Lluniau: Eryri yn Y Gwanwyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r haul yn ymddangos yn amlach ac mae'r dyddiau yn ymestyn. Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd ac bydd mwy ohonom ni'n mynd allan i gerdded a mwynhau golygfeydd y wlad dros y misoedd nesaf.
Dyma gasgliad o luniau gan y ffotograffydd James Grant i'ch ysbarduno. Mae'r rhan helaeth ohonynt o Eryri, gyda chwpl o rannau eraill o'r gogledd.

Un o fynyddoedd mwyaf trawiadol Eryri, Tryfan.

Edrych dros Afon Mawddach tuag at Gader Idris.

Dringo drwy'r cymylau.

Elidr Fawr a chronfa ddŵr Marchlyn Mawr.

Machlud haul ar y Glyderau.

Castell Dinas Bran drwy'r niwl.

Castell Y Gwynt ben bore.

Copa'r Cnicht, sy'n rhan o fynyddoedd Y Moelwynion.

Toriad y wawr ger Llyn Cau, o dan Pen-y-Gadair, Cader Idris.

Cylch Cerrig Moel Tŷ Uchaf, sy'n dyddio nôl i'r Oes Efydd.

Goleudy'r Parlwr Du yn y gogledd ddwyrain.

Golygfa o gopa'r Wyddfa.

Machlud haul o gopa'r Wyddfa.

Llyn y Caseg Fraith yn y Glyderau.

Cymylau dros Foel Goch.

Yr haul yn gwawrio ar Tryfan.
Hefyd o ddiddordeb: