O leiaf 3,750 o dai heb drydanwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 16 Hydref 2017
BBC Cymru Fyw
Mae Western Power Distribution yn dweud bod o leiaf 3,750 o dai heb gyflenwad trydan yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru oherwydd Storm Ophelia.
Am 14:15, roedd 1,619 o dai heb bŵer yn Sir Gaerfyrddin, 1,241 yng Ngheredigion a 675 ym Mhowys.
Roedd 600 o dai heb gyflenwad yn Sir Benfro am 13:00, ond mae'r ffigwr bellach wedi gostwng i 258.
Mae Scottish Power hefyd yn dweud bod cartrefi heb drydan yn Amlwch a Machynlleth, ond dyw hi ddim yn glir eto faint sydd wedi'u heffeithio yn yr ardaloedd hynny.