Crynodeb

  • Eisteddfod Ceredigion yn agor ei drysau yn swyddogol wedi iddi gael ei gohirio ddwywaith yn sgil Covid

  • Ceredigion gyfan yn croesawu'r brifwyl

  • Problemau y cyflenwad dŵr yn cael eu datrys

  • Y pafiliwn bron yn llawn ar gyfer 'Lloergan'

  • Diwrnod y bandiau pres a'r cystadleuwyr ifanc

  • Cofio Sylwen Lloyd Davies, Mair Penri ac Aled Lloyd Davies

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Croeso nol

    A dyna ni gan ein gohebwyr o'r Maes am heddiw.

    Ydi mae diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi digwydd o'r diwedd a'r trefnwyr yn hapus.

    Fe fydd gweithgareddau'r Brifwyl yn parhau yn Nhregaron heno.

    Bore fory yr Oedfa am 9, bydd yr Eisteddfod a gweithgareddau eraill yn parhau gydol y dydd ac fe fydd y Gymanfa Ganu yn y nos.

    Bydd y llif byw yn ôl ddydd Llun gyda'r holl newyddion a'r cyffro o'r Maes.

    Diolch am eich cwmni heddiw.

    Mae gweddill straeon y dydd a chanlyniadau a pherfformiadau y Brifwyl ar wefan Cymru Fyw.

    Hwyl am y tro.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Aberystwyth, Llanbadarn, Builth, Pen-parc ...wedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Eglwys Tregaron

    Fore Sul am 9 fe fydd oedfa y Brifwyl yn cael ei chynnal yn y pafiliwn a hynny o dan arweiniad trigolion yr ardal.

    Yr Athro Densil Morgan fydd yn annerch ac mae Rhiannon Lewis wedi helpu i lunio'r oedfa (i'w chlywed ar Radio Cymru am 13:00)

    Nos Sul cynhelir y Gymanfa Ganu o dan arweiniad Delyth Hopkin Evans – ac ymhlith y tonau mae enwau lleoliadau adnabyddus iawn yn yr ardal – Aberystwyth, Builth, Pantyfedwen, Pen-parc a Rheidol yn eu plith.

    Yn ystod y gwasanaeth cyflwynir Arweinydd Cymru a’r Byd, Ann Griffith.

    Bydd yna groeso yn eglwysi yr ardal gydol y dydd ac fe fydd gwasanaeth dyddiol yn Eglwys Tregaron.

    Soar y Mynydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Prifardd Tudur Dylan Jones sy’n pregethu yn Soar y Mynydd brynhawn Sul

  3. GIG C yr I: Candelas a Morgan Elwy ymhlith y perfformwyr henowedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Arweinydd Cymru a'r Byd: 'Dylanwad magwraeth ryngwladol'wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Dywed Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion bod ei magwraeth yn Aberystwyth wrth i'w rhieni groesawu ffoaduriaid i'w cartref wedi dylanwadu yn fawr arni.

    Mae Ann Griffith wedi byw ar bum cyfandir a bellach wedi ymgartrefu yn Washington.

    Nos Sul fe fydd hi'n siarad yng Nghymanfa Ganu y Brifwyl a hynny wrth iddi dreulio cyfnod yng Nghymru am y tro cyntaf ers y pandemig.

    "Dwi ddim yn berson eisteddfodol, cofiwch, ond mi ydw i'n berson rhyngwladol.

    "Dwi ddim yn chwarae telyn, dwi ddim yn canu mewn côr - na dwi ddim yn gerddorol o gwbl, ond dwi wrth fy modd yn gwrando."

    Cafodd ei magu yn ferch i'r Parchedig Huw a Mair Wynne Griffith - ei thad yn weinidog ar gapel Seilo yn Aberystwyth ac fe wnaeth eu cartref yno groesawu cannoedd o fyfyrwyr ar hyd y blynyddoedd.

    "Be dwi'n gofio yw'r croeso roedd ffoaduriaid yn ei gael yn ein cartref," meddai Ann Griffith.

    "Mae gen i atgofion cryf iawn am un o Hwngari yn dod atom a dwi mewn cysylltiad ag e o hyd.

    "Dwi'n cofio hefyd am fyfyrwraig o'r Almaen ac fe ddaeth myfyriwr o Iran i fyw gyda ni - rwy' mewn cysylltiad ag e hefyd. Do mi ges i fagwraeth ryngwladol iawn a dwi'n sobor o falch o hynny."

