Goleuadau'r Gogledd yn goleuo'r awyr dros nos
- Cyhoeddwyd
Roedd golygfa trawiadol i'w weld uwchben rhannau o ogledd Cymru nos Iau Mawrth 23, wrth i oleuadau Aurora Borealis ddisgleirio yn yr awyr.
Roedd yr Aurora Borealis - Goleuadau'r Gogledd - i'w gweld uwchben Ynys Môn, Llandudno, Abergele a rhannau eraill o'r gogledd.
Mae'r goleuadau trawiadol yn cael eu creu gan y cerrynt trydanol sydd yn atmosffer y ddaear - cerrynt sy'n cael ei greu gan yr haul.
Dyma rai o'r lluniau prydferth: