Cau safleoedd yn Sir Ddinbychwedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich 8 Rhagfyr 2017
Cyngor Sir Ddinbych
Mae'r rhestr o ysgolion sydd ar gau yn Sir Ddinbych yn tyfu, cliciwch yma am y diweddara', dolen allanol.
Nifer o ysgolion wedi cau ddydd Gwener
Rhybudd i deithwyr fod yn wyliadwrus
Rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd mewn grym tan ddydd Sadwrn
Cyngor Sir Ddinbych
Mae'r rhestr o ysgolion sydd ar gau yn Sir Ddinbych yn tyfu, cliciwch yma am y diweddara', dolen allanol.
Mae 'na ysgolion yn y de-ddwyrain hefyd ar gau.
Ym Mlaenau Gwent, mae ysgolion uwchradd Brynmawr, Heolddu a Thredegar wedi trydar i ddweud y byddan nhw ddim ar agor.
Dydy tudalen swyddogol y cyngor, dolen allanol heb gael ei diweddaru eto i gadarnhau hynny.
BBC Cymru Fyw
Yn ôl un o ohebwyr BBC Cymru yn Wrecsam, mae hi'n dechrau bwrw eira'n drwm yno nawr.
Dyma'r olygfa o gampws Prifysgol Glyndŵr.
Cyngor Sir y Fflint
Mae nifer yr ysgolion sydd ar gau yn Sir y Fflint yn cynyddu'n gyson, gyda dros 40 bellach wedi cyhoeddi na fyddan nhw ar agor.
Teithio BBC Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Teithio BBC Cymru
Y rhagolygon diweddaraf gan Robin Owain Jones: "Ar yr A55, mae ‘na eira ac amodau gyrru anodd a pheryglus mewn mannau rhwng cyffordd 24, Rhuddlan a chyffordd 33B, Ewlo, gyda Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori gyrwyr i gymryd gofal.
"Mae’r A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd ynghau i’r ddau gyfeiriad rhwng Glyn Ebwy a Brynmawr wedi i ddwy lori wedi plygu yn eu hanner yn gynharach.
"Ac mae ‘na eira ac amodau gyrru peryglus ar yr A4061, Ffordd Mynydd Rhigos rhwng Hirwaun a Threherbert."
Ers i'r fideo gael ei gyhoeddi, mae Ysgol Maes Garmon wedi cadarnhau y byddan nhw ar gau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyngor Sir y Fflint
Mae'r rhestr o ysgolion fydd ddim yn agor i ddisgyblion yn Sir y Fflint yn tyfu, gan gynnwys ysgolion uwchradd Treffynnon, Argoed a Chastell Alun.
Cyngor Wrecsam
Ar hyn o bryd mae 13 ysgol wedi cau y Wrecsam. Ewch yma am y manylion gan y cyngor, dolen allanol.
Mae criw amgueddfeydd y dref yn barod am y tywydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyngor Sir Ddinbych
Mae nifer o ysgolion cynradd wedi eu cau yn Sir Ddinbych, gan gynnwys ysgolion Llanbedr, Trefnant a Phentrecelyn.
Cliciwch yma am y rhestr, dolen allanol.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyngor Sir y Fflint
Sir y Fflint sydd wedi gweld effaith yr eira waethaf hyd yn hyn, ac mae tair ysgol uwchradd wedi eu cau heddiw:
Ysgol Elfed, Bwcle;
Ysgol Alun, Yr Wyddgrug:
Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug.
Mae sawl ysgol gynradd hefydd wedi eu cau, cliciwch yma am y rhestr ddiweddara', dolen allanol.
Mae'n ymddangos mai'r gogledd ddwyrain sydd wedi'i chael hi waethaf y bore 'ma. Dyma'r olygfa yn Sir Wrecsam, yn ôl cyfri' trydar un o ohebwyr y Daily Post.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Tywydd, BBC Cymru
Mae dros 15 o ysgolion wedi eu cau yn Sir y Fflint, yn ogystal â nifer yn Sir Ddinbych a Wrecsam.
Mae un ysgol hefyd wedi ei chau yn Nhorfaen.
BBC Cymru Fyw
Bore da a chroeso i'r llif byw wrth i eira a rhew effiethio nifer o ysgolion yng Nghymru.