Oriel: Ras fynydd 'anoddaf yn y byd'
- Cyhoeddwyd

Un o'r cystadleuwyr, Chris Cope, yn gadael Conwy wedi i'r ras ddechrau o Gastell Conwy am 6 o'r gloch y bore
Mae Ras Cefn y Ddraig yn cael ei adnabod fel un o'r rasys mynydd caletaf yn y byd gyda'r rhedwyr yn cystadlu drwy redeg o Gonwy i Gaerdydd ar hyd mynyddoedd uchaf Cymru mewn chwe diwrnod.
Eleni fe wnaeth dros 260 o rhedwyr o 26 gwlad gychwyn Ras Cefn y Ddraig 2022 gyda'r gystadleuaeth yn gorffen ar ddydd Sadwrn 10 Medi wedi i'r rhedwyr gystadlu dros 380km o bellter.
Dyma rai o'r golygfeydd.

Crib Goch yw un o rannau mwyaf heriol y ras

Owen Rees yn camu'n ofalus ar Crib Goch

Dringo creigiau Tryfan yn her ar ddiwrnod cynta'r ras

Y Cymro Ian Owen yn lliwgar iawn yn ystod ail ddiwrnod y ras

Cadair Idris dan gwmwl yn ystod trydydd diwrnod y ras

Y niwl yn gwneud amodau'n anodd ar drydydd diwrnod y ras

Cyfle i orffwys coesau blinedig

Ffyn cerdded yn help i ddelio gyda'r tirwedd ar bedwerydd diwrnod y ras

Yr enillydd Lisa Watson ar bumed diwrnod y ras

Rhedwyr yn cefnogi ei gilydd drwy'r afon

Enillwyr y ras - Lisa Watson a James Nobles
Hefyd o ddiddordeb: