'Rhyfeddol' gweld Goleuadau'r Gogledd dros nos yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Goleuadau'r Gogledd dros fynyddoedd Eryri
Mae nifer ar draws Cymru wedi bod yn rhannu eu profiadau rhyfeddol o weld Goleuni'r Gogledd am y tro cyntaf.
Prin iawn yw'r cyfleon i weld 'ffagl yr arth' neu'r Aurora Borealis yng Nghymru - mae'r goleuadau i'w gweld, fel arfer, yn Yr Alban a gogledd Lloegr.
Mewn neges ar eu cyfrif trydar fe nododd y Swyddfa Dywydd y gellid gweld "yr Aurora Borealis cyn belled i'r de a chanol Lloegr nos Sul lle mae'r awyr yn glir".
Ers hynny mae degau ar draws Cymru wedi bod yn rhannu eu lluniau - gyda rhai cyn belled i'r de â Chernyw yn rhannu eu profiadau.
Bu Dafydd Wyn Morgan yn ddigon lwcus i weld Goleuadau'r Gogledd o fryn ger ei gartref yn Nhregaron

Yr Aurora Borealis yn Nhregaron nos Sul

Dyma welodd Hanna Baguley ar Ynys Môn
Wrth rannu ei lun e dywedodd Dafydd Morgan o Dregaron ei fod wedi wedi disgwyl 10 mlynedd am gael llun fel hyn a bod y cyfan "y sioe ryfedda' ar y ddaear".
Ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd fod yr ap ar ei ffôn wedi'i rybuddio bod yr Aurora Borealis ar fin cychwyn "ar sgwâr Tregaron o bob man".
"Dyma fi'n neidio mas o'r gwely a mynd lawr i'r swyddfa, cydio yn y bag camera a lan a fi i Ben Pica - bryn bach tu ôl i Dregaron.
"Y funud stopiais i ro'n i'n gweld y goleuadau - coch fwyaf gyda'r gwyrdd reit ar y gornel.
"O'n i'n gwybod fod amser yn mynd i fod yn brin achos mae'r rhain yn para 'chydig funudau ar y gorau - ac o fewn saith munud roedd y cyfan wedi diflannu.
"Ro'n i wedi eu gweld nhw llynedd ar gopa y Mynydd Bach yn Nhrefenter, ond dim ond gwyrdd y noson hynny. Ond neithiwr roedden nhw'n wyrdd, a phinc a choch."

Dyma'r olygfa yn ardal Y Trallwng, Powys

Goleuadau'r Gogledd ym Môn
Mae pobl ym Môn, Eryri, Ceinewydd a Bannau Brycheiniog hefyd wedi bod yn rhannu lluniau.

Yr olygfa ym Mannau Brycheiniog

Lliwiau llachar yr Aurola Borealis uwchben Bannau Brycheiniog
Dywed y Swyddfa Dywydd bod modd gweld y goleuadau eto nos Lun mewn awyr glir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019