Crynodeb

  • Sgôr terfynol: Gleision Caerdydd 31-30 Caerloyw

  • Ceisiau Tomos Williams, Garyn Smith a Blaine Scully, gôl gosb i Anscombe a 13 pwynt i Jarrod Evans i'r Gleision

  • Ceisiau i Trinder, Atkinson a Hanson a 15 pwynt o droed Twelvetrees i Gaerloyw

  • Ffeinal Cwpan Her Ewrop yn Stadiwm San Mames, Bilbao

  • Y Gleision yn ennill y gystadleuaeth am yr ail waith

  1. Hanner gwag ta hanner llawn?wedi ei gyhoeddi 20:37 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2018

    Twitter

    Mae amcangyfrif bod rhyw 30,000 o gefnogwyr yn y stadiwm heno, ond nid pawb sy'n meddwl bod hynny'n ddigon...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Anaf arall i'r Gleisionwedi ei gyhoeddi 30 mun

    Ail anaf i'r Gleision, a dim ond hanner awr o chwarae sydd wedi bod.

    Y tro yma yr asgellwr Owen Lane sy'n gafael yn ei fraich, ac mae Garyn Smith ymlaen yn ei le.

  3. Gôl gosb i Gaerloyw. Caerdydd 6-10 Caerloywwedi ei gyhoeddi 26 mun

    Billy Twelvetrees yn manteisio yn dilyn trosedd gan y Gleision, ac mae mantais Caerloyw yn ôl i bedwar pwynt.

  4. Am stadiwm!wedi ei gyhoeddi 22 mun

    Cyfle am seibiant i'r chwaraewyr (a'r gohebwyr) gyda chyfres o sgrymiau - mae hi wedi bod yn 20 munud di-stop!

    Cyfle i werthfawrogi Stadiwm San Mames felly, sydd tua hanner llawn ar gyfer y gêm heno, ond bydd yn llawn dop ar gyfer ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yfory.

    Stadiwm arall sydd â chefnogwyr ynddo ar y funud yw Parc yr Arfau yng Nghaerdydd, gyda dros 2,000 o gefnogwyr yno yn gwylio'r gêm ar sgrin fawr.

    San MamesFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Gôl gosb i'r Gleision! Gleision 6-7 Caerloywwedi ei gyhoeddi 15 mun

    Trosedd gan Gaerloyw yn rhoi cyfle hawdd i Jarrod Evans ddyblu sgôr y Gleision.

    Maen nhw 'nôl o fewn pwynt i'w gwrthwynebwyr.

  6. Dim cais! Gleision 3-7 Caerloywwedi ei gyhoeddi 12 mun

    Mae'r Gleision yn taro 'nôl yn syth, gyda Blaine Scully yn croesi yn y gornel yn dilyn gwaith da gan yr olwyr.

    Ond mae'r swyddog fideo yn cael golwg arall arni, ac mae Scully wedi cael ei dynnu oddi ar y maes chwarae cyn iddo roi'r bêl i lawr, a dyw hi ddim yn gais.

    Y chwarae o un ochr i'r llall yn gyflym yn y chwarter awr agoriadol!

    ScullyFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Cais i Gaerloyw! Gleision 3-7 Caerloywwedi ei gyhoeddi 9 mun

    Rhagor o newyddion drwg i'r clwb o'r brifddinas!

    Cic wych gan y maswr Billy Burns yn canfod yr asgellwr Henry Trinder, ac mae'n gorffen yn dda yn y gornel.

    Billy Twelvetrees yn llwyddiannus gyda chic anodd o'r ystlys hefyd, ac mae'r Gleision ar ei hôl hi.

    Cais
  8. Navidi wedi'i anafuwedi ei gyhoeddi 7 mun

    Mae Josh Navidi, wnaeth serennu dros Gymru yn y Chwe Gwlad eleni, yn edrych fel petai wedi anafu ei ysgwydd.

    Newyddion drwg i'r Gleision - dyw ddim yn iawn i barhau, ac mae Olly Robinson yn dod ymlaen yn ei le.

  9. Gôl gosb i'r Gleision! Gleision 3-0 Caerloywwedi ei gyhoeddi 5 mun

    Yr wythwr Nick WIlliams yn ennill cic gosb i'r Gleision, yn syth o flaen y pyst.

    Jarrod Evans yn llwyddiannus gyda'r gic o 43 metr, ac mae'r Cymry ar y blaen!

    EvansFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Y gêm wedi dechrau!wedi ei gyhoeddi 1 mun

    Mae'r ddau dîm ar y cae ac yn barod i fynd.

    Mae Jerome Garces yn chwythu ei chwiban, a maswr y Gleision Jarrod Evans sy'n cicio tuag at eu gwrthwynebwyr i ddechrau'r gêm.

  11. Y cefnogwyr yn hyderuswedi ei gyhoeddi 19:58 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2018

    Mae'r bwcis yn rhagweld gêm agos heno, gyda'r mwyafrif yn rhoi Caerloyw yn ffefrynnau o ychydig.

    Ond mae cefnogwyr y Gleision yn hyderus, fel wnaeth gohebydd Newyddion 9, Dafydd Gwynn, ddarganfod ar daith trwy Bilbao y prynhawn 'ma.