    Ann Griffith
  5. Dros yr Aber yw enillwyr Y Talwrn eleniwedi ei gyhoeddi 16:00 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    BBC Radio Cymru

    Tîm Dros yr Aber yw enillwyr Y Talwrn eleni sef Carwyn Eckley, Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur.

    Doedd Marged ddim yn y babell lên ddydd Sadwrn oherwydd salwch.

    Fe fydd yr ornest i'w chlywed ar Radio Cymru nos yfory am 19:00.

    Talwrn
    Disgrifiad o’r llun,

    Llongyfarchiadau i dîm Dros yr Aber

  6. Rheolwr y Clwb Rygbi: ‘Wedi dysgu llawer gan Tregaroc’wedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae rheolwr y Clwb Rygbi, sydd drws nesaf i faes yr Eisteddfod newydd ymgymryd â’i waith newydd.

    “Ydw rwy’n edrych ‘mlan yn fawr ac wedi dysgu llawer wedi i gannoedd ddod i Tregaroc.

    “Mi fydd yna fochyn yn cael ei rostio yma bob nos a digon o ddiod i ddiwallu syched eisteddfodwyr,” meddai.

    Disgrifiad,

    Rheolwr y Clwb Rygbi: ‘Wedi dysgu llawer gan Tregaroc’

  7. Anest, Cari a Lili oedd y tair a ddewiswyd o dan 12 i ganu ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Anest, Cari a Lili oedd ar y llwyfan yn yr unawd o dan 12.

    Roedd y tair yn canu 'Adar Bach' o waith J Morgan Lloyd.

    Y beirniaid yw Rhian Williams a Mari Ffion.

    Anest
    Disgrifiad o’r llun,

    Anest

    Cari
    Disgrifiad o’r llun,

    Cari

    Lili
    Disgrifiad o’r llun,

    Lili

  8. Y stiwardiaid yn rhagweld amser prysurach i ddodwedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae Heledd Evans ac Angharad Mason wedi bod wrthi’n croesawu ymwelwyr ‘nôl i’r maes.

    “Mae wedi bod yn eitha’ 'bishi', ac ma’ bysys ac ati ‘di dechrau cyrraedd nawr.

    "Dwi’n credu eith hi’n fwy bishi yfory,” medd Heledd.

    Maes
  9. Y torfeydd yn dal i ddodwedi ei gyhoeddi 15:38 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae hi wedi bod yn gymylog drwy'r dydd ond mae'r torfeydd yn dal i gyrraedd.

    torf
  10. Canlyniadau cyntaf yr Eisteddfod...wedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Llongyfarchiadau i Fand Arian Cross Keys am gipio DWY wobr gyntaf heddiw!

    Gwyliwch yr uchafbwyntiau ar ein tudalen ganlyniadau arbennig.

    Band Arian Cross Keys
  11. Cofio Aled Lloyd Davies a chyflwyno'r Cymrawd Garry Nicholaswedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Aled Lloyd DaviesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Ddechrau Ionawr 2021 bu farw Aled Lloyd Davies ac ar lwyfan y pafiliwn ar ddiwedd y cystadlu brynhawn Sadwrn bydd y Brifwyl yn cofio am ei gyfraniad gwerthfawr.

    Pan ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â'r Wyddgrug yn 1991 ef oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith.

    Cafodd ei urddo'n Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru.

    Dyma'r anrhydedd uchaf y mae'r Brifwyl yn gallu ei rhoi i berson, a dim ond pum Cymrawd sydd ar unrhyw adeg.

    Yn ystod yr un achlysur bydd Garry Nicholas yn cael ei gyflwyno fel Cymrawd newydd.

    "Anodd fyddai meddwl am unrhyw un sydd wedi gwneud cymaint dros ein gŵyl genedlaethol dros y blynyddoedd," meddai'r Eisteddfod.

    "Mae Garry Nicholas wedi gweithio'n ddiflino i’r Brifwyl gan ddal amryw o swyddi - Cadeirydd y Cyngor, Llywydd y Llys, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliannol.

    "Am gyfnod bu’n gadeirydd panel bychan oedd yn ystyried ffyrdd i wella a datblygu’r Brifwyl ymhellach," medd llefarydd.

    Garry NicholasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Brifwyl wedi penodi Garry Nicholas yn Gymrawd

  12. Enfys o Obaith Merched y Wawr yn diolch i'r Gwasanaeth Iechydwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Merched y Wawr

    enfys

    Dros y cyfnod clo fe wnaeth Merched y Wawr gynnal prosiect #GartrefGydanGilydd ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

    Cafodd dros 7,000 o’r Blodau Gobaith yma eu creu, ac mae’r rheiny bellach wedi cael eu rhoi at ei gilydd.

