1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r llif byw yma'n dod i ben.

    Cliciwch yma am y diweddara' am y tanau dros Gymru yn ystod y dydd.

    Dilynwch y diweddara' ar ein cyfrifon Twitter, dolen allanol a Facebook, dolen allanol yn ogystal.

  2. Mwy o wybodaeth am danau'r gogleddwedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

    Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi diweddaru eu datganiad am y tanau y bore 'ma, gan ddweud nad oes pobl wedi eu symud o'u cartrefi eto, ond eu bod wedi paratoi i wneud hynny.

    Bethesda: Tua 30 o gartrefi wedi eu paratoi i symud, cyngor i bobl gadw drysau a ffenestri ynghau.

    Carmel: Criwiau'n dal i fod yno, wrth i'r tân gryfhau eto y bore 'ma. Mae tua 15 o deuluoedd wedi paratoi i adael.

    Bangor: Y tân wedi ei ddiffodd ddoe ond criwiau'n parhau i fonitro'r sefyllfa.

  3. Trafod y tanau ar Taro'r Postwedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Radio Cymru

    Bydd rhaglen Taro'r Post yn trafod y diweddaraf am y tanau dros Gymru am 13:00, ac hefyd yn trafod y problemau eraill sy'n codi oherwydd y sychder anarferol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Tanau gogledd Cymru: Neb wedi eu harestiowedi ei gyhoeddi 10:22 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    Heddlu Gogledd Cymru

    Er nad ydy'r gwasanaeth tân wedi cadarnhau achos y tanau sydd wedi bod yn llosgi yng ngogledd Cymru hyd yn hyn, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud nad oes unrhyw un wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiadau.

    CarmelFfynhonnell y llun, Simon Murray
    TanFfynhonnell y llun, Simon Murray
  5. Craith ar y tir ger Carmelwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r tân wedi gadael ei farc yn glir yng Ngharmel, lle mae diffoddwyr yn parhau i weithio.

    Diolch i Lisa Jones am y llun.

    CarmelFfynhonnell y llun, Lisa Jones
  6. Tân gwair yn dal i losgiwedi ei gyhoeddi 10:03 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae gohebydd y BBC, Stephen Fairclough wedi rhannu fideo o'r tân gwair yma uwchben Maerdy a Glynrhedynog.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 'Angen gofal gyda beiciau modur, barbeciws, sigaréts a gwydr'wedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    Parc Cenedlaethol Eryri

    Mae pennaeth cadwraeth gyda Pharc Cenedlaethol Eryri wedi apelio ar bobl i gymryd gofal gyda beiciau modur, barbeciws, sigaréts a gwydr - sydd i gyd yn gallu achosi tanau.

    "Rydyn ni'n pryderu am nifer y tanau sy'n dechrau yn y parc mor gynnar yn yr haf," meddai Rhys Owen.

    "Mae goblygiadau i fywyd gwyllt, cnydau a choedwigoedd."

    Dywedodd y byddai'r tanau yn effeithio adar ifanc, ymlusgiaid ac anifeiliaid fferm: "Pan mae'r mwg trwchus yn dechrau gyda lot o wres a fflamau, maen nhw'n dychryn a ddim yn symud fel y dylen nhw, ac maen nhw'n gallu cael eu dal ynddyn nhw."

  8. Gofal pia hi!wedi ei gyhoeddi 09:47 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    Twitter

    Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru newydd apelio i bawb gymryd gofal ychwanegol.

    Yn ôl eu datganiad, mae'r tanau gwyllt yn ardaloedd Carmel, Mynydd Cilgwyn a Braichmelyn yn rhoi straen arbennig ar eu gwasanaethau, ac felly maen nhw'n erfyn ar y cyhoedd i gymryd gofal pan allan yn y wlad yn ystod y tywydd sych.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Yr olygfa o'r awyrwedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    Twitter

    Diolch i Ian Thomas am yrru'r fideo trawiadol yma o'r digwyddiad yng Ngharmel neithiwr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Galw criwiau i Frynithel a Phen-brewedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae dau griw a cherbyd 4x4 wedi eu galw i Frynithel ger Abertyleri'r bore 'ma i dân coed.

    Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru eu bod hefyd wedi eu galw yn ôl i Ben-bre, lle mae mawn wedi ailgynnau.

