Lluniau Dydd Sadwrn: Eisteddfod Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl wedi dwy flynedd yn sgil pandemig Covid-19, ac yn Nhregaron mae'r brifwyl eleni.
Dyma rai o'r golygfeydd o'r Maes ar ddiwrnod cynta'r ŵyl.

Erin o Fryniwan ger Caerfyrddin yn helpu Taid gyda'r troli.

Elliw, saith oed, o Lambed yn mwynhau bownsio rownd y Maes.

Benji o Gaerdydd yn eistedd ar un o eliffantod Tregaron.

Dewi, pump oed o Ddihewyd ger Llambed yn rhoi cynnig ar y wal ddringo.

Côr Ysgol Gerdd Ceredigion yn diddanu ar Lwyfan y Maes

Wnaeth y glaw ddim atal torfeydd rhag dod i'r Maes.

Ina a'i brawd bach Euros o Lanidloes yn mwynhau'r cinio ar y Maes.

Iwan Rhys ar lwyfan y Babell Lên ar gyfer rownd derfynol Talwrn y Beirdd rhwng Dros yr Aber a Crannog.

Ciw o bobl ar eu ffordd fewn i glywed dyfarniad cystadleuthau'r bandiau pres.

Y gynulleidfa wrth eu bodd yn sioe boblogaidd Cyw.

Merin yn fodlon wrth Bar Williams Parry - bar newydd Maes yr Eisteddfod.

Codi gwên yn stondin Undeb Amaethwyr Cymru; Dylan, Iwan, Elinor ac Elis.

Ar ddiwedd diwrnod hir o Eisteddfota, cyfle am ddiod bach gyda ffrindiau.

Brychan Llŷr, prif leisydd y band Jess yn cloi arlwy'r dydd ar Lwyfan Radio Cymru.

Eädyth yn canu yn y Pafiliwn gyda Mr Phormula, Izzy Morgana, Band Pres Llareggub, Afro Cluster a Tara Bandito.

Hefyd o ddiddordeb: