Tu ôl i'r camera: Eira Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Fel person a gafodd ei magu ar dŷ fferm ym Mryngwran yn Ynys Môn roedd gweld yr haul yn gwawrio a machlud dros gaeau gwyrdd yr ynys yn rhywbeth arferol i Eira Wyn Jones.
Erbyn hyn mae'r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth yn sylweddoli fod cymryd sylw o'r lliwiau trawiadol ar dirwedd bro ei mebyd yn nyddiau ei phlentyndod wedi ffurfio ei llygad craff.
Mae Eira, 29, yn cael ei chynrychioli gan Lux Artists ac wedi gweithio ar ffilmiau gydag artistiaid fel Rita Ora, The Killers a Fontaines D.C.
Mae hi hefyd wedi creu hysbysebion i gwmnïau anferth fel Nike, UNIQLO, Evian, UberEats a McDonalds ac wedi creu ffilmiau byr.
Wedi cyfnod ym Mhrifysgol Stafford a Llundain mae hi rŵan yn byw ym Mharis gyda'i gŵr Yan Gorriz - sydd hefyd yn gyfarwyddwr llwyddiannus - a'u plentyn bach, a breuddwyd y ddau ydi creu eu ffilm lawn gyntaf gyda'i gilydd.
Cymru Fyw sydd wedi holi Eira am fywyd tu ôl i'r lens.
Fy swydd ydi...
Gweithio efo'r cyfarwyddwr cyn ac yn ystod y ffilmio er mwyn gweld sut maen nhw'n mynd i oleuo a ffilmio'r olygfa.
Mae hynna'n symud rhwng yr elfennau o benderfynu sut mae'r goleuadau yn mynd i edrych a pha symudiadau mae'r camera yn mynd i wneud yn ystod y sîn.
Y camera sy'n dangos yn union sut fath o egni sydd yn y sîn felly 'da ni'n gorfod mynd a rhoi ein meddwl i fewn i'r stori a penderfynu pa elfennau 'da ni'n mynd i ddangos.
Dwi'n gwneud lot o fideos miwsig…
Dyna ydi'r ffordd i ddechra ar yrfa yn y diwydiant ffilm - ti'n dod i 'nabod pobl ac yn gwneud pethau yn reit rough and ready ac ar low budget.
Mae 'na ddisgwyl i chdi ddechrau ar y gwaelod a gweithio dy hun fyny i gyrraedd y rôl cyfarwyddwr.
'Nes i weithio fel camera trainee yn Llundain a sgwennu at gyfarwyddwyr o'n i yn licio fel Steve Anniss. Wnaeth o gymryd fi ar fel apprentice a nes i weithio efo fo am gwpwl o flynyddoedd yn dysgu am sut mae'r camera department yn gweithio.
Rŵan dwi'n cael fy nghynrychioli gan Lux Artists yn Llundain ac yn Paris.
Pan ti'n gweithio efo pobl fel Rita Ora neu The Killers…
Mae 'na bwysau. Mae gen ti barch tuag at yr artist.
Mae gen ti ddwy awr neu lai fel arfer i wneud music video efo'r artistiaid mawr 'ma. Unwaith mae'r artist wedi penderfynu bo' nhw wedi cael digon, dyna fo.
'Nai'm deud gormod… ond mae The Killers yn strict iawn gyda'u time frame!
Dwi 'di bod yn ffan ers dwi'n ifanc a mi oedd o ychydig bach yn surreal dweud fy mod i am gyfarfod Brandon Flowers ar y set.
Mi o'n i ychydig yn nerfus. Mae o'n gymeriad reit gryf. Dyma fi yn deud helo wrtho fo a mi oedd o reit rhesymol a chroesawgar. Ond pan mae o wedi cael digon, mae o wedi cael digon, rho hi fela, haha!
Mae gan y bobl 'ma lot o carisma...
... pan maen nhw'n perfformio ond unwaith mae'r camera wedi stopio mae hynna'n gorffan!
Mae 'na wahaniaeth, hyd yn oed yn y ffordd mae rhywun yn sefyll. Petha bach fel 'na, mae o'n newid yn syth pan mae'r camera yn mynd off.
Ond roedd Fontaines D.C yn halen y ddaear go iawn. Maen nhw yn cŵl - nes i rili joio gweithio efo nhw. Mae'r hogia yn llond o syniadau.
Oeddan ni yn gwneud live performance efo nhw ar gyfer y gân Life Aint Always Empty mewn Irish pub yn Llundain a wnaethon ni orffen o yn sydyn iawn.
Roedd y canwr Grian Chatten efo cable ac o'dd o'n mynnu bod o wedi cysylltu i'r sound system - mi wnaeth o faglu cwpl o weithiau!
Mae'r prosiect 'nes i wneud gyda Evian yn Slovenia...
...yn un bythgofiadwy i fi. The sheer stress o fod allan ar fynydd ganol nunlla - hithau'n minus 15C, a'r camera ddim yn gweithio achos bod hi 'di rhewi.
Roedd y conditions yn reit anodd ond roeddan ni efo tîm lleol oedd wedi arfer bod allan yn yr oerfel, yn y diwadd mi gafon ni ffilm reit dda.
Prosiect arall dwi'n falch ohono fo ydi prosiect FPA - sef elusen ar gyfer pobl sydd methu clywed yn dda neu sy'n fyddar.
Nes i rili mwynhau gwneud y prosiect yna achos oedd o'n un o'r rhai cyntaf i fi wneud gyda fy nhartner Yan.
Dwi'n licio gallu trafeilio efo fy ngwaith. Dwi'n falch bo fi yn gallu gwneud hynna. Dwi'n cael gweld llefydd 'swn i byth yn ddychmygu mynd fel arall.
Mae 'na lot o brofiadau da yn dod allan o weithio mewn gwledydd dramor, profiadau bywyd.
Roedd edrych ar y tirwedd pan o'n i'n ifanc...
... ar yr haul yn mynd lawr, ac ar y golau yn newid lliw y tir wedi rhoi lot o amynedd i fi edrych ar betha'n hirach.
Mae hynna yn sicr wedi cael effaith arna'i.
Wrth dyfu fyny yn ardal Bryngwran... doedd 'na ddim llawer o dai o gwmpas, doedd na ddim llawer o blant i chwara efo nhw...
Roedd rhaid i chdi greu rhywbeth i gadw dy hun yn brysur a weithiau mae o'n dda mod i wedi gorfod sbïo yn bellach na jest y pethau amlwg.
Dwi'n cofio yn ifanc, nes i rili joio gwylio Hedd Wyn...
Mi oedd hwna yn un o'r ffilmiau wnaeth gwneud i fi feddwl am greu ffilmiau. O'n i'n rili licio'r stori ynglŷn â'r lleuad a sut roedd y lleuad wedi ysbrydoli'r bardd i ysgrifennu.
Hedd Wyn oedd y ffilm cyntaf nes i weld a meddwl 'o, mi fysa gwneud hynna yn ddiddorol'.
Yn brifysgol nes i rili fwynhau ffilms Wim Wenders, Wings of Desire - ffilm du a gwyn Almaeneg rili slo, ond rili anhygoel a phrydferth.
Er bod 'na bleser mewn gwylio junk, rhywbeth dw'i dal i wneud - mae 'na rywbeth sbeshal yn codi tu fewn i chdi pan ti'n gwylio rhywbeth fel 'na.
Dwi hefyd wedi bod yn dilyn gwaith Park Chan-Wook ers blynyddoedd - dwi wrth fy modd efo Oldoy.
Os ti'n gwylio ffilm...
... a ti ddim yn sylwedoli bo' ti'n gwylio ffilm mae'n beth da achos ti 'di anghofio am sut maen nhw wedi gwneud o.
Ti'n zoned in a ti'n gwrando ar y stori a ti'n cal dy effeithio gan y stori.
Dwi rili yn gobeithio yn y pum mlynedd nesa nai wneud feature length film... Dwi di bod yn siarad efo fy mhartner a 'da'n ni ill dau wedi setio ar syniad a stori.
Mae'n bosib wnawn ni ei wneud yn gogledd Cymru neu yn ne Ffrainc.
Mi wnawn ni definitely dod nôl i Gymru i wneud rywbeth 'de, hyd yn oed os 'na dim ffilm hir ydi o.
Hefyd o ddiddordeb: