Crynodeb

  • Trydydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 yn Llanelwedd

  • Yr Urdd yn cyhoeddi eu bod yn ystyried safle parhaol i'r Eisteddfod yn y dyfodol

  • Mirain Alaw Jones o Gaerdydd yn ennill Y Fedal Ddrama

  • Gwrandewch ar y cystadlu trwy'r dydd ar Radio Cymru

  1. Glaw erbyn y prynhawn?wedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2018

    Tywydd, BBC Cymru

    Gwnewch y mwyaf o'r tywydd sych yn Llanelwedd tra y gallwch chi, meddai Rhys Griffiths wrth edrych ar ragolygon heddiw:

    "Erbyn amser cinio bydd cawodydd yn dechrau cyrraedd ochrau maes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd, ac yn lledu ar draws y de hefyd.

    "A gan fod y ffrynt yn symud yn araf iawn o achos y diffyg gwynt, unwaith fydd y cawodydd yn eich cyrraedd, gallwch chi bara oddi tanyn nhw am sbel, a gallan nhw fod yn drwm a tharanllyd ar brydiau hefyd.

    "Mae disgwyl prynhawn cymylog a glawiog felly wrth i'r glaw barhau i symud i gyfeiriad y gogledd orllewin, gyda'r tymheredd heddiw ar ei uchaf yn 19C."

  2. Crwydro'r maeswedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Rhy ddiog i gerdded y maes cyfan eich hunan? Peidiwch â phoeni, mae criw yr Urdd wedi bod allan y bore 'ma fel nad oes angen i chi!

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  3. Llywydd y Dyddwedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2018

    BBC Cymru Fyw

    Yr actores Siân Reese Williams, fu'n byw yn Aberhonddu ers ei bod yn bedair oed, yw Llywydd y Dydd heddiw.

    Mae hi'n gyn-actores ar Emmerdale, ac mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gyfresi S4C gan gynnwys Y Gwyll, 35 Diwrnod a Craith.

    Mae'n dweud fod cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd wedi dysgu sgiliau iddi sydd wedi bod yn ddefnyddiol yn ei gyrfa.

    "Mae'n bendant wedi dysgu fi sut i ddelio gyda'r elfen gystadleuol. A sut i ddelio gyda cholli allan i bobl eraill - sydd yr un mor bwysig â llwyddiant."

    Sian Reese WilliamsFfynhonnell y llun, Yr Urdd
  4. Tawelwch cyn y storom?wedi ei gyhoeddi 08:37 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'r Maes yn dawel iawn bore 'ma, yn sicr yn dawelach na gweddill yr wythnos hyd yn hyn, ac mae'r awyr yn llwyd.

    Ond i'r awyr beidio troi'n ddu, fe fyddwn ni'n iawn!

    pafiliwn
  5. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:30 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Bore da, a chroeso i'n llif byw ni o Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd ddydd Mercher.

    Mae'r cystadlu wedi cychwyn yn barod heddiw, a'r uchafbwynt yn y pafiliwn y prynhawn yma fydd cyflwyno'r Fedal Ddrama.