Crynodeb

  • Aelodau Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit y prif weinidog

  • Y cytundeb wedi ei feirniadu gan aelodau o bob plaid, gan gynnwys y Ceidwadwyr

  • Ond Mrs May wedi gofyn wrth ASau gael "golwg arall" ar ei chytundeb

  1. Pleidlais diffyg hyder?wedi ei gyhoeddi 19:44 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Theresa May yn dweud bod y canlyniad heno yn dweud "dim" ynglŷn â pha fath o gytundeb fyddai Tŷ’r Cyffredin yn fodlon ei dderbyn.

    Mae hefyd yn dweud y byddai'n fodlon cynnal trafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin 'fory os yw Llafur yn dewis galw pleidlais o ddiffyg hyder yn y llywodraeth.

    Mae'r Prif Weinidog yn mynnu ei bod yn parhau i fod eisiau gadael yr UE gyda chytundeb.

    Bydd y llywodraeth nawr yn amlinellu eu cynlluniau nesaf erbyn ddydd Llun, meddai.

  2. 432 yn erbyn y cytundebwedi ei gyhoeddi 19:41 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Fe wnaeth 432 aelod wrthod y cytundeb, a 202 bleidleisio o blaid.

    TM
  3. Aelodau wedi GWRTHOD cytundeb Brexitwedi ei gyhoeddi 19:39 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Aelodau Seneddol wedi gwrthod cytundeb Brexit Theresa May.

  4. Y canlyniad ar ei fforddwedi ei gyhoeddi 19:37 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r aelodau'n ôl, a chanlyniad y brif bleidlais ar ei ffordd...

  5. Ydy Juncker yn disgwyl ymweliad gan May?wedi ei gyhoeddi 19:36 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Beth nesaf?wedi ei gyhoeddi 19:33 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Theresa May wedi gwneud ei hapêl olaf ar ASau i gefnogi ei chytundeb.

    Ond os nad oes cefnogaeth i'r cytundeb heno, does dim sicrwydd am beth fyddai'r camau nesaf i'r llywodraeth.

    Byddai'n rhaid i Mrs May ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin gyda chynllun arall o fewn tri diwrnod, a hynny yn sgil ymyrraeth gan lefarydd y tŷ, John Bercow.

    Does neb wir yn gwybod beth fyddai'r cynllun yna, ond gallai gynnwys gadael heb gytundeb, ymestyn cyfnod Erthygl 50 neu hyd yn oed etholiad cyffredinol neu refferendwm arall.

    Mae BBC Politics wedi cymryd golwg fanylach ar y posibiliadau os nad yw ASau'n cefnogi'r cytundeb.

    Ty'r Cyffredin
  7. 'Erioed wedi bod yn fwy sicr'wedi ei gyhoeddi 19:31 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ond roedd Aelod Seneddol Gŵyr, Tonia Antoniazzi o'r Blaid Lafur, yn bendant mai pleidlais yn erbyn cytundeb y Prif Weinidog oedd yr unig opsiwn.

    "Dydw i ddim yn mynd i newid fy meddwl," meddai wrth BBC Cymru. "Dydw i erioed wedi bod yn fwy sicr o ddim byd yn fy ngyrfa gwleidyddol.

    "Yr hyn sy'n rhaid i ni ei sicrhau yw ein bod ni'n penderfynu ar beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl y bleidlais heddiw."

    Tonia Antoniazzi
  8. 'Ymestyn y dioddefaint'wedi ei gyhoeddi 19:29 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r amser wedi dod i ASau bleidleisio, a bydd aelodau fel Simon Hart yn gobeithio bod araith Theresa May wedi bod yn ddigon i newid meddyliau.

    "Mae 'na amser i bobl newid eu meddyliau," meddai'r aelod seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wrth BBC Cymru yn gynharach heddiw.

    Fel un sy'n gefnogol o gytundeb Theresa May, dywedodd bod unrhyw bleidlais yn ei erbyn yn mynd i "ymestyn y dioddefaint gwleidyddol am wythnosau a misoedd".

    Simon Hart AS
  9. 'Ffin Iwerddon y pwynt pwysicaf'wedi ei gyhoeddi 19:27 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Radio Cymru

    Helen Mary Jones, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru dros Blaid Cymru, yn siarad ar BBC Radio Cymru heno yn dweud ei bod hi'n "tybio" mai'r rheswm oedd aelodau ei phlaid wedi tynnu'r gwelliant (K) yn ôl oedd oherwydd eu bod nhw'n credu na fydden nhw'n ennill y bleidlais a bod angen canolbwyntio ar y gwelliant (F) sy'n rhoi'r hawl i'r DU ddiddymu'r 'backstop'.

    Dywedodd Melanie Owen, aelod Torïaidd wnaeth ymgyrchu i adael yr UE, ei bod hi'n cytuno gyda'r gwelliant hwnnw gan mai'r "ffin yn Iwerddon ydy'r pwynt pwysicaf" yn y trafodaethau.

  10. Gwelliant Baron wedi methuwedi ei gyhoeddi 19:24 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae gwelliant John Baron wedi methu'n glir, gydag ond 24 yn ei gefnogi.