    Cafodd yr Enfys o Obaith ei dadorchuddio ar y maes y prynhawn yma, fel diolch i’r gwasanaeth iechyd a gweithwyr allweddol am eu cyfraniad yn ystod y pandemig.

    enfys
  13. Ffordd arall o gyflwyno Telynores Maldwyn ...wedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    'Pop art' o’r delynores Nansi Richards yw un o'r pethau sydd i'w gweld yn stondin Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

    Nansi Richards
  14. Dadeni - Gorymdaith Llusern, Sbectacl Syrcas a Pharti yn y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae nifer fawr o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar gyfer heno," medd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones AS.

    "Bydden i'n annog pawb i ddod y penwythnos cyntaf wrth i ni ddathlu Dadeni'r Eisteddfod Genedlaethol.

    "Bydd perfformiadau byw yn mynd 'mlaen tan hwyr y nos - fe fydd yna syrcas, pob math o oleuo ac wrth gwrs fe fydd Jess, Dafydd Iwan a nifer o bobl eraill yn perfformio.

    "Fe fydden i'n annog pawb sy'n gallu i ddod i'r maes y penwythnos cyntaf - peidiwch â'i gadael hi tan y penwythnos olaf achos mae 'na gymaint yn digwydd a hyd yn oed mwy ar y penwythnos cyntaf na'r olaf."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Aelodau Ysgol Gerdd Ceredigion yn canu ar dir eu hunainwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Mae Prif Lwyfan y Maes hefyd yn gyrchfan poblogaidd.

    Côr Ysgol Gerdd Ceredigion oedd yn diddanu'r gynulleidfa brynhawn Sadwrn.

    cor
  16. Os am ddysgu Cymraeg "ewch am beint neu gael plentyn!"wedi ei gyhoeddi 14:56 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Ym mhabell Maes D mae ‘na drafodaeth gyda rhai o drigolion Ceredigion sydd wedi dod o dramor a dysgu Cymraeg.

    Daw’r milfeddyg Kate O’Sullivan o Ogledd Iwerddon, mae Ana Rowelska o Wlad Pwyl yn wreiddiol, ac mae’r Iseldirwr Kees Huysmans yn adnabyddus fel pennaeth cwmni Tregroes Waffles.

    Mae’r tri yn sôn am eu profiadau nhw wrth ddysgu’r iaith, gan ddweud bod angen taflu’ch hunain i mewn i’r broses.

    “Mae angen i’r Cymry Cymraeg roi amser caled i’r dysgwyr!” meddai Kees Huysmans.

    “Ac mae angen i chi’r dysgwyr hefyd dynnu’r clustffonau… a dweud wrthyn nhw beidio siarad Saesneg gyda ni.”

    Wrth wrando ar brofiadau’r lleill mae’r cadeirydd Marion Loeffler, o’r Almaen yn wreiddiol, yn sylwi ar batrwm.

    “Os chi am ddysgu Cymraeg, chi un ai’n ymuno efo clwb efo lot o alcohol, neu chi’n cael plant!” meddai.

    Maes D
    Disgrifiad o’r llun,

    Dysgwyr profiadol iawn yn rhannu profiadau ym Maes D brynhawn Sadwrn

  17. Disgyblion yr ysgol leol yn cael 'profiadau gwych'wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Swyn Efa, Neli a Mai ar y llwyfan yng nghystadleuaeth y Fonologwedi ei gyhoeddi 14:42 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Swyn Efa, Neli a Mai oedd ar y llwyfan yng nghystadleuaeth y Fonolog i rai rhwng 12 a 16.

    Y beirniaid yw Geraint Lewis a Sara Harris-Davies.

    Roedd y cystadleuwyr yn cael 5 munud i gyflwyno monolog o ddrama, rhyddiaith neu waith gwreiddiol.

    Swyn Efa
    Disgrifiad o’r llun,

    Swyn Efa

    Neli
    Disgrifiad o’r llun,

    Neli

    Mai
    Disgrifiad o’r llun,

    Mai

  19. Criw Maes B yn mynd yn iau?wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Ydi criw Maes B yn mynd yn iau bob blwyddyn?

    Dyma Osian, 6, a’i chwaer fach Megan, 3, o Lanelli yn mwynhau ger Caffi Maes B.

    Maes
  20. Teulu lleol prysur iawn ...wedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 30 Gorffennaf 2022

    Nos yfory bydd Delyth Hopkins Evans yn arwain y Gymanfa Ganu a Chôr yr Eisteddfod - ond heddiw roedd hi ac aelodau eraill y teulu yn diddanu ar y Maes.