    Disgrifiad,

    Cefnogwyr y Gleision yn hyderus

  12. Gwrandewch ar sylwebaeth Camp Lawnwedi ei gyhoeddi 19:54 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2018

    BBC Camp Lawn

    Mae hi'n bosib gwrando ar sylwebaeth Radio Cymru o'r gêm heno heb fod angen gadael ein llif byw.

    Cliciwch ar eicon Gleision Caerdydd v Caerloyw ar dop y llif i wrando'n fyw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Tîm Caerloywwedi ei gyhoeddi 19:50 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2018

    Mae Caerloyw yn ceisio ennill y gystadleuaeth yma am y trydydd tro, yn dilyn eu llwyddiant yn 2006 a 2015.

    Maen nhw'n dychwelyd i'w tîm cyntaf arferol, gan wneud 11 newid i'r tîm gollodd i Saracens ddydd Sadwrn.

    Un newid sydd i'w tîm o'r rownd gynderfynol, gyda Ruan Ackermann yn dechrau yn lle Ben Morgan fel wythwr.

    Ruan AckermannFfynhonnell y llun, Getty Images

    Y tîm yn llawn:

    Woodward; Marshall, Twelvetrees, Atkinson, Trinder; Burns, Braley; Hohneck, Hanson, Afoa, Slater (c), Galarza, Polledri, Ludlow, Ackermann.

    Eilyddion: Matu'u, Rapava Ruskin, Balmain, Clarke, Morgan, Vellacott, Symons, Hudson.

  14. Y Cymry'n mwynhau Bilbaowedi ei gyhoeddi 19:47 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2018

    Dafydd Pritchard
    Chwaraeon BBC Cymru yn Bilbao

    Mae Bilbao yn ddinas ddiwylliannol dros ben, llawn amgueddfeydd ac orielau megis yr Amgueddfa Guggenheim.

    Ac mae'n ymddangos bod chwaraewyr Gleision Caerdydd yn hoff o'r lle - roedd ambell un ohonyn nhw i'w gweld yn cerdded o gwmpas yr oriel yn gynharach.

    Mae Bilbao hefyd yn enwog am fwyd, yn enwedig pintxos, sef darnau bychain o fwyd ar fara, tebyg i tapas, ond mae'n debyg bod chwaraewyr y Gleision yn rhy broffesiynol i drio'r bwyd - a'r gwin - lleol heddiw.

    Guggenheim
    Bilbao
  15. Tîm y Gleisionwedi ei gyhoeddi 19:42 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2018

    Y blaenasgellwr Ellis Jenkins fydd capten y Gleision heno yn absenoldeb Gethin Jenkins.

    Mae mwyafrif y tîm drechodd Pau yn y rownd gynderfynol wedi eu henwi, ond mae'r capten arferol yn colli allan drwy anaf.

    Rhys Gill a Blaine Scully sy'n cymryd lle Jenkins ac Alex Cuthbert, tra bod y prop Taufa'ao Filise yn dechrau ei 255fed gêm, a'i olaf i'r rhanbarth.

    Mae Jarrod Evans yn cadw crys y maswr, gyda Gareth Anscombe yn aros fel cefnwr.

    Ellis JenkinsFfynhonnell y llun, Getty Images

    Y tîm yn llawn:

    Anscombe; Lane, Lee-Lo, Halaholo, Scully; Evans, Williams; Gill, Dacey, Filise, Davies, Turnbull, Navidi, Jenkins (c), Williams.

    Eilyddion: Myhill, Thyer, Andrews, Welch, Robinson, Williams, Smith, Morgan.

  16. 'Y perfformiad yma i Wilson'wedi ei gyhoeddi 19:37 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2018

    Twitter

    Gêm heno fydd un olaf y prif hyfforddwr Danny Wilson a'r hyfforddwr ymosod Matt Sherratt gyda'r rhanbarth.

    Bydd Wilson yn ymuno â Wasps fel is-hyfforddwr, tra bo Sherratt yn ymuno â chlwb arall yng Nghymru, y Gweilch.

    Yn y gynhadledd i'r wasg cyn y gêm dywedodd blaenwr y Gleision, Josh Turnbull, y bydd y chwaraewyr yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod eu gêm olaf yn un i'w gofio.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. 'Y Gleision yn ffefrynnau'wedi ei gyhoeddi 19:33 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mai 2018

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    Y prynhawn 'ma bu gohebwyr BBC Cymru, Cennydd Davies a Gareth Charles y tu allan i Stadiwm San Mames yn trafod gobeithion y Gleision.

    Awgrym Gareth Charles yw, er bod Caerloyw yn gallu bod yn dda ar eu gorau, mai'r clwb o'r brifddinas yw'r ffefrynnau.

    Disgrifiad,

    "Y Gleision yn ffefrynnau", medd Gareth Charles

  18. Noson enfawr i'r Gleisionwedi ei gyhoeddi 19:30

    Croeso i'n llif byw arbennig wrth i'r Gleision geisio cipio Cwpan Her Ewrop am yr ail waith yn eu hanes.

    Caerloyw, orffennodd yn seithfed yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor yma, yw'r gwrthwynebwyr yn Bilbao heno.

    Stadiwm pêl-droed yw'r San Mames fel arfer, ond cefnogwyr rygbi fydd yn heidio yno y penwythnos yma ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan Her a Chwpan Pencampwyr Ewrop.

    Arhoswch gyda ni am yr holl gyffro!

    San MamesFfynhonnell y llun, Getty Images