhan ohoni."
Dyma flas ar rhai o uchafbwyntiau'r wythnos mewn lluniau - o sioe dalent Stŵr wrth y Dŵr, noson gwis, Ras 10k, ffair cynnyrch lleol, noson lawen, a gorymdaith a charnifal ar y dydd Sadwrn olaf.
Mae mwy o luniau i'w gweld ar wefan yr ŵyl., dolen allanol