Rhys Grail: Pry ar wal sin gerddoriaeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhys GrailFfynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Rhys Grail

Os ewch i gig mewn unrhyw gornel o Gymru mi fyddwch yn siŵr o ddod ar draws Rhys Grail yno gyda'i gamera ffilm yn barod i gymryd ei shot nesaf.

Mae gan yr artist gweledol o Bethel ger Caernarfon bentyrrau o luniau mae o wedi hel dros y blynyddoedd diwethaf ac wrth ryddhau ei lyfr Circa 21/22 mi fydd y darluniau hyn o ddiwylliant cerddorol Cymru yn cael eu rhannu gyda'r byd.

Yn ogystal â chwarae'r gitar ar lwyfan gyda'r band Gwilym mae gan y diymhongar Rhys, wnaeth astudio ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Birmingham, cymaint o ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r dorf yn cofnodi'r hyn sy'n mynd 'mlaen o'i flaen a thu ôl i'r lleni.

Ar Ddydd Miwsig Cymru 2023 mae Cymru Fyw wedi cael clywed gan y dyn tu ôl i'r lens. Dyma oedd ganddo i'w rannu:

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Clawr Circa 21/22

Mae o yn 100 tudalen o luniau…

Mae o'n record cyfan corfforol sy'n profi bod y lluniau 'ma gyd yn bodoli.

Dros y dwy flynedd dwytha, fel ma' gigs di bod yn dod nôl, oni constantly efo camera fi ac yn naturiol odd gen i collection anfarth o gigs a bands so neshi feddwl 'o, mae na rhyw narrative naturiol yn fama'.

Nes i ddogfennu'r is-ddiwylliant cerddorol Cymraeg 'ma heb rili trio gwneud. Nath o jest digwydd ar ei ben ei hun mewn ffordd.

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

KIM HON

Oni'n scanio trw lluniau 'ma ac wrth fy modd efo nhw. Dwi'n teimlo mae 'na gymaint o amser a pres a ymdrech 'di mynd mewn i dynnu nhw a bod yn y llefydd 'ma, oni'n meddwl fysa fo yn neis cael bob dim mewn un lle.

Oni'n teimlo mai llyfr eithaf swmpus oedd y ffordd gorau i gael o i gyd allan.

Mae 'na rai lluniau dwi'n cofio gweld a meddwl waw...

Mae 'na un shot dwi'n lyfio o Maes B. Roedd hi'n rhewi un noson a roedd Y Cledrau yn chwarae ag oni efo ffilm du a gwyn, a mae 'na shot oedd jest yn technically berffaith.

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Y Cledrau, Maes B 2022

Mae'r golau yn hitio Joe (Y Cledrau) yn berffaith a 'ma hwnna yn stand out yn y llyfr.

Mae 'na shoot neshi neud efo Chroma yn mis Tachwedd 2022. Oeddan nhw wedi cael dillad gan Adam Jones, artist o Wrexham sy'n gwneud dillad efo hen beer matts. So wnaethon nhw ofyn i fi fynd draw a tynnu lluniau…

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Zac Maher, drymiwr Chroma

Oeddan nhw i gyd efo'r dillad wacky 'ma gan gynnwys vests Wrexham Lager a neshi jest dreulio'r pnawn efo nhw yn saethu portraits.

Mae 'na rai yn 2021 hefyd. Dwi'n cofio mynd i Stiwdio Sain a roedd Lewys Wyn ag Osian Candelas yno.

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Lewys Wyn yn Stiwdio Sain, Llandwrog, 2021

Mae 'heina bron i ddwy flynedd yn ôl wan a roedd o yn rili neis gweld be' oni yn gwneud adeg yna. Oni fel, wow, fanna oni dwy flynedd yn ôl. Mae'r ddau wedi newid gymaint yn y ddwy flynedd dwytha!

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Osian Wyn Williams, Candelas, 2021

Pan oni'n cychwyn allan...

Oni'n ffeindio fo yn rili anodd tynnu lluniau mewn gigs ond erbyn rwan na'i jest ploncio fy hun lle bynnag dwisio a gael y job wedi ei wneud.

