Crynodeb

  • Yr holl ymateb wedi refferendwm yr Undeb Ewropeaidd

  • Bydd David Cameron yn ildio'r awenau mewn tri mis

  1. 'Pwnc pwysig' yn yr Almaenwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Elena Parina

    Yn ôl Elena Parina, sydd yn byw ym Marburg yn yr Almaen, gadael yr Undeb Ewropeaidd yw'r "pwnc pwysicaf yn y cyfryngau" yno.

    "Mae llawer o wleidyddion wedi dweud eu barn. Siaradodd Angela Merkel am ei gofid ynghylch penderfyniad Prydain ac am yr angen i wledydd sy’n aros i gadw'r Undeb Ewropeaidd yn gryf ac yn wir i’w gwerthoedd. 

    "Mae yna lawer llai ymateb o ymateb yn Rwsia, mae’r awdurdodau yn dal i ddweud ei fod yn fater mewnol i Brydain, ond mae’r cyfryngau yn dangos Brexit fel arwydd pwysig o wendid Undeb Ewropeaidd." 

  2. Sut wnaeth pob rhan o'r DU bleidleisio?wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae gwefan wleidyddiaeth y BBC wedi trydar graff sy'n dangos sut wnaeth pob rhan o'r DU bleidleisio yn y refferendwm, a'r ganran o blaid gadael yr UE yng Nghymru o'i gymharu â'r ardaloedd eraill.

  3. Ymateb Tatawedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae cwmni dur Tata wedi ymateb i'r canlyniad i adael. Dywedodd llefarydd: "Fe fydd Tata o hyd yn parchu penderfyniadau gan etholwyr y DU.

    "Beth bynnag y fframwaith gwleidyddol, rydym wedi ymroi i ddatblygu y cyfleoedd gorau posib ar gyfer ein gweithfeydd yn y DU."

  4. Newidiadau yn y farchnad stocwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd yr arbenigwr ariannol Huw Roberts wrth Taro'r Post er bod y farchnad stoc wedi gostwng, dim ond i ble'r oedd ar ddechrau'r wythnos mae hynny wedi digwydd.

    "Ma' rhai sectorau wedi eu bwrw yn galed, fel banciau," meddai, ond ychwanegodd nad oedd hwn yn argyfwng.

  5. 'Anniddigrwydd' Llafurwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Mae Gohebydd BBC Cymru Alun Thomas, sydd yn Llundain, wedi dweud wrth raglen Taro'r Post fod yna anniddigrwydd ymhlith rhai aelodau Llafur am berfformiad y blaid yn ei chadarnleoedd traddodiadol fel Cymru a gogledd ddwyrain Lloegr - a bod nhw'n credu nad oedd y blaid wedi dangos digon o arweinyddiaeth. 

  6. 'Cyfnod o ansicrwydd'wedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Yn dilyn canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd cadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC), Dai Davies: "Bydd ffocws Hybu Cig Cymru yn parhau i fod ar sicrhau'r fargen orau i dalwyr ardoll, a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant cig coch yng Nghymru.

    "Mae'n anorfod y bydd y canlyniad yn arwain at gyfnod o ansicrwydd; mae gan HCC rôl bwysig i liniaru unrhyw ansefydlogrwydd a sicrhau bod masnachu'n parhau."

  7. Diffyg hyder yn Corbynwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Aelodau Seneddol Llafur, Margaret Hodge ac Ann Coffey, wedi anfon llythyr at gadeirydd Plaid Seneddol Llafur gan gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn eu harweinydd, Jeremy Corbyn.

    Mae'r llythyr yn galw am drafodaeth yn y cyfarfod nesa o'r grŵp nos Lun 27 Mehefin, ond yn nwylo John Cryer mae'r penderfyniad ynghylch ei dderbyn.

    Os yw'n caniatáu hynny, fe all y mater gael ei drafod ddydd Mawrth 28 Mehefin.   

    corbynFfynhonnell y llun, bbc
  8. Galw am gael gwared ar faner UEwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Mae cyn Ysgrifennydd Cymru,David Jones, wedi trydar y byddai'n beth da nawr pe bai baner yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gymryd lawr o adeiladau cyhoeddus.  

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Hollande - 'Dewis trist'wedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Roedd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn "ddewis trist" i Brydain, yn ôl arlywydd Ffrainc, Francois Hollande.

    Mae'n rhoi'r undeb "mewn trafferth", meddai, gan ychwanegu y bydd yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau "newid mawr".

  10. Ymateb Prif Weinidog yr Albanwedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae'r opsiwn o'r Alban yn cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth "ar y bwrdd" wedi'r canlyniad, meddai Nicola Sturgeon, ac yn "debygol iawn".

    Dywedodd y byddai'n "annerbyniol yn ddemocrataidd" pe bai'r Alban yn cael ei thynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd ar ôl iddi bleidleisio i aros mewn o 62% i 38%.

    sturgeonFfynhonnell y llun, bbc
  11. Ymateb Michael Govewedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove, wedi canmol David Cameron gan ddweud ei fod yn "haeddu cael ei gofio fel Prif Weinidog arbennig".

  12. Ymateb Boris Johnsonwedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Ni fydd y Deyrnas Unedig yn "llai unedig na Ewropeaidd" o ganlyniad i'r bleidlais i adael, meddai Boris Johnson yng nghynhadledd i'r wasg Vote Leave.

    Fe wnaeth dalu teyrnged i David Cameron hefyd gan ei alw yn un o'r gwleidyddion "eithriadol o'n hoes ni".

    borisFfynhonnell y llun, bbc
  13. Gwerth y bunt yn gostwngwedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    BBC News UK

    Ar ôl y canlyniad, ar un pryd, fe wnaeth gwerth y bunt yn erbyn y dollar ostwng i $1.3236, ei lefel isaf ers 1985, medd gwefan BBC News. 

    Dywedodd Banc Lloegr eu bod yn monitro'r datblygiadau yn "ofalus" ac y byddant yn cymryd y camau angenrheidiol i "gefnogi sefydlogrwydd ariannol".

    Marchnad arianFfynhonnell y llun, Reuters
  14. 'Oblygiadau enfawr'wedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    "Fe fydd gan benderfyniad y DU i adael yr undeb Ewropeaidd oblygiadau enfawr". Dyna neges y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair.

    Fe ddywedodd wrth Sky News bod heddiw "yn ddiwrnod trist i'n gwlad ni, i Ewrop, i'r byd". Ychwanegodd bod rhaid i ni ymateb "drwy adlewyrchu a bod yn aeddfed".

    blairFfynhonnell y llun, bbc
  15. Y Sylw ar San Steffanwedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae gohebydd Radio Cymru, Alun Thomas, yn San Steffan yng nghanol y bwrlwm.

  16. Datganiad gan Vote Leavewedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Refferendwm UE

    Mae disgwyl i Michael Gove, Boris Johnson a Gisela Stuart wneud datganiad ar ran Vote Leave yn y munudau nesa.

  17. Moment 'hanesyddol'wedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod hon yn foment "hanesyddol" i Gymru, y Deyrnas Unedig democratiaeth.

    Ychwanegodd Andrew RT Davies: "Dyma ddiwrnod eithriadol o bwysig i bobl y wlad arbennig hon."

    rtFfynhonnell y llun, bbc
  18. Plaid Cymru yn 'benderfynol'wedi ei gyhoeddi 10:03 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Plaid Cymru

    Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb i fuddugoliaeth yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd gan ddadlau y dylai sicrhau sefydlogrwydd i Gymru fod yn flaenoriaeth nawr.

    Dywedodd Leanne Wood tra bod yn rhaid parchu canlyniad y refferendwm, nid oedd hyn yn newydd y ffaith fod gadael yr UE yn debygol o gael effaith negyddol ar yr economi Gymreig.

    Fe bwysleisiodd fod Plaid Cymru "yn unedig, hyderus a phenderfynol" o sicrhau fod pwerau a chyllid hanfodol yn cael eu trosglwyddo o Frwsel i Gymru.

    woodFfynhonnell y llun, bbc
  19. Ceffyl blaen y Ceidwadwyr?wedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter