Crynodeb

  • Pumed diwrnod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

  • Mae'r eisteddfod yn cael ei chynnal eleni ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd

  • Enillydd y Goron yw Erin Hughes oedd ddim yn bresennol o achos salwch

  • Yr Urdd yn gosod nod i greu 100 prentisiaeth erbyn 2022

  • Gwrandewch ar y cystadlu trwy'r dydd ar Radio Cymru

  1. Glaw yn clirio i adael awyr laswedi ei gyhoeddi 10:03 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Bydd y cystadleuydd yma'n falch nad oes rhaid rhedeg trwy'r glaw, wrth gario'i offeryn trwm i'w rhagbrawf y bore 'ma.

    Yn ôl y rhagolygon, tywydd ansefydlog yw hi i fod heddiw yn Llanelwedd heddiw, ac mae glaw trwm y bore wedi clirio i adael awyr las.

    Cario offeryn
  2. "Hwb" i ysgrifennu mwywedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Golwg 360

    Mae Osian Wyn Owen, ddaeth yn fuddugol ddoe yng nghystadleuaeth y Gadair yn dweud ei fod wedi ei "annog" i ysgrifennu mwy ar ôl cael sylwadau positif mewn eisteddfodau eraill, dolen allanol.

    Dywedodd wrth Golwg360 ei fod wedi derbyn beirniadaeth gan rhai fel Guto Dafydd, Tudur Dylan a Mari Lisa yn y gorffennol a bod cael llenorion fel y rhain yn "rhoi sêl bendith" ar ei waith yn "fraint ac yn hwb".

  3. Mae'r bwyd yma'n edrych yn flasus!wedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Gêm geiriau ar y maeswedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Llais y Llywydd heddiwwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Yr actor Richard Lynch yw Llais y Llywydd heddiw.

    Mae'n byw yn Aberhonddu ac yn dweud y byddai'n hoffi cystadleuaeth newydd "sy'n ymwneud gyda'r lleiafrifoedd o fewn ein cenedl ni" yn y dyfodol.

    Richard Lynch
  6. Tywydd dydd Gwenerwedi ei gyhoeddi 08:55 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Tywydd, BBC Cymru

    Digon llwydaidd yw hi i ddechrau bore ma gyda niwl a tharth mewn manna a digon cymylog i ni gyd. Mae hi wedi bod yn glawio tua glannau’r gorllewin yn ystod y bore a rhai cawodydd bellach yn lledu tua'r canolbarth.

    Os ydych chi'n crwydro i faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd heddiw felly ma' disgwyl diwrnod ansefydlog. Bydd 'na ysbeidiau heulog a chynnes yn ystod y dydd gyda'r tymheredd yn codi i 23C ar ei ucha'.

    Ond yn ogystal mae'r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn sydd mewn grym hyd ddeg o'r gloch heno, a hynny am gawodydd trymion a tharanllyd all gynnwys cesair.

  7. Tu ôl i'r llenniwedi ei gyhoeddi 08:43 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Bore gwlyb ar faes yr Urddwedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Bore da o faes yr Urdd, ac mae'r glaw wedi cyrraedd!

    Diwrnod i bobl ifanc blwyddyn 10 ac o dan 19 oed yw hi'n bennaf i gystadlu heddiw, ac mi roedd y cystadleuwyr yn rhuthro i'r rhagbrofion trwy'r glaw y bore 'ma.

    Glaw
  9. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:30 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Bore da a chroeso i'n llif byw arbennig o Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd ddiwedd yr wythnos.

    Fe ddawn ni a'r diweddaraf i chi yn ystod y dydd.

    Y brif seremoni prynhawn ma fydd y Coroni.