    Byddwn ni nawr yn symud ymlaen at y brif bleidlais.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Aelodau'n ôl yn y siambrwedi ei gyhoeddi 19:22 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae aelodau'n dod yn ôl i'r siambr ar gyfer canlyniad y bleidlais ar y gwelliant cyntaf

  12. Beth ydy'r ymateb o'r Cynulliad?wedi ei gyhoeddi 19:21 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates wedi cyhoeddi rhybudd cyn y bleidlais yn San Steffan heno ar fusnesau yng Nghymru i baratoi ar gyfer Brexit.

    Dywedodd Mr Skates fod "ymadael heb gytundeb bellach yn fwy tebygol", a bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud "cynlluniau wrth gefn".

    Yn ôl ym mis Rhagfyr fe wnaeth Aelodau Cynulliad wrthod a chefnogi cytundeb Theresa May mewn pleidlais symbolaidd ym Mae Caerdydd.

    Er gwaetha'r bleidlais, gan mai Llywodraeth y DU sydd â grym dros Brexit, nid oes rhaid i Mrs May na'i chabinet weithredu ar y canlyniad.

    ken skates
  13. Galw am 'zen' yn San Steffanwedi ei gyhoeddi 19:17 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae nifer y protestwyr yn San Steffan wedi bod yn tyfu'n gyson yn ystod y dyddiau diwethaf, ac maen wedi bod yn swnllyd iawn i lawr ger Tŷ'r Cyffredin heno.

    Roedd hi'n swnllyd yn Nhŷ'r Cyffredin hefyd, gyda'r Llefarydd John Bercow yn gorfod gofyn am "zen" ymhlith ASau.

  14. Dilynwch raglen arbennig Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 19:15 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Canlyniad cynt na'r disgwyl?wedi ei gyhoeddi 19:12 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae ASau nawr yn pleidleisio ar yr unig welliant sydd wedi'i gynnig i'r Cytundeb Brexit, un John Baron.

    Gan mai dim ond un pleidlais ar welliant sy'n digwydd, mae'n golygu y bydd y brif bleidlais ar y cytundeb yn digwydd yn gynt na'r disgwyl heno, tua 19:30 o bosib.

  16. Dylan Iorwerth a'r 'llanast Brexit'wedi ei gyhoeddi 19:10 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    Golwg 360

    Mae'r newyddiadurwr Dylan Iorwerth wedi ysgrifennu pwt o flog ar wefan golwg360, ble mae'n trafod goblygiadau'r hyn mae'n ei alw'n "Y Bleidlais Fawr".

    "Yr un peth braf am y llanast Brexit ydy clywed gwleidyddion profiadol a sylwebyddion doeth heb y syniad lleia’ be' fydd yn digwydd nesa’."

    Darllenwch y blog yn llawn ar golwg360 yma., dolen allanol

  17. Beth yw'r 'backstop'?wedi ei gyhoeddi 19:06 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Un elfen o'r cytundeb Brexit sydd wedi corddi llawer, yn enwedig rhai o ASau'r Ceidwadwyr a'r DUP, ydy'r backstop ar gyfer Gogledd Iwerddon.

    Cynllun wrth gefn ydy o, fyddai ond yn dod i rym os nad oedd y DU a'r UE yn llwyddo i ddod i gytundeb ehangach ar y berthynas rhyngddynt ar ôl Brexit.

    Yn y sefyllfa honno, byddai Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rhai o reolau'r farchnad sengl.

    Byddai'r DU hefyd mwy neu lai yn aros yn undeb dollau'r UE dros dro, nes bod y ddwy ochr yn cytuno i ddod â'r trefniant i ben.

    Mae Theresa May wedi amddiffyn y backstop, gan ddweud ei fod yno i sicrhau nad oes ffin galed yn dychwelyd yng Ngogledd Iwerddon.

    Ond pryder rhai yw y byddai'n trin Gogledd Iwerddon yn wahanol i weddill y DU, gan danseilio'r undeb.

  18. Pleidlais ar un gwelliantwedi ei gyhoeddi 19:05 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Newid i'r drefn ddisgwyliedig - fydd 'na DDIM pleidlais nawr ar y tri gwelliant cyntaf, dim ond yr olaf gan John Baron AS.

    Byddai'r gwelliant yma'n rhoi'r hawl i'r DU ddiddymu'r backstop yng Ngogledd Iwerddon heb ganiatâd yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n cael ei gefnogi gan grŵp trawsbleidiol o ASau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
  19. Y gwelliannau dan ystyriaethwedi ei gyhoeddi 19:01 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

  20. Crabb: Cytundeb 'bron yn sicr' o gael ei wrthodwedi ei gyhoeddi 19:00 Amser Safonol Greenwich 15 Ionawr 2019

    BBC Cymru Fyw

    Er ei gefnogaeth i Mrs May, mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb wedi cyfaddef ei bod hi "bron yn sicr" y bydd y cytundeb yn cael ei drechu heno.

    AS Preseli Penfro yw un o'r aelodau Ceidwadol sydd wedi dweud y bydd yn cefnogi'r prif weinidog, Theresa May yn y bleidlais.

    Dywedodd mai pleidleisio o blaid y cytundeb oedd "y peth iawn i wneud" i unrhyw un oedd eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus.

    Stephen CrabbFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu Mr Crabb yn siarad yn y ddadl ar y cytundeb yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach