Crynodeb

  • Sgôr terfynol: Cymru 0-1 Gweriniaeth Iwerddon

  • Fe fyddai buddugoliaeth i Gymru yn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle o leiaf

  • Os mai cyfartal fydd hi, fe fydd Cymru'n gorfod dibynnu ar ganlyniadau timau eraill cyn gwybod eu tynged

  1. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 21:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Marc Lloyd Williams

    "Efallai mod i ddim yn deall pêl-droed, ond pam tynnu ymosdwr i ffwrdd pan da ni angen dwy gôl!!"

  2. Mwy o goliau...wedi ei gyhoeddi 21:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    FIFA

    Mae Croatia bellach ddwy ar y blaen yn erbyn Iwcraen, a Serbia hefyd ar y blaen yn erbyn Georgia.

    MAE'N RHAID I GYMRU SGORIO DWY!

  3. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 21:17 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Marc Lloyd Williams

    "Woodburn ymlaen, ond efallai fod ni yn disgwyl gormod ar ysgwyddau mor ifanc heno."

  4. Cerdyn Melyn i Wyddel o'r diwedd!wedi ei gyhoeddi 21:15 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Cerdyn Melyn

    Jeff Hendrick sy'n gweld y cerdyn am droed uchel...

  5. Sam Vokes ymlaen....wedi ei gyhoeddi 21:15 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Eilyddio

    Hal Robson-Kanu sy'n gadael - eilydd olaf Cymru heno...C'MON CYMRU!!!!!

  6. Cymru 0-1 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 70'00"

    Cwpan y Byd 2018

    ERGYD!

    Ramsey yn tanio dros y trawst o bas Chris Gunter.

  7. Croatia ar y blaen!wedi ei gyhoeddi 21:11 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    FIFA

    Mae Croatia wedi mynd ar y blaen yn erbyn Iwcraen!

    Mae hynny'n golygu fod angen i Gymru ennill y gêm - fydd gêm gyfartal ddim yn ddigon da os fydd hi'n aros fel yna.

  8. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 21:10 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Marc Lloyd Williams

    "Rwan mae Chris Coleman a'i dîm am ennil ei cyflog. A hyn fydd hanner awr olaf Coleman wrth y llyw?"

  9. Ben Woodburn i'r cae!wedi ei gyhoeddi 21:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Eilyddio

    Andy King sy'n gadael - newid positif.

  10. Cymru 0-1 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 64'00"

    Cwpan y Byd 2018

    Ergyd gan Ben Davies yn gwyro oddi ar amddiffynwr, a'r golwg yn ei dal hi.

  11. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 21:07 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Marc Lloyd Williams

    "Be ar y ddaear oedd ar feddwl Wayne Hennessey yn taflu'r bêl na allan. Y Gwyddelod yn ein cosbi, toedd Iwerddon heb fygwth tan y camgyneriad allweddol na. Angen dangos cymeriad nawr."

  12. Cymru 0-1 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 61'00"

    Cwpan y Byd 2018

    Y Gwyddelod yn gwrthymosod ac ennill cic gornel...

  13. Cymru 0-1 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 58'30"

    Cwpan y Byd 2018

    Dyna'r tro cyntaf i Gymru fod ar ei hôl hi drwy gydol yr ymgyrch hyd yma!

    Rwan ta - C'MON CYMRU!!!!!

  14. Cymru 0-1 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 56'50"

    Gôl!

    O NA!!!!!

    James McClean sy'n rhoi Gweriniaeth Iwerddon ar y blaen!

  15. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 20:59 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Marc Lloyd Williams

    "Mi fydd opsiynau Coleman yn brin yn yr ail hanner, ond os yw'r sgôr fel y mae hi, disgwyl o leiaf gweld Ben Woodburn yn dod ymlaen ar ôl rhyw 65 munud."

  16. Cymru 0-0 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 52'30"

    Cwpan y Byd 2018

    OOOOOOOOOOOOOooooooooooooooooo!

    Arbediad da o beniad Robson-Kanu o groesiad Jonny Williams - gwych gan Gymru!

  17. Cymru 0-0 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 51'00"

    Cwpan y Byd 2018

    WWWWWWWWWWWwwwwwwwwwwwww agos!!!

    O gic gornel, peniad James Chester i'r rhwyd ochr - modfeddi i ffwrdd!

  18. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    Marc Lloyd Williams

    "45 munud hanesyddol o'n blaenau - wel 40 erbyn hyn!"

  19. Chris wedi ennill ei gyflogwedi ei gyhoeddi 20:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2017

    BBC Cymru Fyw

    Beth ddywedodd Chris Coleman wrth ei dîm ar yr egwyl?

    colemanFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Cymru 0-0 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 45'00"

    Cwpan y Byd 2018

    Cymru sy'n dechrau'r ail hanner yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    C'MON CYMRU!!!!!