Yn enwedig mewn gigs bach, fel ti'n cael yn Clwb Ifor Bach, mae 'na stigma ti'n gorfod cymryd dy fod di am fod y boi weird na yn y ffrynt efo'r camra.

Dwi'n trio bod mor cŵl a bosib. Mission fi bob tro ydi mynd reit i ffrynt yn y dechrau, aros ar yr ochr, a wedyn os dwi isio mynd at y lead singer nai bwsio pawb o ffordd a mynd i gymryd y shot.

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Heledd Watkins, HMS Morris. Maes B 2022

Dwi wedi cyrraedd y stage lle dwi'n gwybod sut i saethu ffilm mewn ffordd dwi'n licio, yn enwedig mewn du a gwyn, mae gen ti broses o'r enw push and pull - lle fedri di saethu ar ISO rili uchal gan wneud o yn fwy sensitive i olau, a drwy hynna mae'r ffilm yn mynd yn rili grainy ag yn rili amrwd.

Mae o yn gret hefyd achos fedrai fynd a fo mewn i gig heb orfod mynd a flash!

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Hyll, Maes B 2022

Pan oni'n ifanc…

Oni'n licio sketcho bob mathau o bethau. Artist gweledol swni'n galw fy hun… dwi'm yn licio limitio fy hun i ffotograffydd neu peintiwr ne rwbath fel 'na. Dwi'n licio gweithio efo unrhyw medium mewn ffordd - ffotograffiaeth, fideo, paentio, tatwio… be bynnag!

Dwi'n ffeindio fo yn od rhoi fy hun mewn bracket achos dwi'n licio loads o stwff gwahanol.

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Un o ddarluniau Rhys ar ganfas

Swni'n deud bo' fi wastad 'di bod 'creative kid' y teulu. Hyd yn oed pan oni'n tiny oni'n cael y disposable cameras na o Boots a jest tynnu lluniau hollol wacky.

Mae o wedi bod yn ddiddordeb naturiol ers dwi'n blentyn bach.

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys yn mwynhau arbrofi gyda delweddau ffasiwn hefyd

Dwisio cymryd mwy o luniau…

Lle fedri di fod jest yn chillio efo band, mewn stiwido neu yn y pyb, a jest yn cael y lluniau un i un 'na efo 'bach mwy o stori.

Mae 'na artist or enw Gunnar Stahl sydd yn cymryd lluniau o'r holl rapwyr 'ma o America. Be' oedd o'n gwneud oedd treulio amser yn stiwdio efo nhw a bod yn bry ar wal yno.

Wrth edrych ar ei lunia o ti'n gallu gweld sut mae o wedi cael insights rili cŵl o artistiaid yn tyfu ac yn mynd yn fwy ac yn fwy.

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Dion Jones, Alffa

Yn slo bach dwi di bod yn mwynhau gwneud stwff live ond yn ddiweddar dwi yn cravio bach mwy o bortreadau a meddwl mwy am y stori tu ôl i'r cynnwys.

Es i i London Fashion Week a saethu yn fanna. Neshi feddwl, waw, dwi'n lyfio fashion photography. Dwi'n bersonol yn meddwl bod ffasiwn a cerddoriaeth yn mynd hand in hand a dwin trio mixio'r ddau beth yna ar y funud.

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Mellt ar dudalenau Circa 21/22

Dwi yn 'chuffed' o gael Circa 21/22 allan…

Mae o yn archif bach cŵl does 'na neb rili 'di cyffwrdd arno fo o blaen… sef record o'r sin cerddoriaeth Gymraeg diweddar.

Mae o yn gret i gael y time capsule 'ma a mae pobl sydd wedi cymryd rhan yn y llyfr neu sydd efo diddordeb ynddo fo yn gallu edrych yn ôl arno fo.

Fydd parti lansio'r llyfr yn cael ei gynnal yn Braf Dinas Dinlle ar 24 Chwefror lle mae Alffa, Y Cledrau, Skylrk a Keyala yn chwarae. Croeso i bawb!

Ffynhonnell y llun, Rhys Grail
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Grail

Mentrwch mewn i fyd...