Oriel: Lluniau 2022
- Cyhoeddwyd
Dros y flwyddyn mae nifer o luniau trawiadol wedi eu cyhoeddi yn adran Gylchgrawn BBC Cymru Fyw: dyma edrych nôl dros ddetholiad ohonyn nhw sy'n ein hatgoffa o olygfeydd godidog Cymru a rhywfaint o stori'r flwyddyn a fu.
Ar ddechrau 2022 daeth eira cynnar fis Ionawr i orchuddio copaon y mynyddoedd.
Fe rannodd rhai o bobl ifanc Brynmawr a Merthyr Tydfil oedd wedi bod yn gweithio gyda dylunwyr Alexander McQueen luniau trawiadol o'u gwaith wedi iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithdai ffasiwn, ffotograffiaeth a brodwaith.
Fis Chwefror roedd rhan o ucheldir y gogledd-ddwyrain yn ceisio am statws awyr dywyll. Cafwyd digwyddiadau syllu ar y sêr ar Foel Famau fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru.
Tynnwyd y llun atmosfferig yma o fryngaer Caer Drewyn yn y nos gan Dylan Parry Evans.
Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y cyd gyda Prosiect Nos hefyd yn dathlu harddwch naturiol yr Awyr Dywyll gyda gweithgareddau ac oriel arbennig gan y ffotograffydd Keith O'Brien.
Tynnodd Clare Harding-Lyle luniau oedd yn dangos arwyddion o'r gwanwyn inni ym mis Mawrth wrth i'r flwyddyn ddechrau goleuo.
A hwythau ar drothwy blwyddyn ryfeddol dan law eu perchnogion newydd Rob McElhenny a Ryan Reynolds fe gyhoeddon ni luniau o gefnogwyr selog Clwb Pêl-droed Wrecsam o brosiect Up the Town gan Carwyn Rhys Jones.
Dyma lle dechreuodd y cyfan i Yma o Hyd - Dafydd Iwan yn ei ddagrau yn canu'r gân aeth yn feiral yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan gurodd Cymru Awstria yn y gemau ail gyfle i Gwpan y Byd.
Roedd Sioe Nefyn, sioe amaethyddol gynta'r flwyddyn fel arfer, yn ôl yn well nag erioed yn 2022 gan dorri eu record o ran nifer ymwelwyr ar ôl dwy flynedd o hoe oherwydd y pandemig.
Gŵyl arall ddaeth nôl wedi bwlch oherwydd Covid oedd Gŵyl Fwyd Caernarfon gyda miloedd yn y dref yn mwynhau yn yr haul.
Roedd Gŵyl Triban yn ŵyl o fewn gŵyl yn Eisteddfod yr Urdd Dinbych ar gyfer aelodau hŷn y mudiad ieuenctid.
Gyda Chaernarfon yn rhan o'r cais llwyddannus i ennill statws treftadaeth UNESCO y byd fe dynnon ni sylw at luniau arbennig y ffotograffydd Iolo Penri o bobl y dref yn hytrach na'r castell a'r muriau sy'n denu'r sylw fel arfer.
Er gwaetha'r glaw daeth miloedd o bobl i fwynhau adloniant, bwyd, cerddoriaeth byw a chymdeithasu yn Tafwyl, yr ŵyl gelfyddydol Gymraeg boblogaidd yn y brifddinas ar benwythnos 18 a 19 Mehefin.
Un arall o'r gwyliau bach lleol oedd yn falch o fod yn ôl oedd Gŵyl Felinheli gyda sioe dalent, noson gwis, Ras 10k, ffair cynnyrch lleol, noson lawen, a gorymdaith a charnifal a llwyth o luniau lliwgar.
Wedi tair blynedd o seibiant oherwydd Covid roedd digwyddiad Top Dre yng Ngŵyl Rhuthun yn fwy poblogaidd nag erioed yn 2022 meddai'r trefnwyr - a Dafydd Iwan unwaith eto yn denu'r dorf i ganu.
Ar ddiwrnod cyntaf y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd - digwyddiad arall oedd nôl wedi absenoldeb o ddwy flynedd - roedd y gwres poeth yn gwneud i bawb chwilio am ffyrdd o oeri.
Profodd Cymru ddeuddydd o wres mawr - y poethaf ar record ddydd 18 Gorffennaf wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint.
Daeth miloedd nôl i sgwâr Dolgellau i ddathlu'r Sesiwn Fawr gyntaf ers dwy flynedd a gwrando ar gerddoriaeth werin a phop byw ar draws naw llwyfan.
Fe gawson ni gip ar olygfeydd cyfarwydd a llai cyfarwydd Y Rhondda fis Medi drwy luniau Sion Tomos Owen o'i gynefin yn y Cymoedd.
Ar Medi 9 dechreuodd cyfnod o alaru swyddogol ar draws Cymru a gweddill y DU wedi marwolaeth y frenhines Elizabeth II.
Roedd haf 2022 yn un eithriadol o sych ac fe ddatgelwyd rhai o'r cyfrinachau oedd wedi bod o dan ddŵr rhai o'n cronfeydd a'n hafonydd ers degawdau wrth i lefelau dŵr ostwng yn y tywydd poeth.
Daeth miloedd i Gaerdydd ar 1 Hydref ar gyfer rali yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, y gyntaf o'i fath ers tair blynedd yn sgil cyfyngiadau pandemig Covid-19.
Ganol Hydref fe gafwyd storm drawiadol o fellt o Sir Benfo i Sir Fôn gyda sawl ffotograffydd wedi dal y sioe ryfeddol ar gamera.
Mae ymwelwyr o bob cwr yn cael eu denu at harddwch a theimlad hynafol Sir Benfro a fis Tachwedd fe rannodd y ffotograffydd Pete Bushell rai o'r lluniau arbennig o'r cerrig sy'n sefyll yn y tirwedd trawiadol o Bwll Deri i Foel Drygarn.
Wrth i'r hydref gau amdanom fe gawson ni luniau hudolus o'r tymor yn rhai o ardaloedd pertaf Cymru gan y ffotograffydd Gareth Morris.
Roedd yna falchder mawr yn nhîm pêl-droed Cymru oedd yn mynd i gystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958: comisiynodd Mentrau Iaith Cymru furluniau graffiti o rai o chwaraewyr Cymru mewn gwahanol gymunedau ar draws y wlad.
Yn anffodus doedd perfformiad Cymru yng Nghwpan y Byd ddim yn un cofiadwy yn y pen-draw. Ond bydd y darlun o'r Wal Goch yn canu'n ffyddlon i'w tîm ymhell wedi diwedd y gêm pan giciodd Lloegr ni allan o'r bencampwraeith yn aros yn y cof am hir.
Ddechrau Rhagfyr, fe ddaeth rhewynt ac eira i'r rhan fwyaf o'r wlad wrth i'r tymheredd ostwng.
Ac fe orffennwn y flwyddyn fel y dechreuodd, gydag eira ar y mynyddoedd.
Fe wnaeth y llun yma o'r Wyddfa yn glir yr holl ffordd o Aberystwyth greu penbleth i nifer, ond esboniodd y ffotograffydd Scott Waby mai'r ffordd mae wedi tynnu'r llun gyda lens pwerus sy'n gyfrifol am yr effaith anghyfarwydd.
Hefyd o ddiddordeb: