Crynodeb

  • Rhybudd coch am eira i rannau o Gymru

  • Rhybudd ambr hefyd mewn grym o 12:00

  • Cannoedd o ysgolion wedi eu cau

  • Effaith i deithwyr ffyrdd, fferi, tren ac awyr

  1. 30-50cm o eira'n bosibwedi ei gyhoeddi 08:35 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2018

    Y Swyddfa Dywydd

    Mae 10-20cm o eira yn debygol o ddisgyn yng Nghymru heddiw, ond mae rhybudd y gall hyd at 30-50cm ddisgyn mewn rhannau o'r de ddwyrain.

  2. Rhybudd coch am eira a rhewwedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2018

    Y Swyddfa Dywydd

    Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch am eira a rhew i rannau o dde Cymru heddiw.

    Mae'n dod i rym am 15:00 ac yn effeithio'r de ddwyrain.

    Yn ogystal mae rhybudd ambr mewn grym o 12:00 ar gyfer y dwyrain a'r canolbarth, a rhybudd melyn ar gyfer rhan helaeth o'r wlad hefyd.

    Ewch i wefan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol am fwy o wybodaeth.

    Map tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  3. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:28 Amser Safonol Greenwich 1 Mawrth 2018

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i'r llif byw yma fydd yn rhoi'r holl wybodaeth i chi am effaith yr eira ar Gymru heddiw.

    Os ydych chi am rannu neges neu lun cysylltwch ar cymrufyw@bbc.co.uk neu drwy ein cyfrifon Twitter, dolen allanol neu Facebook, dolen allanol.