  11. Criwiau'n dal ar safle tân Braichmelynwedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae mwy o luniau wedi ein cyrraedd o ardal Braichmelyn y bore 'ma.

    Mae criwiau tân yn dal i fod ar y safle, ac mae ffyrdd yn dal i fod ar gau.

    Braichmelyn
    Braichmelyn
    Braichmelyn
  12. 'Amodau anodd dros nos'wedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

    Dywedodd Stuart Millington o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod criwiau wedi bod yn delio gydag amrywiaeth o danau gwair a choedwig dros y 24 awr ddiwethaf.

    Mewn "amodau anodd iawn dros nos", dywedodd bod criwiau wedi llwyddo i ddiffodd y fflamau ym Methesda, ond yn parhau i dampio'r ardal.

    Dywedodd bod criwiau'n dal i ddelio gyda digwyddiad tebyg yng Ngharmel.

    "Rydyn ni'n annog pobl os ydyn nhw allan yn yr awyr agored i fod yn ofalus i beidio â gollwng unrhyw ddeunydd ysmygu, i beidio defnyddio barbeciw neu danau gwersylla achos yn sydyn iawn gall tân ddechrau a datblygu tan ein bod mewn sefyllfa lle mae llawer o adnoddau o dros ogledd Cymru yn cael eu galw i ddigwyddiad all fod wedi ei osgoi."

    Stuart Millington
  13. 'Ystyried' galw'r fyddin am gymorthwedi ei gyhoeddi 08:59 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Ar raglen Good Morning Wales, mae Prif Ymgynghorydd Tân ac Achub Cymru, Andy Fry, wedi dweud bod cymorth gan y fyddin yn gallu bod yn "ddefnyddiol iawn" ac yn "rhywbeth sy'n sicr yn cael ei ystyried".

    Ychwanegodd bod y tywydd sych a gwyntoedd cryf "wir yn creu her yn nhermau'r cyflymder y mae'r tanau yma'n lledaenu".

    Dywedodd y gallai ei gydweithwyr dros Gymru fod yn "hyderus bod pa bynnag adnoddau sydd eu hangen i ddelio gyda'r tanau gwyllt yma, yn cael eu darparu iddyn nhw".

  14. Cyngor gan y gwasanaeth tân i drigolion Bethesdawedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Tanau yn y dewedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Yn ne Cymru, mae dau griw yn ceisio diffodd tan gwair dros sawl erw ym Mherthcelyn, Aberpennar.

    Yn ogystal mae criwiau yng Nglynrhedynog a Maerdy yn monitro tanau ddigwyddodd ddoe.

    MaerdyFfynhonnell y llun, @RhiCCFC
  16. Tân o fewn llathenni i gartrefiwedi ei gyhoeddi 08:39 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae ein gohebydd yng Ngharmel, Sion Tecwyn, yn dweud bod y tân yn dal i fudlosgi dros fwy na milltir.

    Mae'n dweud bod criwiau dal ar y safle, a bod y tân wedi dod o fewn llathenni i sawl cartref.

  17. Mwg yn codi o'r coedwedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Roedd mwg i'w weld yn codi o goedwig ger Bethesda fore Mawrth.

    Mae'r gwasanaeth tân wedi dweud bod y digwyddiad dan reolaeth erbyn hyn.

    Bethesda
  18. Ffyrdd ar gau yn ardal Bethesdawedi ei gyhoeddi 08:25 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    Heddlu Gogledd Cymru

    Yn y cyfamser, mae'r gwasanaethau brys yn delio gyda thân arall yn ardal Braichmelyn, Bethesda.

    Cafodd criwiau eu galw am tua 03:00.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Dyma oedd yr olygfa ar fynydd Cilgwyn neithiwrwedi ei gyhoeddi 08:24 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Disgrifiad,

    Tân yn gorfodi pobl o'u tai

  20. 'Erioed wedi gweld tebyg'wedi ei gyhoeddi 08:23 Amser Safonol Greenwich+1 3 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Roedd y tân i'w weld yn glir am filltiroedd neithiwr.

    Dywedodd Lisa Jones sy'n byw yng Ngharmel wrth BBC Cymru Fyw nad ydy hi "erioed wedi gweld tân debyg i hyn o'r blaen".