Cymro yn ennill Ras Cefn y Ddraig am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae Cymro wedi ennill Ras Cefn y Ddraig - un o'r rhai mwyaf heriol o'i math yn y byd - am y tro cyntaf.
Fe groesodd Simon Roberts o Bontypridd y llinell derfyn yng Nghastell Caerdydd brynhawn Sadwrn gyda'r amser cyffredinol cyflymaf.
Katie Mills o Loegr enillodd categori'r merched, wrth iddi hi orffen yn seithfed yn gyffredinol.
Chwe diwrnod yn ôl, 367 o gystadleuwyr o 24 gwlad Gastell Conwy ar lwybr heriol, 380km o hyd.
Roedd y rhedwyr yn esgyn cyfanswm o 17,400m drwy Gymru - bron ddwywaith uchder Everest.
Yn rhedeg yn agos y tu ôl i Simon Roberts drwy'r wythnos roedd Russell Bentley o Flaenau Ffestiniog, a orffennodd y ras yn yr ail safle.
Enillodd Simon Roberts y ras gydag amser o 45 awr, 42 munud ac 11 eiliad. Amser Katie Mills oedd 61:12:54.
Mae rhai o'r farn bod y digwyddiad yn un o'r rasys mynyddoedd anoddaf yn y byd ac mae nifer o redwyr eisoes wedi tynnu allan yr wythnos hon.
O'r 367 a ddechreuodd y ras, y disgwyl yw mai dim ond 25% fydd yn gorffen erbyn y pwynt terfyn o 22:00 nos Sadwrn.