Oriel luniau: Tafwyl 2023
- Cyhoeddwyd
Er gwaetha'r gwynt a'r glaw daeth miloedd i Gaerdydd i fwynhau penwythnos o gerddoriaeth, diwylliant a gwledda yng ngŵyl Tafwyl 2023.
Mewn lleoliad newydd ym Mharc Bute, bu perfformiadau gan Dafydd Iwan, Candelas, Tara Bandito a llawer mwy yn ystod penwythnos Gorffennaf 15-16.
Dyma ddetholiad o luniau o'r penwythnos.

Daeth miloedd i fwynhau adloniant y prif lwyfan er gwaetha' cawodydd o law

Candelas ar y brif lwyfan ar y nos Sadwrn

Y dorf yn gwylio adloniant y prif lwyfan

Torfeydd wrth eu bodd â'r gerddoriaeth fyw

Dafydd Iwan yn mwynhau er gwaetha'r glaw trwm

Perfformiad yn Y 'Sgubor gan Pys Melyn

Gwcci gyda'u baneri a'u mygydau

Madelyn Ann yn canu

Joe Ledley mewn sgwrs gyda Dylan Ebenezer

Doedd y cawodydd o law ddim yn effeithio ar yr hwyl

Lily Beau yn perfformio